Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol.
Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i rannu eu
sylwadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO PDF 206 KB VICTORIA-N-SLIPWAY.
MARINE PARADE, TYWYN, GWYNEDD, LL36 0DG Ystyried
y cais uchod Cofnod: THE
VICTORIA-N-SLIPWAY, MARINE PARADE, TYWYN Ar ran yr
eiddo: Mr
Mark Greaves (ymgeisydd), Ms Karen L Darby (asiant) Aelod Lleol: Cyng.
Mike Stevens Eraill a fynychwyd: Mr
Robert Wynne (Preswylydd Lleol) Ymddiheuriadau: R Price, S Pickering
a Mr Oliver (Preswylwyr Lleol), Sheryl Le Bon Jones (Rheolwr Trwyddedu), Mr J
Hughes (Gwasanaeth Tân), Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru), Cynghorydd
Anne Lloyd Jones (Aelod Lleol) a Cynghorydd Angela Russell Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu. a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Mark Andrew Greaves ar
ran cwmni Victoria-N-Slipway Pub
am drwydded eiddo o’r newydd ar gyfer The Victoria-N-Slipway,
Marine Parade, Tywyn. Cais ydoedd ar gyfer eiddo
newydd fydd yn cynnwys lle bwyta dros ddau lawr ar gyfer 150 o bobl gyda
balconi allanol a gardd gwrw
i’r ochr. Nodwyd manylion am yr oriau
cyfredol a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar
amcan trwyddedu fel rhan o’r cais. Yn dilyn cyfnod ymgynghori,
nodwyd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno
bod teledu cylch cyfyng (TCC) yn cael ei
osod ar yr eiddo yn destun i amodau penodol TCC. Derbyniwyd saith gwrthwynebiad i’r cais oddi
wrth breswylwyr lleol yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Trosedd ac
Anrhefn ac Atal Niwsans Cyhoeddus. Roedd
eu pryderon yn ymwneud ac oriau agor hwyr, agosatrwydd yr eiddo i gartrefi
preswylwyr, fydd o ganlyniad yn debygol o greu niwsans cyhoeddus a diffyg
cyfleusterau parcio. b) Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai. c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a chadarnhaodd bod yr ymgeisydd, yn
dilyn trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cytuno i amodau TCC. Sylwadau
ychwanegol o fwriad yr ymgeisydd; ·
Cynnal enw da, yn lleol gyda gwasanaeth o ansawdd
da. ·
Ni fydd aflonyddwch i drigolion lleol. Yr adeilad
wedi ei lunio gyda phreswylwyr mewn golwg. Nid oedd unrhyw fwriad i greu gofid
i breswylwyr lleol, ond i gydweithio. ·
Nid yw’r cynlluniau wedi eu haddasu - bwyty yw’r
bwriad ac nid clwb nos. ·
Deunyddiau atal/lleihau sŵn i’w defnyddio. ·
Hyblygrwydd gydag amseroedd agor yn ddibynnol ar
ddigwyddiadau ac ar y busnes. Yr oriau yn gyfatebol i oriau tafarndai cyfagos. ·
Yr eiddo mewn lleoliad sydd yn boblogaidd gyda
thwristiaid. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth sydd yn ymateb i’r galw yn lleol
ac yn creu swyddi yn lleol. ·
Bydd yr ardal yn debygol o gael ei phlismona yn aml
oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch. · Nid oes prinder mannau parcio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |