Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y collfarnau wedi digwydd yn ystod ei gyfnod yn y fyddin ac nad oedd wedi troseddu ers hynny. Ategodd ei fod bellach yn gweithio llawn amser ac yn ceisio gwaith ar y penwythnos i gael ail incwm i brynu yn lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Rheolwr Trwyddedu ynglŷn â’i allu i reoli ei dymer wrth ymdrin â chwsmeriaid heriol, nododd ei fod wedi aeddfedu ers ei gyfnod yn y fyddin ac yn gallu anwybyddu unrhyw gymhelliant i ymateb yn dreisgar.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat 12 mis gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mehefin 2017 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Guro yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (A.39) yn Llys Ynadon Surrey. Cafodd ddirwy o £350.00, costau o £85, iawndal o £200 a Gordal i’r Dioddefwr o £35

 

Yn Mai 2017, cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio / Difrodi Eiddo (gwerth difrod llai na £5000) yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971.

 

Yn Ebrill 2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o 3 achos o droseddau Gyrru Difrifol i gyd yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A.5 (1)(A). Cafodd ddirwy o £300 a’i wahardd rhag gyrru am 12 mis

 

Yn Tachwedd 2021, derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt cosb am beidio â datgelu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr - bydd y pwyntiau yn dod i ben 17 Tachwedd 2024

 

Nid oedd collfarnau eraill i’w hystyried

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.