Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
MATERION BRYS Cofnod: |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr
cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais a hynny oherwydd
bod yr ymgeisydd wedi cronni pwyntiau'n gyflym am fwy nag un trosedd yrru yn
ystod 2022-23. Fodd bynnag, awgrymwyd y dylai’r Is-bwyllgor ystyried
penderfyniad y Llys Ynadon i beidio ag atal yr ymgeisydd rhag gyrru am gronni
pwyntiau am y troseddau hyn. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y troseddau gyrru a’i hamgylchiadau personol. Nododd ei bod dan bwysau
gan ei chyflogwr blaenorol i gwblhau teithiau mor gyflym ag y gallai fel ei
bod yn cael
ei thalu. Ategodd ers iddi gael y troseddau gyrru, bod ei
hagwedd wedi newid, ei bod
yn edifarhau ac wedi dysgu
gwersi. Roedd yn hoff iawn
o weithio fel gyrrwr tacsi, ac
yn gweld ei rôl fel
merch yn gyrru tacsi yn
rhoi sicrwydd i ferched oedd yn
teithio ar ben eu hunain i deimlo yn saff mewn
tacsi. Nododd ers newid cwmni, ei
bod yn teimlo’n
llawer gwell ac yn cael
cefnogaeth dda. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd ·
Datganiad DBS ·
Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr
a Cherbydau ·
Manylion Hysbysiad Llys o Ddirwy a Gorchymyn Casglu ·
Sylwadau llafar yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Tachwedd 2022 derbyniodd yr ymgeisydd dri pwynt
cosb am yrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder statudol a’r ffordd gyhoeddus
(SP30) h.y goryrru Yn Gorffennaf 2023 derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt
cosb am yrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder statudol a’r ffordd gyhoeddus
(SP30) h.y goryrru. Derbyniodd ddirwy o £250.00.
Mynychodd yr ymgeisydd y Llys i berswadio'r ynad i beidio å'i
gwahardd rhag gyrru. Darbwyllwyd yr Ynadon na ddylid ei hatal rhag gyrru. Roedd yr ymgeisydd wedi bod yn onest ac wedi
cysylltu å'r Adran Drwyddedu i'w hysbysu am y
pwyntiau ac am benderfyniad Llys yr Ynadon. Nid oedd collfarnau eraill i’w hystyried ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |