Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i Aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. COFNODION: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio
cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Eglurodd darpar gyflogwr yr ymgeisydd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS
yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd pan roedd Mr A yn mynd drwy gyfnod anodd yn
ei arddegau. Ategodd ei fod yn ymwybodol o’i gefndir ac wedi trafod a chael
geirda gan gyflogwyr eraill yr ymgeisydd, ei fod yn barod i roi cyfle iddo. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau
ar lafar gan yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn Ebrill 1999
cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tameside ar dri cyhuddiad: cymryd
cerbyd heb ganiatâd (yn groes i a12 (1) Deddf Lladrata 1968); gyrru’n groes i
amodau trwydded gyrru (yn groes i a87 (1) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988) a
defnyddio cerbyd heb yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig y Ffyrdd
1988). Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis, ardystiad 7 pwynt ar ei drwydded a
gorchymyn i dalu £55.00 o gostau. Yn Mai 2001 cafwyd
yn euog gan Lys Ynadon yr Wyddgrug ar gyhuddiad o ddinistrio neu ddifrodi eiddo
(yn groes i a1 (1) Deddf Difrod Troseddol 1971). Derbyniodd ddirwy o £50.00,
gorchymyn i dalu costau o £40.00 ac iawndal o £ 50.00. Yn Chwefror 2003
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd heb
yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a gyrru yn ystod
cyfnod gwaharddiad (yn groes i a103 (1) (B) Traffig Ffyrdd 1988). Derbyniodd
orchymyn cost cymuned o 120 awr, dirwy o £50.00, gorchymyn i dalu costau o
£30.00 ac ardystiad 6 phwynt ar ei drwydded. Yn Awst 2003 cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Sir Ddinbych ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd ... view the full COFNODION text for item 5. |