Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

(copi i aelodau’r is-bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Yn unol â threfn y gwrandawiad, rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ofyn cwestiwn i gynrychiolydd y Cyngor.

 

Gofynnwyd pam bod rhaid cynnal gwrandawiad a pham nad oedd gan yr Adran Amgylchedd hawliau dirprwyedig i gymeradwyo’r cais - roedd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn awgrymu bod costau  diangen yma o arian trethdalwyr.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod Cynllun Hawliau Dirprwyedig Gwynedd gyda threfniadau mewn lle, lle bod pob cais sydd ag unrhyw drosedd yn ymddangos ar DBS ymgeiswyr yn cael ei gyflwyno i Is-bwyllgor am benderfyniad. Ategodd, yn unol â Chyfansoddiad Y Cyngor nad oedd ganddi hithau na Phennaeth yr Adran Amgylchedd yr hawl i wneud  penderfyniad boed y drosedd yn un hanesyddol neu beidio.

 

Nododd bod y drefn yn y broses o gael ei hadolygu a thrafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol yn cael eu cynnal i ystyried achosion lle caeir dirprwyo penderfyniad. Bydd unrhyw addasiad i’r Cyfansoddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu ac i’r Cyngor Llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd gan y Rheolwr Trwyddedu hawli i atal neu ddiddymu trwydded, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu bod ganddi hawl i wneud hynny.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol, er hynny roedd yr ymgeisydd yn awyddus i’w gynrychiolydd drafod y cai gyda’r Aelodau. Amlygodd ei gynrychiolydd bod y gollfarn wedi digwydd pan roedd yn 18 mlwydd oed, 42 mlynedd yn ôl ac nad oedd wedi troseddu ers hynny. Ategodd ei fod wedi bod yn yrrwr bws plant ysgol ar swydd honno yn un oedd yn ennyn cyfrifoldeb ac ymddiriedaeth.

 

Tynnwyd sylw at baragraff 6.5 o’r Polisi Trwyddedu oedd yn nodi byddai cais yn cael ei wrthod hyd nes bydd yr ymgeisydd yn rhydd o euogfarn am isafswm o 3 blynedd - pwysleisiodd eto bod cyfnod o 39 mlynedd wedi mynd heibio yma. Ategodd bod yr ymgeisydd wedi bod yn ddi-waith wrth aros am wrandawiad ac nad oedd y broses yn addas a phriodol. Gofynnodd i’r Panel ystyried ei gais  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.