Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Mair Rowlands (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Datgan unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Amlygodd y Cadeirydd bod cais wedi dod i law gan yr
ymgeisydd yn eitem 4 isod i gyflwyno tystiolaeth fideo yn ystod y gwrandawiad.
Amlygodd y Cyfreithiwr, o dan yr amgylchiadau bydd rheoliad 18 o’r Rheoliadau
Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005 yn berthnasol. Gan fod yr ymgeisydd
yn cyflwyno tystiolaeth hwyr bydd angen i bob parti yn bresennol y gwrandawiad
roi caniatâd i’r ymgeisydd i ddangos y clip. Os byddai un parti yn gwrthwynebu
ni fydd modd i’r Is-bwyllgor ystyried y fideo. Gadawodd yr Is-bwyllgor yr ystafell a chafodd y partïon
gyfle i wylio cynnwys y fideo. Pan ddychwelodd yr Is-bwyllgor i’r ystafell cadarnhaodd y
partïon nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r fideo yn cael ei gyflwyno fel
tystiolaeth. |
|
CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO PDF 225 KB University
Plaice, 21 Ffordd Caergybi,
Bangor, Gwynedd, LL57 2EU Ystyried
y cais uchod Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Croesawyd
pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor
Owen. Cyflwynwyd y panel a’r
swyddogion i bawb oedd yn bresennol.
Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais. CAIS AM
DRWYDDED EIDDO – UNIVERSITY PLAICE, 21 FFORDD CAERGYBI, BANGOR, GWYNEDD LL57
2EU Ar ran yr eiddo: Mr Mehemet Ali Usal a Ms Nia Haf
Davies (ymgeiswyr) Eraill a fynychwyd: Cynghorydd June Marshall (Aelod Lleol), Cynghorydd Dinas John Martin, Mrs A Davies (Preswylydd
Lleol) Adroddiad
ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu. a) Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar
gais i amrywio trwydded eiddo ar gyfer University Plaice, 21 Ffordd Gaergybi, Bangor. Lleolwyd yr eiddo
ymysg rhes o fusnesau a siopau ym Mangor Uchaf,
ac fe ddarparir lluniaeth hwyr y nos i’w fwyta
oddi ar yr
eiddo. Natur yr amrywiad arfaethedig
oedd ymestyn oriau agor y busnes
a’r oriau darparu lluniaeth hwyr y nos ar
ddydd Llun, Mawrth, Mercher a Sul i 03:00 y bore. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu fel rhan o’r
cais. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno sawl cais
i ymestyn oriau trwyddedig yr eiddo
yn y gorffennol. Nodwyd bod yr Is Bwyllgor yn Hydref
2013, wedi caniatáu iddynt ymestyn oriau agor y busnes
ar nos Wener
a Sadwrn i 03:30 y bore ac yn
Medi 2014, rhoddwyd caniatâd iddynt ymestyn oriau agor
y busnes ar nos Iau i 3:00 y bore. Nodwyd bod oriau arfaethedig y cais wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad. Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd
gan y Gwasanaeth Tân ac Achub wrthwynebiad
i’r cais ac ni dderbyniwyd sylwadau gan Heddlu
Gogledd Cymru a Gwasaneth Iechyd yr Amgylchedd. Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan yr
Aelodau Lleol yn seiliedig ar
yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a throsedd ac anrhefn. Ychwanegwyd nad oedd gan
Cyngor Dinas Bangor wrthwynebiad i egwyddor y cais , ond bod awgrym i’r oriau
agor fod yn gyson â sefydliadau
eraill tebyg. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: • Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn
cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. • Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais • Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau • Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau • Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. • Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai. b) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag oriau agor sefydliadau eraill yn yr
ardal cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu, bod Late Stop,
Pizza House, Bella House a Craperie yn gymysg o oriau
gwahanol ar ddyddiau gwahanol,
yn amrywio o 2:30am i
3:30am. c) Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno ac ategodd y sylwadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |