Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Arwel Thomas (Uwch Swyddog Cynllunio) a gan gynrychiolydd Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 166 KB

MORLO LOUNGE, MAES YR ORSAF, PWLLHELI

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 08:00 – 00:30

Dydd Llun 08:00 – 00:30

Dydd Mawrth 08:00 – 00:30

Dydd Mercher 08:00 – 00:30

Dydd Iau 08:00 – 00:30

Dydd Gwener 08:00 – 00:30

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:30

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Lluniaeth hwyr yn y nos - Tu mewn a’r Tu Allan

Dydd Sul 23:00 – 00:00

Dydd Llun 23:00 – 00:00

Dydd Mawrth 23:00 – 00:00

Dydd Mercher 23:00 – 00:00

Dydd Iau 23:00 – 00:00

Dydd Gwener 23:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 00:00

 

Cyflenwi Alcohol - Ar ac oddi ar yr Eiddo

Dydd Sul 08:00 – 00:00

Dydd Llun 08:00 – 00:00

Dydd Mawrth 08:00 – 00:00

Dydd Mercher 08:00 – 00:00

Dydd Iau 08:00 – 00:00

Dydd Gwener 08:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00

 

Mesurau ychwanegol:

  • Rhaid cau'r ardal eistedd allanol ar Ffordd y Cob (Embankment Road) ar ôl 22:00 a gweddill yr ardaloedd tu allan i gau am 23:00.
  • Ni fydd diodydd mewn gwydr yn cael ei weini yn yr ardal tu allan ar Ffordd y Cob ( Embankment Road)

 

  • Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau  22:00 - 07:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead.
  • Rhestr lawn o'r mesurau fel y nodir yn Rhan M o'r cais ac a gynigiwyd gan yr ymgeisydd i hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded

 

Nodyn: I gynnal Cynllun Rheoli Sŵn ysgrifenedig, gan sicrhau y bydd ar gael ar gais swyddogion awdurdodedig, a chymryd camau priodol i sicrhau diogelwch.

 

Cofnod:

Cais amrywiad trwydded eiddo - Morlo Lounge, Maes yr Orsaf, Pwllheli

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)               Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan Loungers Uk Ltd. Eglurwyd bod yr eiddo, hyd yn ddiweddar wedi bod yn glwb nos a bwyty trwyddedig.

 

Amlygwyd bod y drwydded gyfredol yn nodi oriau agor hyd 03:00 a 04:00 nos Sadwrn / bore Sul ac yn cynnwys yr hawl i gynnal cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi ei recordio a pherfformiadau dawns tan 02:45, a 3:45 ar nos Sadwrn / bore Sul; gwerthiant alcohol a lluniaeth hwyr y nos tan 02:30 (3:30 nos Sadwrn / fore Sul) a digwyddiadau chwaraeon hyd 23:45. Ategwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi nodi newid yn oriau'r drwydded arfaethedig ac nid oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno ynglŷn â’r oriau y bwriedir eu gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau diwygiedig i ymestyn ardal drwyddedig yr eiddo i gynnwys ardal o balmant tu allan i’r eiddo, ond nid oedd gwybodaeth wedi ei dderbyn gan asiant yr ymgeisydd o ran perchnogaeth y darn yma o balmant cyhoeddus. Er hynny, nodwyd bod cais am drwydded adran 115 ar gyfer defnydd dodrefn stryd wedi ei gyflwyno.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Cynigiwyd sylwadau gan BIPBC oedd yn mynegi pryder ynglŷn ag oriau hwyr y drwydded ac o ganiatáu gwerthiant alcohol i’w yfed tu allan tan 23:00 ar y palmant; y byddai cyfyngu'r gofod cerdded yn tanseilio diogelwch cerddwyr ac / neu gynyddu’r risg o ymddygiad gwrth gymdeithasol, aflonyddwch sŵn ac amlygiad plant a theuluoedd i amgylchiadau lle mae alcohol yn cael ei yfed.

 

Nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais, ond yn mynegi pryder bod oriau agor y clwb nos yn parhau mewn grym ac y byddai trwydded hwyr yn cynyddu risg o ddigwyddiadau trosedd ac anrhefn a thrais sy’n gysylltiedig ag alcohol. Roeddynt hefyd wedi nodi nad oedd mesurau mewn lle i reoli defnydd gwydr yn yr ardal allanol.

 

Yng nghyd-destun materion Cynllunio, derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Cynllunio yn gwrthwynebu’r cais gan fod yr estyniad arfaethedig oedd yn cynnwys ardaloedd allanol ychwanegol yn mynd tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfreithlon o ran defnydd tir ar y caniatâd Cynllunio cyfredol.

 

Roedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â diffyg Asesiad Effaith Sŵn fyddai’n cefnogi'r cais cynllunio a hefyd am ddefnydd yr ardaloedd allanol fydd gyda photensial o gynyddu sŵn cwsmeriaid, neu sŵn cerddoriaeth fyddai’n effeithio trigolion cyfagos. Roedd y gwasanaeth wedi cynnig amodau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.