Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Miss A (copi i
Aelodau’r Isbwyllgor yn unig) Penderfyniad: Nad oedd yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi
oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Cydymffurfiaeth Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais gan Ms A i adnewyddu
trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sy’n
gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat. Yn unol
â Meini Prawf Addasrwydd ar
gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr,
roedd yr Awdurdod Trwyddedu
yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Mewn ymateb
i gwestiwn os oedd yr ymgeisydd wedi amlygu manylion y troseddau i'r Uned
Trwyddedu, nododd y Swyddog
Cydymffurfiaeth Trwyddedu nad oedd gwybodaeth wedi ei ddatgan iddynt ac nid
oedd y manylion wedi eu cynnwys ar y ffurflen gais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y tri achlysur y derbyniodd y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Yn dilyn
derbyn y pwyntiau cosb, amlygodd iddi wneud apwyntiad
gyda’r optegydd lle canfuwyd bod
ganddi nam ar ei llygaid.
O ganlyniad, fe’i cynghorwyd i wisgo sbectol briodol ar gyfer gyrru
yn y tywyllwch. Ategodd nad oedd
wedi derbyn pwyntiau cosb ers Gorffennaf 2024. Nododd nad oedd wedi datgelu'r
pwyntiau cosb ar ei chais gan mai ei Chyflogwr oedd
wedi cwblhau’r ffurflen ar ei
rhan. Derbyniodd ddifrifoldeb y sefyllfa, petai yn colli
ei thrwydded, byddai yn colli
ei gwaith. PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni
Cyngor Gwynedd’ ·
Canllawiau Addasrwydd Unigolyn ·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd ·
DBS yr ymgeisydd
– dim cofnod o gollfarnau ·
Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Ym mis Rhagfyr 2023 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus Ym mis Gorffennaf 2024 derbyniodd yr
ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd
gyhoeddus Ym mis Gorffennaf 2024 derbyniodd yr ymgeisydd 5 pwynt cosb (SP30)
arall am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus a dirwy o
£200 yn Llys Ynadon Gogledd Ddwyrain Cymru CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |