Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â
hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion
yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Mr A (copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud yn unol â pholisi
trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y
meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd
drwy sicrhau: • Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO
PREIFAT – Mr A ` Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais
a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd
i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar
droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am
gefndir y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y gollfarn yn un ar
gyfer hylendid bwyd ac nad oedd wedi troseddu cyn nac ar ôl hynny. Nododd bod
ganddo deulu ifanc a'i fod angen swydd ychwanegol oedd yn cynnig hyblygrwydd
iddo dreulio amser gyda’i deulu. Eglurodd bod ganddo brofiad o fod yn ofalwr ac
felly yn deall y cyfrifoldebau oedd yn ymwneud a bod yn yrrwr tacsi addas a
phriodol a bod ganddo gwmni tacsi oedd yn fodlon ei gyflogi. PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau
ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn Ionawr 2020 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Gogledd Cymru ar dorri unrhyw ddarpariaethau rheoliadau hylendid bwyd,
yn groes i Erthyglau 14 (1) 16 18 (2) 18 (3) neu 19 o Reoliad (EC) 178/2002
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004. Derbyniodd ddirwy o £330 gyda thal ychwanegol
o £33.00 a chostau £150 Ystyriwyd
paragraff 2.4 o Bolisi’r Cyngor sydd yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn
euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng
nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r
mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae rhan 17 o’r Polisi yn ymwneud â thorri deddf, is-ddeddf neu amod trwydded. Nodir ei fod yn annhebygol y rhoddir trwydded i ymgeisydd â ganddo gollfarn neu fater arall i’w ystyried yn gysylltiedig â thorri deddf, oni bai bod cyfnod o 12 mis wedi mynd heibio ers yr achos mwyaf ... view the full COFNODION text for item 5. |