Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau : • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau ar ei drwydded a’i
amgylchiadau personol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol : ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd ·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ·
Sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Nhachwedd 2011, derbyniodd
yr ymgeisydd 3 collfarn : ·
defnyddio cerbyd heb yswiriant yn groes
i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A143 (2). Cafodd ddirwy o £120 ac arnodiad ar ei
drwydded. ·
gyrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol yn groes
i Ddeddf Traffig A988 A.5
(1) (A). Cafodd ddirwy o
£120 a chostau o £85 a’i wahardd o yrru am 18 mis ·
gyrru cerbyd modur heb fod hynny
yn unol â thrwydded - na ellid ei ardystio yn
groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A.87 (1). Cafodd ddirwy o £40, arnodiad ar ei
drwydded a chostau ychwanegol o £15. Yn Hydref 2013 derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn am siop ladrata
yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 A.1 a methu ac ildio
i’r ddalfa ar yr amser a nodwyd,
yn groes i Ddeddf Mechnïaeth 1976 A.6 (1). Cafodd ddirwy o £50 costau o £100 a chostau ychwanegol o £20. Yn Mehefin 2014 derbyniodd
3 collfarn am ; ·
wrthsefyll neu rwystro Cwnstabl, yn groes
i Ddeddf yr Heddlu 1996
A.89 (2). Cafodd ddirwy o
£90 ·
defnyddio cerbyd heb yswiriant, yn groes
i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 S 143 (2). Cafodd ddirwy o £110, costau o £85, ei wahardd am
yrru am 12 mis a chostau ychwanegol
o £20 ·
gyrru heb fod hynny yn unol
â thrwydded, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A 87(1). Cafodd ddirwy o £50 ac arnodiad ar
ei drwydded. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau
: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif diogelu gyrwyr tacsi. Amlygwyd nad oedd wedi
datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei
ffurflen gais. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y ddedfryd, pam nad oedd wedi
datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei
ffurflen gais a’i amgylchiadau personol. Eglurodd mai 1 mis yn y carchar a wnaeth ac wedyn gwisgo
tag gan mai ei ffrind oedd wedi bygwth
tyst drwy ddefnyddio ei ffôn.
Amlygodd hefyd mai un collfarn / digwyddiad oedd ganddo ac
nid collfarnau / digwyddiadau
fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ymddiheurodd am beidio â datgelu'r drosedd ar ei
ffurflen gais gan egluro nad oedd yn
dda iawn am lenwi ffurflenni. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Awst
2008 dyfarnwyd yr ymgeisydd
yn euog o fygwth tyst neu
reithiwr gyda’r bwriad o rwystro, gwyrdroi neu ymyrryd
a chyfiawnder yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 A.51 (1) lle derbyniodd garchar am 6 mis. CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes
rheidrwydd i berson sydd â chollfarn
am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi
ei fod yn
berson addas a phriodol. Mae cymal 2.3 o'r polisi yn nodi y gellir ystyried unrhyw gollfarnau troseddol, neu faterion eraill sy'n ymwneud ag addasrwydd a phriodoldeb yr ymgeisydd. Yn hyn o beth, mae'r drosedd ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau
: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y drosedd amgylcheddol a’i amgylchiadau personol. Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd
manylion y drosedd amgylcheddol wedi ei gynnwys ar
y ffurflen gais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd wedi
ystyried bod trosedd amgylcheddol yn berthnasol i gais gyrrwr tacsi PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol : ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd /ddarpar gyflogwr Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yng Ngorffennaf
2019 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o drosedd
o weithredu cyfleuster rheoledig heb drwydded
amgylcheddol ; Rheoliadau
Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru
a Lloegr) 2007 Rheoliad38(1) (a). Yn Medi 2020 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am
yrru tu hwnt i derfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus
(SP30) CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Er nad
yw’r Polisi’n cyfeirio yn benodol
at droseddau sy'n ymwneud â Throseddau Amgylcheddol, bydd troseddau o'r fath
yn berthnasol i'w hystyried. Mae pob trosedd a gyflawnwyd
gan Unigolyn sy'n dymuno bod yn Yrrwr Tacsi,
yn berthnasol ar gyfer ystyried
os yw unigolyn
yn ‘berson addas a phriodol’. Roedd y swyddogion o’r farn bod gweithredu Cyfleuster Rheoledig heb drwydded amgylcheddol
yn fater difrifol. Mae rhan
13 yn ymwneud a mân droseddau traffig
ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau
sydd heb eu rhestru ym
mharagraff 12.2 o’r Polisi.
Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn amlygu
gall un gollfarn am fan drosedd
gyrru arwain at wrthod y cais. CASGLIADAU Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad nad oedd y drosedd SP30 yn broblem o ystyried darpariaethau’r polisi - nid oedd y drosedd SP30 yn mynd a chyfanswm yr ymgeisydd dros y cyfyngiad 7 pwynt a nodi’r ym Mholisi Goryrru Cyngor Gwynedd cyn ei fod yn ... view the full COFNODION text for item 7. |