Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 229 KB D H
CONVENIENCE STORE, 109 STRYD FAWR, BANGOR, LL57 1NS Ysytried y
cais uchod Cofnod: CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – D H
Convenience Store, 109 Stryd Fawr
Bangor, LL57 1NS. Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol a cyhoeddwyd bod gan bawb hyd
at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr eiddo: Mr David James Hughes a
Carla Cordeiro Eraill a wahoddwyd: Donna Evans (Swyddog Masnachu
Teg – Cyngor Gwynedd) Ian
Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn
manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer D H Convenience Store, 109 Stryd Fawr, Bangor mewn perthynas â gwerthu
alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo, cerddoriaeth wedi ei recordio (cefndirol yn y siop), a dangos
ffilmiau. Gofynnwyd ar yr hawl i gyflenwi alcohol rhwng 8:00 y bore a 23:00 yr
hwyr, 7 diwrnod yr wythnos. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd
yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd
yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd yr Heddlu na Safonau Masnach
Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’r cais, ond wedi cyflwyno sylwadau. Adroddwyd bod
yr ymgeisydd wedi cytuno, yn dilyn ymweliad
i’r safle gan yr Heddlu, nad oedd angen
gofyn am weithgareddau trwyddedig o ddangos ffilmiau a cherddoriaeth wedi ei
recordio ar y cais. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i weithredu Her 25
ynghyd â derbyn amodau teledu cylch cyfyng ar y drwydded. Yng nghyd-destun
sylwadau ac argymhellion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd, nodwyd bod yr
ymgeisydd yn destun ymchwiliad cyfredol gan y gwasanaeth a bod hyn yn
berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd Ms Cordeiro, ar ran yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn
oedd wedi ei gyflwyno ac ategodd y
sylwadau canlynol: ·
Eu bod yn cytuno gyda sylwadau ac argymhellion yr
Heddlu ac am weithredu Her 25 a gosod teledu cylch cyfyng ·
Eu bwriad yw gwerthu alcohol i’w yfed tu allan i’r
eiddo ·
Bod ymchwiliad y gwasanaeth safonau masnach yn
ymwneud a thybaco anghyfreithlon ·
Ni fuasai unrhyw ymddygiad o niwsans yn cael ei
ganiatáu ar y safle ·
Byddai unrhyw un o dan ddylanwad alcohol yn cael ei
hel allan - dim goddefiant ·
Yn fodlon gyda chynnwys y cais Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd eu bod
yn dileu chwarae ffilmiau a cherddoriaeth o’r cais. Mewn ymateb i sylw am sut i
atal gwerthu alcohol i unigolion o dan oed, nodwyd y byddant yn monitro
cwsmeriaid rheolaidd gyda phatrymau prynu gwahanol ac yn gofyn am weld cerdyn
adnabod yn amlygu dyddiad geni. ch) Yn manteisio ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |