Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Nia Jeffreys (Aelod Lleol) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO ROBERTS’S NEWSAGENTS 63 STRYD FAWR, PORTHMADOG, LL49 9LR I ystyried y cais Penderfyniad: PENDERFYNAID: Caniatáu y cais Oriau Agor: Dydd Sul 06:00 – 00:00 Dydd Llun 06:00 – 00:00 Dydd Mawrth 06:00 – 00:00 Dydd Mercher 06:00 – 00:00 Dydd Iau 06:00 – 00:00 Dydd Gwener 06:00 – 00:00 Dydd Sadwrn 06:00 – 00:00 Gweithgareddau Trwyddedadwy:
Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo Dydd Sul 06:00 – 23:00 Dydd Llun 06:00 – 23:00 Dydd Mawrth 06:00 – 23:00 Dydd Mercher 06:00 – 23:00 Dydd Iau 06:00 – 23:00 Dydd Gwener 06:00 – 23:00 Dydd Sadwrn 06:00 – 23:00 Mesurau ychwanegol, · Bydd
yr holl staff sy'n gwerthu alcohol neu'n cyflenwi alcohol i gwsmeriaid yn
derbyn hyfforddiant o dan y drwydded o fewn chwe wythnos o gael eu cyflogi, a
chaiff hyn ei ddogfennu. · Darparu
camera TCC ar ffurf system y gellir ei recordio, a byddwn yn cynnal y system
a'i chadw am 31 diwrnod. Bydd y recordiadau ar gael i unrhyw awdurdodau
cyfrifol. · Deilydd y drwydded i
sicrhau bod darpariaethau diogelwch tân priodol mewn lle, a bydd llwybrau dianc
sydd wedi eu marcio'n glir ac yn cael eu cadw'n rhydd o rwystrau. · Rheolwr
y siop i sicrhau bod cwsmeriaid yn symud i ffwrdd o'r eiddo ac nad ydynt yn
loetran yn yr ardal. · Bydd
yr eiddo yn gweithredu polisi 'Her 25'. · Bydd
cardiau adnabod gyda marciau holograffig, pasbort neu
gardiau PASS yn cael eu derbyn, a bydd arwyddion atgoffa ar y til yn cael eu
defnyddio ar gyfer cynnyrch sydd â chyfyngiad oedran. Ynghyd â rhestr lawn o’r mesurau yn Rhan M o’r cais
sydd yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd i hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr
Adran Amgylchedd yn manylu ar gais
am drwydded eiddo gan Roberts’s Newsagents (Pikes). Disgrifiwyd
yr eiddo fel siop bapur newydd
gyda’r bwriad o barhau i weithredu
fel siop yn bennaf, ond
i gynnwys darpariaeth ar gyfer gwerthu alcohol i’w yfed oddi
ar yr eiddo. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded. Adroddwyd bod yr Aelod Lleol wedi cyflwyno sylwadau
yn mynegi pryderon mewn perthynas
ag atal trosedd ac anrhefn, atal niwsans
cyhoeddus a diogelwch y cyhoedd. Gyda bwriad gwerthu alcohol o 6:00 tan 00:00, 7 diwrnod
yr wythnos, gallai ddylanwadu ar lefelau
yfed, patrymau yfed, a niwed sydd
yn gysylltiedig ag alcohol.
Roedd yr Aelod yn argymell cwtogi’r oriau er mwyn lleihau’r
potensial o drosedd ac anrhefn yn y dref
ac er lles diogelwch y cyhoedd. Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu bod yr ymgeisydd, ers derbyn sylwadau’r Aelod Lleol, wedi cynnig
lleihau’r oriau gwerthu alcohol - 1 awr bob dydd ar ddiwedd
y dydd, ond bod yr Aelod Lleol wedi nodi nad oedd y cynnig
yn lleddfu pryderon, er gwerthfawrogi'r cynnig o gyfaddawd. Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r
Pwyllgor argymell bod y Pwyllgor yn ystyried y sylwadau a’r argymhellion a
wnaed i gwtogi’r oriau gweithredu a’i fod yn gwneud penderfyniad yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. ·
Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais c)
Mewn
ymateb i gwestiwn pam nad oedd sylwadau wedi eu derbyn gan yr Heddlu a
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, nodwyd bod yr Adran wedi cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus, 28 diwrnod sydd yn rhoi amser digonol i unrhyw un gyflwyno sylwadau.
Yn yr achos yma, ni dderbyniwyd ymateb gan yr awdurdodau cyfrifol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â defnydd presennol y siop, fel siop bapur newydd ac un
sy’n gwerthu offer pysgota ac a fyddai’r gwasanaeth yma yn parhau, cadarnhawyd
bod yr elfennau hyn yn parhau. ch)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol: · Bod y siop yn siop ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |