Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad
12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol
sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r
unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r
wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan
4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y
byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygwyd bod y
drosedd wedi digwydd ers i’r ymgeisydd fod yn ei arddegau. Ategywd bod yr ymgeisydd
wedi bod yn gweithio yn y maes gofal ers dros 12 mlynedd a bellach eisiau newid
cyfeiriad. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r
ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS Yn Chwefror 2005
derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn ar un cyhuddiad o
fwrgleriaeth a dwyn o eiddo preswyl, yn groes i Adran 9(1) Ddeddf Lladrata
1968. Cafodd orchymyn goruchwyliaeth am 18mis. Yn ddiweddarach yn Mai 2005,
derbyniodd ddwy gollfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn am ddwyn gan berson, eto, yn
groes i Adran 1 Deddf Lladrata 1968. Ar gyfer y collfarnau cafodd orchymyn
goruchwyliaeth, gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Cafodd y ddau orchymyn
goruchwyliaeth eu diddymu yn gynnar ar sail ymddygiad da. Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod
DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS Yn 1978 ac Ebrill 1979 derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarnau gan Lys Ynadon Caernarfon am ddwyn o siop yn groes i Adran 1 Ddeddf
Lladrata 1968. Yn Ionawr 1982, derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon am
ddwy drosedd o gyflawni a meddu cyffuriau rheoledig, yn groes i Ddeddf
Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Derbyniodd ddirwy o £70 a gorchymyn i dalu costau
o £3. Yn ddiweddarach yn Awst 1984 derbyniodd gollfarn arall am feddu cyffuriau
rheoledig lle derbyniodd dirwy o £50. Ym Mawrth 1985 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog o drin eiddo wedi ei ddwyn yn groes i Ddeddf Lladrata 1968 (cafodd
orchymyn i wneud 240 awr o wasanaeth cymunedol). Yn 1986 derbyniodd yr
ymgeisydd gollfarn am feddu cyffuriau rheoledig a chafodd ddedfryd o garchar am
28 diwrnod. Yn Nhachwedd 1997 derbyniodd gollfarnau am feddu cyffuriau
rheoledig. Ers Tachwedd 1997 nid oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau pellach -
nodwyd bod ganddo drwydded yrru lan. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i
berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol. Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr C (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS Yn 1976 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys
Ynadon Nant Conwy am feddu arf bygythiol
mewn man cyhoeddus ac am achosi gwir newid corfforol yn groes i Ddeddf Atal
Trosedd 1953 a Deddf Troseddau yn erbyn y Person 186. Yn Mehefin 1978, derbyniodd gollfarn gan Lys
Ynadon Caernarfon a Gwyrfai am gyfres o gollfarnau - gwir niwed corfforol,
gwrthod ymadael ag adeilad trwyddedig a dau gyfrif o ddifrod troseddol.
Derbyniodd ddirwyon o £80 a thalu iawndal o £9. Yn Hydref 1985 cafodd yr
ymgeisydd yn euog ar ddau gyhuddiad o ddifrod troseddol yn groes i’r Ddeddf
Difrod Troseddol 1971 - derbyniodd ddirwy o £75 a gorchymyn i dalu iawndal o
£54.07. Yn Rhagfyr 1987 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am ddau drosedd o
rwystro’r Heddlu yn groes i Ddeddf Heddlu 1964 a dirfod troseddol. Derbyniodd
ddirwy o £75, gorchymyn i dalu costau o £15 a dirwy o £26.45. Yn Nhachwedd 2005
derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd ar ddau achos o yrru cerbyd heb
yswiriant a gyrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol sydd yn groes i Ddeddf Traffig
y Ffyrdd 1988.Cafodd ddirwy o £100, derbyn pwyntiau ar ei drwydded gyrru a
gwaharddiad rhag gyrru am 56 diwrnod. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |