Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
MATERION BRYS Cofnod: |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais a hynny oherwydd
nad oedd ymddygiad yr ymgeisydd mewn digwyddiad diweddar yn cyrraedd
y safon ddisgwyliedig gan yrrwr tacsi. Dangoswyd fideo TCC oedd yn tystiolaethu’r digwyddiad ynghyd a hanes o aildroseddu mewn perthynas â chollfarnau trefn gyhoeddus 2010, 2018 a 2024. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chais adnewyddu trwydded, nodwyd bod trwydded gyrrwr
cerbyd hacni / hurio preifat yn
gyfredol am dair blynedd - dyma’r cyfnod safonol.
Amlygwyd bod trwydded yr ymgeisydd wedi dod i ben yn Rhagfyr 2024 ac ni fu iddo ddatgelu’r
cyhuddiadau yn ei erbyn ar
ei ffurflen gais - mae dyletswydd ar bob ymgeisydd i roi gwybod i'r Awdurdod
Trwyddedu am unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn. Ategwyd, yn achlysurol, bod yr Heddlu yn
rhoi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu ond y tro hwn
aelod o’r cyhoedd oedd wedi
cwyno i’r Heddlu cyn dwyn
achos swyddogol yn erbyn yr ymgeisydd.
Wedi i'r ymgeisydd fod gerbron
y Llys cafwyd y wybodaeth ganddo ynghyd a datganiad wedi ei arwyddo
wrth aros am DBS. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y digwyddiad a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd
wedi cwblhau ei ffurflen gais yn llawn gan ei
fod yn aros
am ddyfarniad y cyhuddiad oedd yn ei erbyn.
Yng nghyd-destun digwyddiad Rhagfyr 2024, roedd yn cyfaddef
ei fod wedi
ymateb i fygythiad y dioddefwr, ond roedd y dioddefwr wedi ei fygwth
ef yn gyntaf.
Amlygodd hefyd nad oedd yn
adnabod y dioddefwr ac mi roedd wedi
datgelu’r digwyddiad i’r Adran Drwyddedu,
y bore canlynol. Ategodd ei fod yn
gyrru bysiau ers dros 30 blynedd heb unrhyw gwynion
a bod y swydd fel gyrrwr tacsi
yn golygu cymaint iddo. PENDERFYNWYD nad oedd
yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: · Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |