Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd (ei ddarpar
gyflogwr) i ymhelaethu ar gais Mr A gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau
a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol.
Amlygwyd bod Mr A wedi bod yn
gweithio fel dosbarthwr nwyddau ers rhai blynyddoedd a’i fod bellach
eisiau newid cyfeiriad. Nodwyd hefyd, mewn achos
lle ceir collfarnau hanesyddol, bod angen ystyried
adolygu Polisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau ar lafar gan ddarpar gyflogwr yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn Mehefin 1985 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Bangor ar dri chyhuddiad o ddwyn, yn groes
i a1 Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd orchmynion gwasanaeth cymunedol o 300 awr am y cyhuddiadau hyn. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: a)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn
addas a phriodol • Nad yw'r
unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl
ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai
hanesyddol. Amlygwyd Mr B ei fod, pan yn
ifanc wedi cymysgu gyda’r dorf anghywir, ei fod cwblhau
ei ddedfrydau ac wedi bod yn glir
o unrhyw drosedd ers 37 mlynedd. b) PENDERFYNWYD
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried
y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ·
sylwadau llafar yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn Medi
1972 cafwyd yr ymgeisydd yn euog
gan Lys Ynadon Tywyn am ddifrod troseddol yn groes
i a1 Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Derbyniodd ddirwy o £100.00 a gorchymyn i dalu
iawndal o £13.00. Yn Hydref
1972 cafwyd yr ymgeisydd yn euog
gan Lys Ynadon Tywyn am ymosodiad cyffredin yn groes
i a42, 47 Deddf Troseddau yn erbyn
y Person 1861) ynghyd a meddu
ar arf peryglus
mewn man cyhoeddus yn groes i
a1 Deddf Atal Troseddu
1953. Derbyniodd ryddhad amodol a chafodd yr arf ei
atafaelu (confiscate) Yn Hydref 1975 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tywyn ar gyfres o 12 cyhuddiad. 2 gyhuddiad yn ymwneud â gwneud galwadau ffôn bygythiol (yn groes i a78 Deddf Swyddfa'r Post 1969): 1 cyhuddiad o osod erthygl ar eiddo Swyddfa'r Post (yn groes i a 61 Deddf Swyddfa'r Post 1969): 1 cyhuddiad o achosi difrod troseddol (yn groes i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971): 4 cyhuddiad o gario dryll aer mewn man cyhoeddus (yn groes i a19 Deddf Drylliau Tân 1968): 1 cyhuddiad o ddefnyddio geiriau bygythiol / ymosodol/ sarhaus (yn groes i a5 Deddf Trefn Gyhoeddus 1936): 3 cyhuddiad o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |