Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Nododd bod
yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau goryrru ar ei chais. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau
ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nododd bod gan yr ymgeisydd brofiad helaeth o yrru a dymuniad bellach o fod yn yrrwr
tacsi gan y teimlai nad oedd gyrru
HGV yn swydd iddi hi erbyn hyn.
Nododd hefyd ei fwriad o’i
chyflogi i wneud gwaith oriau ysgol
ac ychydig o oriau dros y penwythnos
petai ei chais yn cael ei
ganiatáu. Ategodd bod trafodaethau cyn cyflwyno cais
wedi eu cynnal gyda’r Swyddog Trwyddedu yn amlygu’r pwyntiau
cosb ynghyd a chadarnhad bod yr ymgeisydd wedi derbyn trwydded hacni / hurio preifat
tair blynedd gan Gyngor Sir Ynys Môn yn Awst 2023. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ac adroddiad
yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA ·
sylwadau llafar cynrychiolydd
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yng Ngorffennaf 2020 derbyniodd
yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri’r
cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd
gyhoeddus. Daeth cyfnod perthnasol y pwyntiau hyn i ben ar y 3ydd o Orffennaf 2023. Yn Mawrth 2021 derbyniodd
yr ymgeisydd 6 pwynt cosb (SP30) yn hytrach na’r 3 pwynt arferol gan ei bod yn
gyrru HGV. Bydd y pwyntiau hyn yn
dod i ben Rhagfyr 2025. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |