Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi



3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi



4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 206 KB

 

MOTOR FUEL LTD, CONVENIENCE STORE, PORTHMADOG FILLING STATION, PORTHMADOG, LL49 9NG

 

Ystyried y cais uchod                     

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

MOTOR FUEL LTD, CONVENIENCE STORE, PORTHMADOG FILLING STATION, PORTHMADOG

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Chris Mitchener (asiant Licesning Solutions ar ran  Motor Fuel Ltd)

 

Eraill a fynychwyd:   Cynghorydd Jason Humphreys (Aelod Lleol Dwyrain Porthmadog), Cynghorydd Selwyn Griffiths ( ar ran Cyngor Tref Porthmadog)

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer ‘Convenience Store’ Porthmadog Filling Station. Amlygwyd bod y cais yn un ar gyfer siop hwylus un llawr i’w leoli  ar flaengwrt y garej bresennol gyda bwriad o werthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo a darparu lluniaeth hwyr y nos ar yr eiddo. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.

 

Yn yr adroddiad cyfeiriwyd at y wybodaeth gyfreithiol berthnasol: Paragraff 5.21 o’r Canllawiau Diwygiedig (Mawrth 2015) a gyhoeddwyd dan Adran 182 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 lle nodi’r bod Adran 176 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn gwahardd gwerthu neu gyflenwi alcohol o eiddo a ddefnyddir yn bennaf fel garej, neu yn rhan o eiddo a ddefnyddir yn bennaf fel garej. Pwysleisiwyd bod eiddo yn cael ei ddefnyddio yn bennaf fel garej os ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer un neu fwy o’r canlynol

·         Adwerthu petrol

·         Adwerthu Derv

·         Gwerthu cerbydau modur

·         Cynnal a chadw cerbydau modur

 

Pwysleisiwyd mai mater i’r awdurdod trwyddedu yw penderfynu, ar sail yr amcanion trwyddedu, a yw’n briodol i’r eiddo gael trwydded. Tynnwyd sylw at yr atodlen weithredu a’r cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais ynghyd a gwybodaeth ychwanegol.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd unrhyw sylwadau ac nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu y cais. Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan yr Aelod  Lleol a Chyngor Tref Porthmadog.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·     Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·     Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·     Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·     Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·     Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·         Y bwriad oedd gwerthu alcohol rhwng 6:00am a 23:00pm – oriau rhesymol

·         Nad oedd unrhyw sylwadau / wrthwynebiad wedi eu cyflwyno  gan yr Heddlu, preswylwyr lleol neu unrhyw awdurdod cyfrifol arall

·         Nad oedd unrhyw berthynas rhwng yfed a gyrru a gwerthu alcohol ar flaengwrt garej

·         Nad oedd ‘angen’ yn fater Deddf Trwyddedu

·         Nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno gyda’r awgrym i osod labeli ar boteli alcohol - dim  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.