Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Eryl Williams yn Gadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Michael Williams yn Is-gadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Diane Chisholm (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Rita Price (Esgobaeth Wrecsam) ac Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datgan o fuddiant personol gan unrhyw Aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF (copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar y 25 Chwefror 2015 fel rhai cywir. 4.1 MATERION YN CODI O’R COFNODION Adroddwyd
bod y gwaith gwirio cenedlaethol a gwaith asesu a safoni gan y 4 rhanbarth, er mwyn sicrhau
ansawdd yn genedlaethol, wedi ei gwblhau gydag
adroddiad drafft wedi ei lunio.
Nodwyd y cyflwynir adroddiad yng nghyswllt
y wybodaeth leol i gyfarfod nesaf
y Cyd-Bwyllgor ar 23 Medi 2015. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2014-15 - ADRODDIAD MONITRO (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru’r
Cyd-Bwyllgor ar y cynnydd yn erbyn
Cynllun Busnes 2014-15. Tywysodd yr aelodau
trwy’r adroddiad fesul blaenoriaeth ac ymatebwyd i sylwadau,
yn ystod y drafodaeth gwnaed y prif bwyntiau canlynol: (a)
Blaenoriaeth 4 ‘Cynyddu Niferoedd mewn Cymraeg Iaith
Gyntaf, yn ogystal â chodi safonau, ar draws y rhanbarth’ - Nodwyd yn dilyn secondiad
Mrs Eleri Jones yn dod i
ben, y byddai unigolyn arall yn ymgymryd
â’r gwaith a bod y flaenoriaeth dal yn bwysig. (b)
Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod yng nghyswllt sicrhau dilyniant yn genedlaethol
a rhanbarthol, nododd Mr
Geraint Rees (Llywodraeth Cymru)
bod adroddiad yr Athro Donaldson yn amlygu addysg cyfrwng
Cymraeg a bod angen datblygiad cydlynus ym mhob rhanbarth.
Ychwanegodd bod Cyngor
Gwynedd yn awdurdod arweiniol ar addysg
cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth a gydag amrywiaeth ar draws y rhanbarth bod angen rhwydweithio dyfnach. (c)
Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod parthed cynnal trafodaethau ar y ffordd ymlaen
gydag addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth gan fod strategaeth
wahanol gan y 6 Sir a phroffiliau gwaith gwahanol, nodwyd ei fod yn
hynod bwysig cael trafodaeth ar y ffordd ymlaen. (ch) Blaenoriaeth 6 ‘Sefydlu
a hybu model rhanbarthol ysgol i ysgol’
– Nodwyd bod tystiolaeth gref i ddangos bod ysgolion
â’r awydd i gyd- weithio ond
rhai ysgolion dal yn fwy traddodiadol
eu hagwedd. Pwysleisiwyd yr angen i
sicrhau ei fod yn rhaglen
rhanbarth cyfan. (d)
Blaenoriaeth 7 ‘Datblygu arweinyddiaeth a dysgu ac addysgu o safon ar bob lefel’
– Nododd aelod bod datblygu arweinyddiaeth yn hynod bwysig
a bod angen mesur gwerth. (dd) Blaenoriaeth 8 ‘Cefnogi ysgolion i ddatblygu prosesau
asesu, safoni a chymedroli mwy
cadarn ac effeithiol’ - Mewn ymateb i
sylw gan aelod, nododd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod camau yn
cael ei cymryd i
sicrhau gwell cydbwysedd rhwng herio a chefnogi yn dilyn cyhoeddiad adroddiad
blynyddol Estyn. (e) Blaenoriaeth 10
‘Sicrhau bod GwE yn cael ei
lywodraethu’n effeithiol’
- Nododd Mr Geraint Rees (Llywodraeth
Cymru) o ran trefniadau craffu bod Swyddfa Archwilio
Cymru (SAC) wedi nodi eu dymuniad
bod craffu yn
digwydd yn rhanbarthol ond erbyn hyn gwelir
symudiad tuag at Bwyllgorau Craffu
perthnasol yr Awdurdodau yn edrych
ar adroddiadau thematig.
Nodwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddynt
o ran cael trefn
graffu cydlynus. Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2015 (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn amlinellu sefyllfa
“alldro” ar y cyfrifon Incwm a Gwariant Refeniw 2014/15 ynghyd â datganiad o’r cyfrifon, ar
ffurf statudol, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad. Manylwyd
ar gynnwys y cyfrifon a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r
Cyd-Bwyllgor i ofyn cwestiynau. Adroddwyd
bod y cyfrifon wedi eu hardystio a’u
hanfon i SAC a fe’u cyflwynir gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor i’w cymeradwyo. Arwyddodd y Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr GwE Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2014-15. Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad gan gymeradwyo’r driniaeth o’r tanwariant fel amlinellir yn Atodiad A ‘Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2014/15’ ynghyd â’r Datganiad o’r
Cyfrifon 2014/15 (cyn-archwiliad)
– Atodiad B. |
|
(copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd, er cymeradwyaeth, achos busnes terfynol
GwE oedd yn crynhoi’r sefyllfa
bresennol fesul maes gwaith,
yn asesu’r opsiynau posib ac yn argymell yr
ymyraethau mwyaf effeithiol ar gyfer
cyflawni. Nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli) yr aseswyd
y cynllun busnes yn erbyn y meini
prawf canlynol: ·
A yw’n gwneud y gorau o brofiad ac arbenigedd? ·
Mewn adeg o lymder ariannol a sicrheir gwerth am arian ac oes
hyblygrwydd i reoli’r lleihad mewn arian? ·
A yw’n ddealladwy fel y gellir ei rannu
â rhan ddalwyr? (b) Nododd Mr Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) bod yr Awdurdodau Lleol
wedi cadw’r rolau arweiniol yn y meysydd hyn
felly dylid sicrhau capasiti
digonol o fewn y rhwydweithiau. Mewn
ymateb nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli), bod y Bwrdd Rheoli wedi diwygio
ei gylch gwaith ynghyd a’i
aelodaeth i gydymffurfio â’r model cenedlaethol. (c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol: ·
Yr angen i wella Cyrff
Llywodraethu Ysgolion. ·
Mewn ymateb i sylw gan
aelod, nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli) bod prif swyddog yn chwarae
rôl arweiniol ar bob rhwydwaith. Ychwanegodd y gallai awdurdodau rhoi mwy o adnoddau i gyflawni rhaglen
benodol ond pan sefydlwyd GwE ni ddarganfuwyd gofynion unigryw gan awdurdodau unigol. ·
Byddai atebolrwydd yn gliriach pan fo’r Cytundeb Lefel
Gwasanaeth yn ei le yn nodi
rôl a chyfrifoldebau. ·
Bod adroddiad SAC yn nodi y dylid
gweld symudiad tuag at gyd-berchnogi yn hytrach na chomisiynu gan awdurdod unigol
a bod GwE yn cymryd camau ymlaen
gyda chynllun busnes ar y cyd
wedi ei lunio. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad. (b) Cymeradwyo’r ymyraethau canlynol fesul maes gwaith: ·
Cyngor a Chefnogaeth i Lywodraethwyr (tudalen 10 o’r adroddiad) ·
Y Cyfnod Sylfaen (tudalen 10 o’r adroddiad) ·
Llwybrau Dysgu 14 – 19 (tudalen 12 o’r adroddiad) ·
Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
a Grant y Gymraeg Mewn Addysg (tudalen 13 o’r adroddiad) ·
Cydlynu Rhanbarthol y Strategaeth TGC
(tudalen 14 o’r adroddiad) ·
Cefnogaeth
Adnoddau Dynol Arbenigol (tudalen 14 o’r
adroddiad) (c) Dirprwyo’r cyfrifoldeb
o gynllunio a gweithredu ar yr ymyraethau i Fwrdd
Rheoli GwE. |
|
PRIF FLAENORIAETHAU GwE (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr
Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru’r Cyd-Bwyllgor ar brif flaenoriaethau’r gwasanaeth. Adroddwyd bod Estyn yn cynnal
arolwg yn ystod Gwanwyn/Haf
2016 ar fframwaith newydd sydd eto i’w gyhoeddi.
Nodwyd yr ymgynghorir ar y fframwaith yn Hydref
2015 a gwybyddwyd consortia y disgwylir
tystiolaeth bod dim cystadleuaeth
rhyngddynt. Derbyniwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE yn
manylu ar y gefnogaeth a her a gynigir gan GwE. (b) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd: ·
Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod parthed cadarnhau categori ysgolion, y cymerir i ystyriaeth canlyniadau
arholiadau TGAU ym mis Awst a chadarnheir
categori efo’r ysgolion yn dechrau
mis Medi. ·
Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd
o ran ysgolion uwchradd y cymerir 1 i 2 mlynedd
i ysgolion wella a dod
allan o’r categori coch. ·
Yr angen i gyd-weithio oddi
mewn ac ardraws Awdurdodau Lleol i wella ysgolion. ·
Bod rhai ysgolion angen cefnogaeth ddwys gydag ysgolion yn ennill annibyniaeth
yn y pendraw. ·
Nad yw’r dadansoddiad lliw yn dangos
yr holl ddarlun
gyda rhai ysgolion yn fodlon
bod yn y melyn a ddim eisiau mynd
ymlaen i’r gwyrdd, ac fe ddylid
eu herio yn lleol. ·
Y rhannir y prif flaenoriaethau efo Cyrff Llywodraethu
Ysgolion yn y dyfodol a dod
i ddealltwriaeth o ran gwneud y gorau efo’r model. (c) Derbyniwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE yn manylu
ar y rhaglen datblygu arweinyddiaeth. Mewn
ymateb i ymholiad gan aelod
parthed gwerthusiad tymor hir, nodwyd
yr asesir yr effaith ar
ddiwedd y flwyddyn addysgiadol. Ychwanegodd yn y tymor byr
gwelir bod 4 unigolyn a oedd yn
rhan o’r rhaglen datblygu arweinwyr canol wedi derbyn dyrchafiad
gyda’r unigolion o’r farn ei
fod wedi bod o gymorth. Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CYLLIDEB SYLFAENOL GwE 2015/16 (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol
ar gyllideb sylfaenol GwE am y flwyddyn gyllidol 2015-16. Manylwyd
ar gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Cyd-Bwyllgor
gwestiynu unrhyw elfennau o’r adroddiad. Penderfynwyd: Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2015/16 fel a gyflwynwyd yn Atodiad 1. |