Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif feddygol, datganiad personol yr ymgeisydd, geirdaon a thystlythyrau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor wrthod y cais. Mewn ymateb i gyflwyniad y Rheolwr Trwyddedu, gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd i’r Rheolwr Trwyddedu gadarnhau nad oedd
y teithiwr yn achos 2019 wedi dioddef unrhyw niwed
nac wedi gwneud cwyn ffurfiol
i’r Heddlu am ymddygiad y gyrrwr. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y dystiolaeth wedi cael ei
herio yn Llys yr Ynadon ac er nad oedd
collfarn roedd y Barnwr wedi penderfynu
bod y dystiolaeth yn gredadwy. Awgrymodd cynrychiolydd yr ymgeisydd
bod argraffiadau’r teithiwr yn gwahanol
iawn i argraffiadau’r gyrrwr yn nigwyddiad
2019. Mewn ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu, er yn cadarnhau nad
oedd gweithrediad pellach gan yr Heddlu, bod recordiad o’r
sefyllfa wedi ei gyflwyno o’r
noson fel tystiolaeth a bod ‘ymddygiad cyffredinol’ yn ystyriaeth er nad oedd collfarn. Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd rhybudd
gan yr Heddlu yn gollfarn, ond mewn
ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu bod tystiolaeth o rybudd yn ddigon cryf
yn yr achos yma. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir
y rhybudd ar ei drwydded a’i
amgylchiadau personol. Cyflwynwyd 37 o dystlythyrau yn gymysg gan ffrindiau,
cydweithwyr, cymdogion a defnyddwyr gwasanaeth. Nododd bod digwyddiad
2018 a 2019 yn rai yr oedd yn edifar
a'i fod yn
cydnabod ei fod wedi ymddwyn
yn ddifrifol. Ar y pryd roedd o dan straen er yn derbyn
nad oedd hyn yn esgus
am ei ymddygiad.
Roedd yn gwerthfawrogi bod rhaid i yrwyr fod
yn ddibynadwy a bod yr is-bwyllgor yn chwarae rhan
bwysig yn sicrhau hyn. Rhannodd enghreifftiau o’r gwaith a'r cyfrifoldebau cymunedol roedd wedi ymgymryd â hwy ers y digwyddiadau, oedd yn cynnwys mynychu cwrs ar sicrhau diogelwch i’r cyhoedd. Nododd ei ddymuniad i roi'r gorffennol tu cefn iddo a chanolbwyntio ar symud ymlaen drwy roi blaenoriaeth i’w fusnes a’i deulu. Diolchodd i’w staff am eu cefnogaeth o gario’r busnes drwy gyfnod anodd. Cyfeiriodd at ei waith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |