Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â
hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion
yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is-bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i darpar gyflogwraig i ymhelaethu ar y cais a
rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Eglurodd yr ymgeisydd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai
hanesyddol ac wedi digwydd pan oedd yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei harddegau.
Ategodd ei bod gyda phlentyn ei hun erbyn hyn ac eisiau gosod esiampl dda a
chael sefydlogrwydd yn ei bywyd. Nododd darpar gyflogwraig yr ymgeisydd ei bod
yn ymwybodol o gefndir Ms A, ond bod ganddi ffydd ynddi ac yn barod i roi cyfle iddi. Ategwyd
ei bod wedi derbyn geirda gan gyngyflogwr Ms A fel gofalwr mewn cartref plant. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i darpar gyflogwr ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ym Mehefin 2003 gan
Heddlu Gogledd Cymru am ymosodiad a achosodd niwed corfforol i berson arall yn
groes i Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861.
Ym Medi 2004 derbyniodd gollfarn gan Lys Ieuenctid Conwy am
drosedd yn gysylltiedig â chymryd cerbyd heb awdurdod sydd yn groes i Ddeddf
Lladrata 1968. Cafodd orchymyn wedi ei gyfeirio am 5 mis a gorchymyn i dalu
costau o £20. Yn Mai 2006 derbyniodd yr ymgeisydd ddwy gollfarn gan Lys
Ieuenctid Gwynedd - un cyhuddiad o wrthsefyll neu rwystro person oedd yn
cynorthwyo heddwas, ac un o ymosod ar heddwas, yn groes i Ddeddf Yr Heddlu
1996. Derbyniodd Orchymyn Cynllun
Gweithredu am 3 mis ar gyfer y naill drosedd ynghyd a gorchymyn i gwblhau gweithgaredd
cymunedol a gorchymyn penodol o 10 awr i wneud yn iawn am ei hymddygiad. Yng Ngorffennaf 2015 derbyniodd rybudd arall am ddirfod i
eiddo oedd yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |