Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

EITEM FRYS - GWRTHWYNEBIAD I GAIS DIGWYDDIAD DROS DRO - BRAICH GOCH INN, CORRIS pdf eicon PDF 227 KB

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Cofnod:

1.            CAIS DDIGWYDDIAD DROS DRO - BRAICH GOCH INN, CORRIS

 

Cais am DDIGWYDDIAD DROS DRO – ymestyniad oriau gweithgareddau trwyddedig ar gyfer achlysur codi arian at elusennau ar yr 22ain o Fedi 2023

 

Eraill a wahoddwyd:

 

·         Maria De La Pava Catano (Ymgeisydd)

·         Mark Mortimer (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

·         Cynghorydd John Pughe Roberts (Aelod Lleol)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn manylu ar gais digwyddiad dros dro yn Braich Goch, Corris, Machynlleth, mewn perthynas â ymestyn oriau gweithgareddau trwyddedig tu mewn i’r eiddo ar gyfer achlysur codi arian at elusennau ar y 22ain o Fedi 2023

·         Defnyddio’r ardal fewnol y bar sydd wedi ei gysylltu i adeilad y bunkhouse ar gyfer gwerthu alcohol a chynnal cerddoriaeth byw hyd at 11 yr hwyr a DJ tan 02:00 y bore.

·         Darparu gweithgareddau trwyddedig ar gyfer uchafswm o 100 o bobl

 

Adroddwyd bod gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r cais gan y Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd gan nad oedd yr ymgeisydd wedi ymateb i drafod cyfaddawd ynglŷn â’r oriau. Eglurwyd mai dim ond y Cyngor (sydd yn gweithredu cyfrifoldebau Iechyd Amgylchedd) a’r Heddlu sydd gyda’r grym i wrthwynebu rhybudd digwyddiad dros dro ac nad oedd trefn o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y gyfundrefn digwyddiadau dros dro.

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau i’r cais wedi eu cyflwyno gan Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryder fod y digwyddiad yn mynd i danseilio'r amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Roedd swyddogion y gwasanaeth wedi derbyn dau gŵyn am aflonyddwch sŵn cerddoriaeth ym mis Mai 2022 hyd 01:30 (tu hwnt i’r oriau a ganiateir ar y drwydded). Nid oedd rhybudd digwyddiad dros dro mewn lle i ganiatáu gweithgareddau trwyddedig tu hwnt i’r hyn a ganiateir ar y drwydded.

 

Eglurwyd, gan fod cwynion sŵn o weithgareddau trwyddedig heb awdurdod wedi eu derbyn mis Mai 2022, anfonwyd e-bost (21-08-23) gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd at ddeilydd y drwydded yn awgrymu cyfaddawd, gan fod y cais yn nodi oriau terfynu adloniant rheoledig am 02:00. Roedd Swyddog Gwarchod y Cyhoedd yn cynnig terfynu’r gweithgareddau trwyddedig am 00:30, hanner awr yn hwyrach na’r drwydded bresennol. Ystyriwyd hyn yn gyfaddawd teg, ac y byddai yn rhoi cyfle i ddeilydd y drwydded brofi ei gallu i drefnu adloniant heb aflonyddu ar breswylwyr cyfagos. 

 

Er hynny, ni dderbyniwyd ymateb i’r cyfaddawd ac o ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais ar sail.

·         Cwyn o gynnal gweithgareddau trwyddedig tu hwnt i derfyn amser y drwydded

·         Cwynion o aflonyddwch sŵn yn dilyn adloniant a gynhaliwyd mis Mai 2022

·         Diffyg yr ymgeisydd o beidio ymateb i gynnig o gyfaddawd ar yr oriau a ofynnwyd amdanynt

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3.