Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Siân W
Hughes (Aelod Lleol), Yr Awdurdod Tan, Richard a Christine Archbell
a Rhodri a Vanessa Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 253 KB Caffi
Porthdinllaen, Lon Golff, Morfa Nefyn LL53 6BE
I ystyried
y cais uchod COFNODION: Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb
oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 5 munud i gyflwyno sylwadau
uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr
eiddo: Mr James Munday (ymgeisydd)
a Mrs Wena P Williams Eraill
a wahoddwyd: Mr Ian
Williams ( Heddlu Gogledd Cymru) Mr
Peter Jones, Mrs Hazel Pielow, Mr T Gareth Gruffydd, Mr Idris Williams, Mrs
Shan Gruffydd, Mr Tony Connelly, Mrs Dolwen Williams a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo o’r newydd ar gyfer
Caffi Porthdinllaen, Lon Golff, Morfa Nefyn mewn perthynas â chyflenwi alcohol ar ac oddi
ar yr eiddo o hanner dydd tan 11 yr hwyr, pob dydd a chwarae cerddoriaeth wedi
ei recordio ar yr eiddo. Bydd darpariaeth cludo archebion bwyd oddi ar yr eiddo
yn cael ei gynnig ac fe fydd archebu alcohol gyda’r archeb bwyd yn rhan o’r
cynnig. Amlygywd bod yr eiddo yn gaffi sydd yn agored tan yn hwyr yn y
prynhawn, gydag ardal allanol ar gyfer cwsmeriaid. Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau
arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf
Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd
yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a
dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod ugain o lythyrau / e-byst wedi eu
derbyn, gyda 19 yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu. Tynnwyd
sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan yr Aelod Lleol, Cyngor Tref Nefyn a
thrigolion lleol yn yr adroddiad. Amlygwyd bod rhai o’r gwrthwynebiadau yn
cynnwys pryderon am ddarpariaeth parcio, problemau parcio ar y ffordd gul ynghyd
a chynnydd mewn traffig. Nid oedd ymateb wedi ei dderbyn gan yr Uned
Trafnidiaeth i’r pryderon hyn. Mewn ymateb i sylwadau am ddigwyddiadau
gwrthgymdeithasol a phryderon sŵn, nodwyd nad oedd Gwasanaeth Iechyd a
Diogelwch Amgylchedd wedi derbyn cwynion swyddogol am hyn na chwynion am
effaith goleuo hwyr y nos a gwaredu gwastraff. Nodwyd Swyddog ar ran yr Heddlu
nad oedd cofnod o ddigwyddiad gwerthgymdeithasol wed ei gofnodi ganddynt. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. · Gwahoddwyd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais · Rhoddwyd cyfle i’r
ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau · Gwahoddwyd deilydd
y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau · Rhoddwyd cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. · Rhoddwyd cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol: · Nad oedd bwriad
agor y caffi / bwyty yn hwyrach na 9pm (digwyddiadau penodol yn unig) · Nad oedd bwriad
rhedeg y caffi / bwyty fel tafarn - bwyty gyda naws deuluol ydoedd · Bwriad y cais am drwydded oedd cynnig alcohol gyda bwyd a byddai alcohol yn ... view the full COFNODION text for item 4. |