Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU To receive
any apologies for absence. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO Bella Pizza, 19 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RF. I ystyried y cais. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais Oriau Agor: Oriau Agor: Dydd Sul 16:00 – 00:00 Dydd Llun 16:00 – 00:00 Dydd Mawrth 16:00 – 00:00 Dydd Mercher 16:00 – 00:00 Dydd Iau 16:00 – 00:00 Dydd Gwener 16:00 – 01:00 Dydd Sadwrn 16:00 – 01:00 Gweithgareddau Trwyddedadwy: Lluniaeth hwyr yn y nos – Oddi ar yr
eiddo Dydd Sul 23:00 – 00:00 Dydd Llun 23:00 – 00:00 Dydd Mawrth 23:00 – 00:00 Dydd Mercher 23:00 – 00:00 Dydd Iau 23:00 – 00:00 Dydd Gwener 23:00 – 01:00 Dydd Sadwrn 23:00 – 01:00 Y
mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y
drwydded:
Nodyn: Dylid cadw'r amodau cynllunio sy'n ymwneud â'r uned
echdynnu neu'r offer cysylltiedig, a chadarnhau bod hyn wedi'i gytuno a'i
dderbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr
Adran Amgylchedd yn manylu ar gais
am drwydded eiddo ar gyfer Bella Pizza, 19 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd.
Roedd y cwmni yn gwneud cais am drwydded eiddo ar gyfer darparu Lluniaeth Hwyr
yn y Nos oddi ar yr eiddo dydd Llun - dydd Iau 23:00-00:00, dydd Gwener - dydd
Sadwrn 23:00-02:00, a dydd Sul 23:00-00:00. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded. Adroddwyd bod Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad
yn ymwneud ag agosatrwydd yr eiddo at adeiladu preswyl ynghyd a phryder am effaith gronnus lleoliadau trwyddedig eraill ar y stryd
fyddai’n tanseilio'r amcan i atal
niwsans cyhoeddus. Roedd Aelod o’r cyhoedd hefyd yn
gwrthwynebu ar sail aflonyddwch a chynnydd posib mewn ymddygiad
gwrthgymdeithasol sydd eisoes yn bodoli
yn yr ardal yma. Ategwyd y gall y datblygiad gael effaith negyddol ar leoliad hanesyddol
a gwaethygu’r broblem o sbwriel. Gwnaed awgrym y dylid cael swyddogion diogelwch ar y drws. Cyfeiriwyd at gadarnhad gan yr Adran Cynllunio bod cais
Cynllunio i ddiwygio’r oriau wedi ei
ddilysu ac yn cael ei ystyried,
er yn tynnu sylw mai estyniad
hyd at 1:00 yn unig oedd ar
y cais. Roedd Heddlu
Gogledd Cymru yn cadarnhau nad oedd
ganddynt wrthwynebiad i’r cais a Chyngor
Tref Caernarfon yn unfrydol
yn cefnogi’r cais gan gydnabod
nad yw'r eiddo yn gwerthu
alcohol nac yn chwarae cerddoriaeth, ac yn weithredol yn
annog pobl i beidio â pharcio
ar y stryd Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r
Pwyllgor ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, yn enwedig y pryderon am y
posibilrwydd y gallai ymestyn oriau agor y busnes bwyd i'w gario allan
waethygu'r ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol yn y stryd drwy ddenu grwpiau
o bobl ifanc a'u cadw yno'n hwyrach. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. ·
Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais c) Mewn ymateb i gwestiwn am y nifer lleoliadau tebyg yn y dref sydd gydag oriau cyffelyb ac yn gwerthu bwyd tecawe, nodwyd bod chwe lleoliad yn y dref, ond dim un gyda swyddogion diogelwch ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO Soch, Stryd Fawr, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7DS I ystyried y cais. Penderfyniad: YMGEISYDD WEDI
TYNNU Y CAIS YN ÔL Cofnod: YMGEISYDD WEDI TYNNU Y CAIS YN ÔL |