Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan
Mr A (copi arwahan
i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y ddau
achos wedi digwydd pan oedd yn ifanc - rhyw
27 mlynedd yn ôl - yn hanesyddol,
a dim byd ers hynny. Roedd bellach
yn hunangyflogedig, yn dad ac
yn daid. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Datganiad DBS ·
Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Nhachwedd
1992, derbyniodd gollfarn am drosedd o wir
niwed corfforol yn groes i Ddeddf
Troseddau yn erbyn y Person 1861. Yn Medi 1996, derbyniodd gollfarn am drosedd o wir
niwed corfforol yn groes i Ddeddf
Troseddau yn erbyn y Person 1861. CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais gan Mr B (copi arwahan i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol. Nodwyd bod yr ymgeisydd
yn
yrrwr Hacni/Hurio Preifat Trwyddedig hyd at
02-01-2023 ond ni wnaeth adnewyddu ei drwydded. Ategwyd nad oedd wedi datgan ei
bwyntiau cosb ar ei gais, ond roedd wedi ysgrifennu nodyn yn nodi fod ganddo 6
pwynt cosb. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb a dderbyniodd am oryrru. Nododd ei fod yn
derbyn bod y ddau achos yn
agos at ei gilydd ac ymddiheurodd
am hynny. Ategodd mai diffyg canolbwyntio oedd y rheswm dros hyn
- o fod yn gwneud 33mya ar un achos a 34mya ar yr achos arall mewn
ardal 30mya. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Datganiad DBS ·
Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Chwefror
2022, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben Chwefror
2025. Yn Rhagfyr
2022, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben 19 Rhagfyr 2025. CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |