Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Bryn Pritchard Jones (Rheolwr Gwasanaeth Morwrol) a Mr Phil Thomas (Preswylydd Lleol) 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 137 KB

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

 

Dydd Sul 11:00 – 22:00

Dydd Llun 11:00 - 22:00

Dydd Mawrth 11:00 - 22:00

Dydd Mercher 11:00 - 22:00

Dydd Iau 11:00 - 22:00

Dydd Gwener  11:00 - 22:00

Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy

 

Cyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo

 

Dydd Sul 11:00 - 22:00

Dydd Llun 11:00 22:00

Dydd Mawrth 11:00 - 22:00

Dydd Mercher 11:00 - 22:00

Dydd Iau 11:00 - 22:00

Dydd Gwener 11:00 - 22:00

Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded:

  • Hyfforddiant Staff
  • Her 25
  • Bydd alcohol, a archebir fel gwerthiant oddi ar y safle i'w ddanfon allan (tecawê), yn cael ei werthu mewn cynwysyddion wedi'u selio.
  • Bydd pob gwerthiant alcohol arall i'w yfed ar y safle ac oddi arno yn cael ei werthu mewn cwpanau plastig y gellir eu hailddefnyddio o dan gynllun blaendal.
  • TCC yn weithredol ar y safle

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Otto’s Aberdyfi, Unit 2, Information Centre, The Wharf, Seaview Terrace, Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0ED. Eglurwyd mai caffi bychan yw’r eiddo wedi ei leoli yng ngherddi y cei yn Aberdyfi sydd gydag ardal eistedd ddynodedig tu allan ac yn wynebu’r môr, i ffwrdd oddi wrth y ffordd a phreswylfeydd. Amlygwyd bod yr ardal yn cael ei rentu gan Harbwr Aberdyfi a Chyngor Gwynedd.

 

Nodwyd bod y caffi yn gwerthu pitsas, brechdanau ac ati o’r eiddo ar gyfer eu bwyta ar yr eiddo yn yr ardal tu allan, neu oddi ar yr eiddo fel pryd ar glyd. Bydd bwriad hefyd gwerthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo yn ddyddiol neu ei werthu gyda bwyd pryd ar glyd mewn cynhwysyddion wedi eu selio – yr ymgeisydd yn ceisio am drwydded i werthu alcohol (ar ac oddi ar yr eiddo) o 11:00 – 22:00, o ddydd Llun i Sul. Bydd yr amser agor yn cael ei amrywio yn dymhorol.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Adroddwyd nad oedd yr Awdurdodau Cyfrifol wedi cyflwyno sylwadau, ond tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd gan Aelodau o’r Cyhoedd a’r Gwasanaeth Morwrol. Roedd y cyhoedd, yn pryderu, o safbwynt diogelwch y gallai cais am unrhyw werthiant alcohol ger y porthladd / harbwr arwain at ddamweiniau gerllaw ardal lle mae teuluoedd â phlant yn mwynhau pysgota cranc. Amlygwyd pryder hefyd,

·        byddai cyfuno gwerthu alcohol gyda gwerthiant bwyd i’w fwyta i ffwrdd o’r eiddo yn cynyddu'r posibilrwydd y bydd Gerddi Wharf yn cael eu defnyddio i fwyta'r bwyd ac yfed unrhyw alcohol a brynwyd ar yr un pryd - hyn yn cynyddu'r posibilrwydd o drafferthion ymddygiad anghymdeithasol, gan gynnwys sŵn annheg ac amhriodol, arogleuon, gwastraff (gan gynnwys gwydr).

·        bod lleoliad y bwyty mewn lle prysur iawn ar yr harbwr yn Aberdyfi – cychod pysgota gweithredol a cherbydau yn lansio a llwytho. Y Gwaun, sydd yn cael ei redeg gan Rheolwr yr Harbwr, yn brysur gyda materion diogelwch.

 

Roedd sylwadau’r Gwasanaeth Morwrol yn nodi pryder nad oedd yr ymgeisydd heb dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi cyn cyflwyno cais gwerthu alcohol.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell bod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau'r ymatebwyr, ac ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon - ac yn caniatáu’r cais.   Ystyriwyd bod yr oriau a ofynnwyd amdanynt yn rhesymol, ac yn cyd-fynd hefo busnesau cyffelyb gerllaw. Nid prif bwrpas y busnes yw gwerthu alcohol; y bwriad yw bod y gwerthiant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.