Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi i Aelodau’r
Isbwyllgor yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais gan Mr A i adnewyddu
trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Dangoswyd dwy fideo teledu
cylch cyfyng o’r ddamwain yr oedd yr ymgeisydd wedi ei gyhuddo
ohoni – roedd y ddwy fideo wedi
eu cyflwyno fel tystiolaeth gan yr ymgeisydd. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sy’n
gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Mewn ymateb
i gwestiwn os oedd llythyr yn cael
ei anfon at yrwyr cerbyd hacni/hurio preifat yn
eu hatgoffa bod eu trwydded yn dod
i ben, cadarnhawyd bod trefniant o’r fath
mewn lle gan yr Uned Trwyddedu, ond yn yr achos yma
bod yr ymgeisydd wedi symud tŷ
yn ddiweddar. Ategodd mai gofyn cyfreithiol yw i’r ymgeisydd roi gwybod i'r Uned
o unrhyw newidiadau yn ei amgylchiadau. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chyflymder y car yn taro aelod o’r cyhoedd,
nodwyd er nad oedd tystiolaeth o’r cyflymder bod
tystiolaeth gan yr un a drawyd
yn nodi ‘nad oedd y gyrrwr
yn gyrru yn afresymol’ Gwahoddwyd cynrychiolydd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y drosedd gyrru roedd yr ymgeisydd wedi ei gyhuddo
ohoni, a’i amgylchiadau personol. Nododd ei fod
wedi pledio yn euog i’r
cyhuddiad ac roedd yn derbyn
difrifoldeb y sefyllfa - petai yn colli
ei drwydded, byddai yn colli
ei waith. Ategodd ei fod
yn yrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat ers dros 15eg mlynedd a bod ganddo
drwydded yrru lân ac nad
oedd wedi derbyn cwynion am ei waith. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. · Rheswm : Pan fydd gan ymgeisydd am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat unrhyw euogfarnau troseddol (collfarnau) neu rybuddion, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad. Tasg yr Is-bwyllgor yw penderfynu a yw'r ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. Wrth ddod i'r penderfyniad hwnnw, mae'n ofynnol i'r Is-bwyllgor ystyried Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’. Fodd bynnag, bydd pob cais yn cael ei benderfynu yn ôl ei rinweddau ei hun pan fydd amgylchiadau'n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |