Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rosalind
Williams (Eglwys yng Nghymru), Haf Williams (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd),
Claire Armitsted (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Karen Evans (Cyngor Sir
Ddinbych) ac Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL - 20 MAI 2020 PDF 382 KB (copi ynghlwm) Cofnod: Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd yn
gofnod priodol o’r cyfarfod ar 20 Mai, 2020. Mater yn codi o’r cofnodion: Eitem 7 – Cymwysterau Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE na chafwyd
datrysiad i’r pryderon o ran beth sy’n mynd i ddigwydd yn Awst o gwmpas y
canlyniadau, na sut y bydd 2021 yn edrych i’r dysgwyr, a bod pawb ar bob lefel
yn ceisio cael y maen i’r wal gyda Chymwysterau Cymru. Ategwyd y sylw hwn gan y Cadeirydd, a
chyfeiriwyd yn benodol at bryderon mewn perthynas â system arholiadau eleni, o
safbwynt lle mae’r cyfrifoldeb am y canlyniadau. Nodwyd y cynhelid cyfarfod yn fuan gyda
Chymwysterau Cymru, y Gweinidog ac Aelodau Cabinet i drafod y mater. |
|
CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2020 PDF 123 KB Ystyried adroddiad
y Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2019/20. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol
ar archwiliad) am 2019/20. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd, yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a
nodi’r Datganiad o Gyfrifon GwE am 2019/20 (yn amodol ar archwiliad) a
ardystiwyd gan y Swyddog Cyllid Statudol ar gyfer y Cyd-bwyllgor. Nodwyd:- ·
Bod y tanwariant net terfynol am 2019/20 yn
(£189,618) a bod yr adroddiad ‘alldro’ a gyflwynwyd i’r Cyd-bwyllgor ar 20 Mai
2020 yn manylu ar y rhesymau dros y tanwariant net a’r defnydd y bwriedid ei
wneud o’r balans. ·
Bod Datganiad o’r Cyfrifon eisoes yn destun
archwiliad gan Deloitte, archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd, a benodwyd gan
Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn sgil yr
argyfwng, ni fyddai archwiliadau Llywodraeth Leol Cymru yn cael eu cwblhau yn
derfynol tan fis Medi eleni. Byddai’r
Archwilwyr yn cynhyrchu adroddiad ‘ISA 260’, yn manylu ar brif ddarganfyddiadau
Deloitte, i’w gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor hwn yn ei gyfarfod nesaf ar 15 Medi,
2020. Croesawyd y
refeniw ychwanegol yn sgil y tanwariant yn 2019/20. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER CYD-BWYLLGOR GWE PDF 239 KB Ystyried
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
(ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. Trafodaeth Cyflwynwyd -
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a
chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Nododd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE fod yr adroddiad hwn yn cyd-blethu gyda rhan olaf yr Adroddiad
Blynyddol (eitem 7 isod), a hefyd gydag eitemau 8, 9 a 10. Yn wyneb hynny, awgrymodd symud ymlaen i
eitem 7 a chymryd penderfyniad ar eitemau 6 a 7 gyda’i gilydd ar y diwedd. Nododd ymhellach
fod angen edrych ar y tanwariant net am 2019/20, gan dynnu popeth at ei gilydd
er mwyn ail-ffocysu ar sut bydd y gwasanaeth yn edrych wrth i ni symud yn ein
blaenau. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GwE 2019/20 PDF 263 KB Ystyried
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
(ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor gymeradwyo a derbyn
Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer y flwyddyn gyllidol 2019/20. Nododd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE bod rhan olaf yr Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio at
flaenoriaethau’r Cynllun Busnes ar gyfer 2020/21, ond yn sgil COFID-19, roedd
angen ail-edrych ar y blaenoriaethau hynny.
Roedd y gorwel yn glir yn ôl ym mis Mawrth, ond nid oedd hynny’n bod
bellach, ac roedd angen y drafodaeth er mwyn gweld beth yw prif ffocws y
gwasanaeth wrth i ni symud yn ein blaenau.
Yn amlwg, roedd y dechnoleg yn fater y dylid rhoi sylw iddo. Derbyniodd a
chymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y Datganiad Llywodraethu (eitem 6 uchod) a’r
Adroddiad Blynyddol, gan nodi y bydd papur trafod yn cael ei gyflwyno i’r
cyfarfod nesaf ar 15 Medi, 2020, o ran y blaenoriaethau nesaf y mae angen
cytundeb arnynt. Nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr ymhellach bod y gwasanaeth wedi gorfod newid cyfeiriad 5 gwaith
mewn tymor, ac roedd yn rhaid cymryd y dysgu o’r cyfnod clo a chynnig
gweledigaeth newydd ar gyfer y gwasanaeth wrth symud yn ein blaenau yn y tymor
byr ac yn y blynyddoedd i ddod.
Cyfeiriodd hefyd at y cydweithio gyda’r awdurdodau, gan nodi fod yna
ddatrysiadau lleol o ran cydweithio sy’n well i Ogledd Cymru na’r hyn sy’n dod
gan Lywodraeth Cymru. |
|
Ystyried
adroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE
(ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
cynnwys yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn cynnwys yr adroddiad. Trafodaeth Cyflwynwyd -
adroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r
Cyd-bwyllgor am raglen waith GwE am y cyfnod 12 Mawrth 2020 i 22 Mai 2020, yng
nghyd-destun yr her o ymateb i COFID-19. Nododd Cyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE fod rhywfaint o’r adroddiad wedi dyddio a rhoddodd drosolwg o’r
hyn oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod clo, gan gyfeirio hefyd at y gwaith
oedd wedi digwydd yn ddiweddar (fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad yn eitem
10). Ychwanegodd y bwriedid cyflwyno
adroddiad mwy manwl i’r cyfarfod nesaf ar 15 Medi, 2020, yn rhoi blas o’r hyn
oedd wedi digwydd o ran cefnogi ysgolion a chydweithio gyda’r awdurdodau yn
ystod yr hanner tymor presennol. Roedd
pawb wedi dysgu llawer yn ystod y cyfnod yma, ac yn parhau i ddysgu. Ategodd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE a’r Cadeirydd y sylwadau hyn gan bwysleisio mai un o’r
nodweddion cryfaf yn rhedeg drwy’r holl gyflwyniadau i’r cyfarfod hwn oedd bod
y cydweithio gyda’r chwe awdurdod ar draws rhanbarth y Gogledd, er yn
gadarnhaol bob amser, wedi symud i lefel arall yn ystod yr argyfwng presennol,
a bod yr ysgolion wedi elwa o hynny ar sawl lefel. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth:- ·
Nodwyd bod y gydberthynas rhwng GwE a’r awdurdodau
wedi bod yn bositif iawn, yn arbennig o ran yr asesiadau risg. Roedd hynny wedi tynnu pwysau oddi ar yr
ysgolion a’r penaethiaid, a mynegwyd dymuniad i weld y cydweithio yma’n parhau
ac yn datblygu ymhellach i’r dyfodol. ·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sgiliau
digidol athrawon, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod sgiliau technegol a
digidol pawb, gan gynnwys athrawon, wedi datblygu yn ystod y cyfnod yma. Roedd defnydd cynyddol o dechnoleg yn mynd i
fod yn hanfodol i’r dyfodol, ac roedd lle i ddefnyddio technoleg i gryfhau’r
berthynas rhwng yr ysgol a’r cartref. |
|
Ystyried
adroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE
(ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a
derbyn cynnwys yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r
Cyd-bwyllgor am y ddogfen arweiniol ‘Datblygu dulliau integredig i gefnogi
dysgu cyfunol ar gyfer agor ysgolion yn raddol’. Nododd Cyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE fod toreth o ddeunyddiau wedi’u cynhyrchu yn ystod y cyfnod
hwn, ac y gellid eu rhannu gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor yn yr hydref. Diolchodd y
Cadeirydd i GwE a’r swyddogion a’r ysgolion fu’n cydweithio i ddod â’r
adroddiad hwn at ei gilydd. Nodwyd bod
blynyddoedd o waith wedi’i gywasgu i gyfnod o wythnosau, a byddai’r adroddiad
hwn yn adnodd gwerthfawr i’r dyfodol. |
|
MODEL AIL-GYCHWYN DYSGU GOGLEDD CYMRU PDF 266 KB Ystyried
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Chadeirydd Bwrdd Rheoli GwE (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cefnogi'r dull a'r model rhanbarthol, gyda GwE,
Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod
anghenion unigol dysgwyr yn cael eu diwallu mewn cyd-destun lleol unigol. (b) Er mwyn i’r ysgolion allu paratoi a chynllunio,
gofyn am eglurder gan CBAC a Chymwysterau Cymru ynglŷn â’u cynlluniau ar
gyfer haf 2021 cyn gynted â phosib’. Cofnod: PENDERFYNIAD (a) Cefnogi’r dull a’r model rhanbarthol, gyda GwE,
Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod
anghenion unigol dysgwyr yn cael eu diwallu mewn cyd-destun lleol unigol. (b) Er mwyn i’r ysgolion allu paratoi a
chynllunio, gofyn am eglurder gan CBAC a Chymwysterau Cymru ynglŷn â’u
cynlluniau ar gyfer haf 2021 cyn gynted â phosib’. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Chadeirydd Bwrdd Rheoli GwE yn cyflwyno
papur trafod mewn perthynas â Model Ail-gychwyn Dysgu ar gyfer Gogledd
Cymru. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor
gefnogi’r dull a’r model rhanbarthol, gyda GwE, Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn
gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod anghenion unigol dysgwyr yn cael eu
diwallu mewn cyd-destun lleol unigol. Nododd Cadeirydd
Bwrdd Rheoli GwE fod yr ysgolion yn edrych ymlaen at fis Medi, ond fod angen
pwyllo gan y byddai angen i ysgolion asesu ffitrwydd dysgu eu disgyblion cyn
cyflwyno unrhyw waith newydd i’w ddysgu.
Pwysleisiodd hefyd ei bod yn hynod bwysig bod y gwariant sylweddol fydd
ei angen yn y maes hwn yn cael ei dargedu’n briodol, a bod y rhanbarthau yn
cael yr hawl i benderfynu sut orau i ddyrannu’r arian. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod
fod y gwaith yng Ngogledd Cymru’n gyrru’r agenda, a’u bod yn awyddus i ymestyn
hyn ar draws Cymru. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth:- ·
Mynegwyd pryder sylweddol am les emosiynol y
dysgwyr, plant fyddai wedi dadrithio o brofiadau addysg ac angen cefnogaeth a
chwnsela ynglŷn â’u profiadau yn ystod y cyfnod clo. Nodwyd bod y cyllido cenedlaethol ar gyfer y
maes cwnsela yn hollol annigonol a nodwyd y dylai elfen o’r £29m a gyhoeddwyd
gan y Gweinidog Addysg yn ddiweddar ar gyfer cefnogi ysgolion i recriwtio,
adfer a chodi safonau, neu gyllid arall, gael ei dargedu ar gyfer hyn. ·
Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod beth bynnag
sy’n digwydd, yn digwydd yn sydyn, fel bod pawb yn cael y cyfle i gymryd seibiant
iawn dros yr haf. ·
Nodwyd ei bod yn glir bod y sector uwchradd
angen mwy o gefnogaeth na’r sector cynradd o ran mesurau pellhau cymdeithasol a
chreu swigod, ac ati, gan fod ysgolion uwchradd yn dysgu llawer o bynciau
gwahanol. Mewn ymateb, cytunwyd bod
sefyllfa’r ysgolion uwchradd yn llawer mwy heriol a chymhleth, a chyfeiriwyd at
ganllaw newydd y Llywodraeth, oedd yn cynnwys asesiadau risg wedi’u
hail-ddrafftio. ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau nad ydi’r
ysgolion yn defnyddio’r cyllid ychwanegol i ariannu bylchau yn eu
cyllidebau. Mewn ymateb, nodwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir bod hwn yn bot o arian ar wahân, ac nad
oedd ar gael i ariannu bylchau mewn cyllidebau, nac i atal diswyddiadau, a bod
rhaid i’r ysgolion ddangos yn glir sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio. ·
Nodwyd bod angen eglurder ynglŷn â sefyllfa’r
disgyblion hynny fydd ym mlynyddoedd 11 ac 13 yn haf 2021. Mewn ymateb, nodwyd bod diffyg gwybodaeth
ynglŷn ag unrhyw addasiad posib’ i’r cymwysterau yn rhwystr i’r ysgolion
rhag paratoi a chynllunio’n briodol. · Cyfeiriwyd at bwysigrwydd y gwaith ar y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |