Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PANT YR ARDD, TREGARTH, BANGOR, LL57 4PL Ystyried y cais uchod Cofnod: CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – PANT YR
ARDD, TREGARTH, BANGOR Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen . Cyflwynwyd y panel ar
swyddogion i bawb oedd yn bresennol Ar ran yr eiddo: Mr Kenneth Richard Williams (yr ymgeisydd) a Mr Robert
Williams Aelod Lleol: Cyng.
Gwen Griffith Eraill a fynychwyd: Mr Huw Jones (Cyngor Cymuned
Llandygai), Mr P a Mrs H Jones (trigolion cyfagos) Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu. a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Kenneth Richard
Williams am drwydded eiddo ar gyfer Pant yr Ardd, Tregarth, Bangor. Er mai cais
ydoedd ar gyfer tŷ tafarn gyda gardd gwrw, tynnwyd sylw nad oedd cynllun yr eiddo a dderbyniwyd
gyda’r ffurflen gais yn cynnwys lleoliad yr ardd gwrw.
O ran gwybodaeth gefndirol, nodwyd bod trwydded eiddo wedi bodoli ar gyfer yr
eiddo ers 24.11.2005 ond cafodd ei ildio 20.05.15. Cyfeiriwyd hefyd bod yr
ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu fel
rhan o’i gais ac yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a’r
Awdurdod Trwyddedu wedi cytuno i’r amodau sŵn ac i amodau teledu cylch
cyfyng b)
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd bod
gwrthwynebiad i’r cais gan Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd ac yr Awdurdod
Trwyddedu. Nid oedd sylwadau wedi ei derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru ac nid
oedd gwrthwynebiad gan y Gwasanaeth Tân
ac Achub. Yn ychwanegol, derbyniwyd pum gwrthwynebiad gan bartïon eraill yn
seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Trosedd ac Anrhefn ac Atal Niwsans
Cyhoeddus. Prif bryderon y gwrthwynebwyr oedd cynnydd mewn sŵn, anrhefn,
sbwriel a gweithgareddau trwyddedadwy fydd yn cael eu
cynnig yn yr ardd gwrw. c)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i
rannu eu sylwadau. Nodwyd hefyd bod yr Aelodau wedi cynnal ymweliad safle. ch) Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd
ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a'i fod eisoes wedi cytuno
gyda’r amodau sŵn a theledu cylch cyfyng ac wedi gostwng rhai oriau agor.
Mynegodd na fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae tu allan i’r eiddo, yn y maes
parcio/gardd gwrw, a phe
bai eisiau cynnal digwyddiad trwyddedadwy yn y maes
parcio/gardd gwrw yn y
dyfodol, roedd yn ymwybodol o’r angen i wneud cais am drwydded ychwanegol.
Roedd yr ymgeisydd yn barod i gydweithio gyda gofynion y gymuned drwy ystyried
gostyngiad yn yr oriau a chau drysau a ffenestri i geisio
atal sŵn. d)
Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan Mr Brazier dd) Mewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |