Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio
preifat 12mis gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y collfarnau wedi digwydd yn ystod
ei gyfnod yn y fyddin ac
nad oedd wedi troseddu ers hynny. Ategodd ei fod bellach
yn gweithio llawn amser ac
yn ceisio gwaith ar y penwythnos
i gael ail incwm i brynu tŷ yn
lleol. Mewn ymateb
i gwestiwn gan y Rheolwr
Trwyddedu ynglŷn â’i allu i reoli ei
dymer wrth ymdrin â chwsmeriaid heriol, nododd ei fod wedi
aeddfedu ers ei gyfnod yn y fyddin
ac yn gallu
anwybyddu unrhyw gymhelliant i ymateb yn dreisgar. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
12 mis gyda Chyngor
Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Datganiad DBS ·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Mehefin
2017 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Guro
yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (A.39) yn Llys Ynadon Surrey. Cafodd ddirwy o £350.00, costau o £85, iawndal o £200 a Gordal i’r Dioddefwr
o £35 Yn Mai
2017, cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio
/ Difrodi Eiddo (gwerth difrod llai
na £5000) yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol
1971. Yn Ebrill
2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o 3 achos
o droseddau Gyrru Difrifol i gyd yn groes i Ddeddf
Traffig Ffyrdd 1988 A.5
(1)(A). Cafodd ddirwy o
£300 a’i wahardd rhag gyrru am
12 mis Yn Tachwedd
2021, derbyniodd yr ymgeisydd
6 pwynt cosb am beidio â datgelu
gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr - bydd y pwyntiau yn dod i ben 17 Tachwedd 2024 Nid oedd collfarnau eraill i’w hystyried CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |