Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth
yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig ` Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Mewn ymateb i sylw gan yr ymgeisydd fod
y collfarnau wedi mynd tu hwnt i’r
cyfnod a nodir yn y polisi, nododd
y Rheolwr Trwyddedu bod hawl gan yr
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn sy’n
ymddangos ar y cofnod DBS. Er derbyn rhwystredigaeth yr ymgeisydd ategwyd mai Polisi'r Cyngor yw ystyried yr holl
gollfarnau fel bod modd cael
darlun clir a llawn o’r cefndir.
Blaenoriaeth yr Is-bwyllgor yw diogelwch
y cyhoedd ac wrth bwyso a mesur
yr holl dystiolaeth
bydd modd penderfynu os yw ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer y swydd. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd ei fod yn
edifarhau, ei fod wedi gwella
ei ymddygiad, ac yn dilyn
digwyddiad 2018 ei fod wedi dysgu
gwersi gan alw ar yr Heddlu
a chadw cofnod o bob digwyddiad mewn dyddiadur. Nododd ei fod yn
gyrru bysiau ers 27 o fynyddoedd ac nad
oedd cwyn wedi ei gyflwyno
am ei agwedd
na’i yrru. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn Hydref 2010 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Gwynedd o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol neu sarhaus, gyda’r bwriad i
godi ofn neu bryfocio trais yn groes i
Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd ddirwy
o £200, costau o £85 a chostau
ychwanegol o £15. Yn Nhachwedd 2018 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymsosodol neu sarhaus, sy’n debygol o godi ofn, dychryn neu drallod, yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |