Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Mr A (dogfennau
i aelodau’r Is bwyllgor yn unig ) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Mewn ymateb i gwestiwn
gan Aelod o’r Is-bwyllgor i’r Swyddog
Trwyddedu cadarnhawyd mai geiriad / dyfyniad o ddisgrifiad y Ddeddf yw ‘rheoli cerbyd,
ffôn symudol ac ati’ Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
yr arnodiadau ar y drwydded ac
amgylchiadau personol yr ymgeisydd a’i
fethiant o hysbysu’r Adran Drwyddedu am droseddau traffig
difrifol ar ddau achlysur. Amlygodd bod yr
ymgeisydd ar un o’r achlysuron, yn gofalu am
ei dad ac
felly, gyda phethau eraill ar ei feddwl,
wedi llenwi’r ffurflen gais yn anghywir ac wedi
methu a rhoi gwybod i’r Adran
Trwyddedu o’i amgylchiadau. Ar achlysur arall, ei gynbartner
oedd yn gyrru’r
car ac nid oedd wedi diweddaru manylion ei gyfeiriad
newydd na datgelu pwy oedd yn
gyrru’r car i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Canmolwyd yr ymgeisydd am ei waith
fel gyrrwr tacsi - nodwyd ei fod yn
onest, yn gymwynasgar, yn barod i helpu bob amser ac yn
boblogaidd gyda chwsmeriaid. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan gynrychiolydd yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn mis Gorffennaf 2021, derbyniodd
yr ymgeisydd 6 pwynt cosb arnodedig
ar ei drwydded
gyrru am dorri gofynion y Ddeddf o ran ‘rheoli cerbyd, ffôn symudol ac ati’ Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |