Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan
i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS a’r canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol Roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Roedd gan
yr ymgeisydd drwydded yrru lân. Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan
roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y troseddau wedi digwydd ar ôl
iddo raddio o Brifysgol Bangor a chael ei wahodd i
ymuno a chwmni newydd ar y Stryd
Fawr. Nid oedd yn ymwybodol
o’r camweinyddu ac ni fu iddo gynnwys
y collfarnau ar ei ffurflen gais
gan iddo ystyried y collfarnau fel rhai’r cwmni
ac nid collfarnau personol. Ategodd ei fod bellach
wedi derbyn dinasyddiaeth i’r wlad ac amlygodd bod ei gais am ddinasyddiaeth
wedi bod yn un trylwyr am ei gymeriad. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth
gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried
y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu a’r datganiad
DBS ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol CEFNDIR Yn Ebrill
2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o guddio,
methu ymrwymo i’r dyletswydd a
osodir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (A.1006. A1006(7). Cafodd
ddirwy o £250 a chostau o
£2200 a gordal dioddefwr o
£15 mewn Llys Ieuenctid yng Ngwynedd. Yn Nhachwedd
2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o guddio,
methu ymrwymo i’r dyletswydd a
osodir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (A.1006. A1006(7). Cafodd
ddirwy o £250 mewn Llys Ieuenctid yng Ngwynedd. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |