Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Is-Gadeirydd
Gill German (Cyngor Sir Ddinbych), Alwyn Jones (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE),
Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych), Garem Jackson (Cyngor Gwynedd), Karen Evans
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint) a Claire
Armitstead (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Ni
chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13.07.2022 fel rhai cywir. COFNODION: Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 13eg o
Orffennaf, 2022 yn gywir. |
|
CYLLIDEB GwE 2022/2023 - MONITRO CHWARTER 1 Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad
ar gyfer Chwarter Cyntaf 2022/2023. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif bwyntiau isod: -
Adroddwyd
bod adolygiad cychwynnol o’r gyllideb yn rhagweld tanwariant net o £116,306.00
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23). -
Esboniwyd
bod salwch a throsiant staff, secondiadau a chyfnodau mamolaeth yn ogystal â
thrafferthion recriwtio wedi cyfrannu tuag at y tanwariant hwn. -
Eglurwyd
bod nifer o ymweliadau a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol erbyn hyn
ac felly mae GwE yn gwario llai o arian ar gludiant nag y disgwyliwyd. -
Cadarnhawyd
bod cronfa cyllideb GwE yn £437,503.00 ar gychwyn y flwyddyn ariannol bresennol
(2022/23) ac amcangyfrifwyd y bydd cronfa cyllideb GwE yn £553,808.00 erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23). PENDERFYNWYD -
Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad
ar gyfer monitro Cyllideb GwE -Chwarter 1 2022-2023. |
|
CYNLLUN BUSNES GwE 2022/2023 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i'r Cyd-Bwyllgor Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad
monitro chwarter 1, Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2022-2023. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a nodwyd y prif
bwyntiau isod: -
Eglurwyd
bod GwE wedi datblygu 31 o gynlluniau busnes sy’n efelychu’r blaenoriaethau
rhanbarthol a chenedlaethol. -
Pwysleisiwyd
bod Chwarter 1 wedi cael eu dreulio yn datblygu’r cynlluniau busnes er mwyn
iddynt fod yn weithredol hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23). Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â meysydd gwelliant rhanbarthol GwE,
nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE: -
Bod
ysgolion wedi bod yn canolbwyntio yn fawr ar barhau i ddarparu addysg o’r safon
gorau posibl drwy gydol pandemig Covid-19.
Cadarnhaodd eu bod yn parhau i wneud hynny drwy sicrhau eu bod yn diogelu
iechyd disgyblion a staff. Oherwydd bod y bygythiad o’r salwch yn parhau i fod
yn bresennol, mae ysgolion angen amser i fagu hyder bod effaith Covid-19 am fod
yn is yn y dyfodol. PENDERFYNWYD -
Cymeradwyo’r adroddiad ar gyfer
monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes GwE 2022-2023. |
|
Y DAITH DDIWYGIO: ADRODDIAD CYNNYDD Cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar baratoadau ysgolion i waith Cwricwlwm i Gymru yn sgil yr agenda adnewyddu a diwygio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Uwch Arweinydd –
Cwricwlwm i Gymru a nodwyd y prif bwyntiau isod: - Soniwyd bod cynnwys yr adroddiad yn
edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn datgan sut roedd ysgolion
cynradd ac uwchradd yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a ddaeth i rym ym
mis Medi 2022. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi sylw penodol i dymor yr haf cyn
i’r cwricwlwm ddod i rym. - Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu 6 cam er
mwyn paratoi at y newid hwn i’r cwricwlwm a nodwyd bod ysgolion yn ymdopi yn
dda gyda’r camau hynny. - Ychwanegwyd bod adborth gan arweinwyr ysgolion yn
cadarnhau bod angen cymryd camau ychwanegol er mwyn cyrraedd y targedau hyn yn
enwedig wrth gysidro rôl cynnydd, asesu ac addysgeg yn y cyd-destun lleol. - Mynegwyd bod ysgolion cynradd wedi
ymgysylltu’n dda wrth baratoi at y cwricwlwm newydd a'u bod wedi cael eu
cefnogi gan Gwricwlwm i Gymru drwy gyfresi o weithdai, webinarau
a modelau. - Esboniwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda ysgolion
uwchradd eleni i ffocysu ar ddisgyblion oedd yn symud i flwyddyn 7, ac flwyddyn
nesaf bydd y gwaith yn ffocysu ar flwyddyn 7 ac 8. - Cadarnhawyd fod ysgolion uwchradd yn
edrych ar hunaniaeth leol er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fewnosod
drwy ddulliau addas. - Pwysleisiwyd fod addysgeg a
hunanasesiadau yn newid o ysgol i ysgol a bod strategaethau yn cael eu
datblygu’n rheolaidd.. Mae cymorth yn cael ei ddarparu i annog llesiant i bawb
ac anogir i ysgolion gydweithio er mwyn creu rhwydwaith o staff sy’n gallu
cefnogi ei gilydd drwy’r daith diwygio hwn. Ymhelaethodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ar y pwyntiau hyn gan nodi’r prif bwyntiau isod: - Mynegwyd dyhead i gyflwyno diweddariad o’r
cwricwlwm i aelodau newydd yr awdurdodau lleol yn dilyn etholiad fis Mai 2022,
neu i holl aelodaeth y cynghorau lleol er mwyn eu diweddaru ar ddatblygiadau’r
cwricwlwm. - Mewn ymateb i’r sylw yma, nododd y Cadeirydd
efallai byddai cynnal diweddariad ar lein yn opsiwn er mwyn diweddaru llawer o aelodau
ar yr un adeg. - Cyfeiriwyd at ofynion mesur cynnydd ac
atebolrwydd ysgolion gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Nodwyd bod strwythur, siâp a
chyfeiriad y cwricwlwm yn anodd ei bennu, ac felly mae ysgolion angen amser i fagu
hyder ar y dull gorau i’w ymgorffori gan fanteisio ar yr agweddau sydd fwyaf
perthnasol iddynt. Ychwanegwyd y byddai pontio a chydweithio naturiol yn
digwydd drwy anghenion lleol, daearyddol a phrofiadau dysgu wrth i amser fynd
yn ei flaen. Mewn ymateb i ymholiad am yr amserlen o ran pryd bydd y dulliau asesu’n ddigon
aeddfed i allu dehongli os ydi’r dulliau addysgu hyn yn fyw llwyddiannus na’r
dulliau blaenorol, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE: - Mi fydd yn beth amser i allu cymharu hyn. Aethpwyd ymlaen i egluro bod hyn yn bennaf oherwydd bod y systemau newydd yn edrych ar lesiant, profiadau dysgu a’r profiadau yn erbyn y pedwar diben. Eglurwyd bod angen cael trafodaethau manwl yn y dyfodol er ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH GwE: TYMOR YR HYDREF 2022 I Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar brif
ffocws ein rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'r tu hwnt. Penderfyniad: COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd Rhanbarthol
Uwchradd GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod: -
Eglurwyd
bod y cydbwyllgor eisoes yn ymwybodol o ddisgwyliadau a gofynion y canllawiau
gwella ysgolion cenedlaethol newydd. Atgoffwyd bod GwE, y Llywodraethwyr ac
Aelodau Lleol yn gyfrifol am ddal y gyfundrefn yn atebol ar y lefel lleol a bod
Estyn yn rhannu’r un cyfrifoldebau yn rhanbarthol a chenedlaethol. -
Nodwyd
bod yr adroddiad hwn yn amlygu’r rhaglen waith ar gyfer y tymor hwn yn ogystal
â’r tymhorau sy’n dilyn er mwyn cefnogi pob ysgol i ymateb i ofynion y
fframwaith newydd. -
Cadarnhawyd
bod yr adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Rheoli GwE ac
ymgynghorwyd â Phenaethiaid rhanbarthol mewn Fforymau Strategol ac yng
Nghynhadledd GwE i uwch arweinwyr yn Venue Cymru ar
22 a 23 Medi 2022. -
Rhoddwyd sylw manwl i’r canllawiau newydd ar gyfer
gwella ysgolion gan nodi’r pwyntiau canlynol: -
Disgwylir
i ysgolion feddu ar brosesau hunan-arfarnu a hunanwerthuso cadarn yn ogystal
â’r mecanwaith ar gyfer gwella. Disgwylir hefyd bod gan ysgolion brosesau ar
gyfer cynllunio a chynnal gwelliannau. -
Eglurwyd nad yw ysgolion ar eu pen eu hunain gyda
hyn gan y bydd yr awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol yn sicrhau fod
ganddynt gynhaliaeth er mwyn cynnal gwelliannau. -
Esboniwyd mai un o brif ddyletswyddau ALl, GwE ac Estyn ydi gwerthuso’r gweithdrefnau hyn a’u
gwella yn effeithiol. Golyga hyn fod yn rhaid cael system atebolrwydd clir er
mwyn i bawb wybod beth sydd angen ei weithredu a pha ymyrraeth ychwanegol sydd
ei angen. -
Pwysleisiwyd
bod gweithdrefnau arfarnu a gwelliannau wedi newid dros y ddwy flynedd
ddiwethaf yn sgil y pandemig ac o’r herwydd nid yw’r
rhaglen waith mor syml ag y mae’n edrych ar yr olwg gyntaf. Deilliai hyn o’r
ffaith fod ysgolion wedi wynebu heriau dwys iawn i sicrhau fod plant y
rhanbarth yn parhau i dderbyn addysg o safon, yn saff. Golyga hyn fod addysgu o
safon uchel, llesiant ac iechyd a diogelwch wedi bod yn flaenoriaeth dros y
ddwy flynedd diwethaf yn hytrach na diweddaru fframweithiau arfarnu. -
Rhannwyd diolchiadau penaethiaid rhai ysgolion y
rhanbarth am safiad y Cyd-bwyllgor, sydd wedi helpu i sicrhau mai asesiadau yr
athrawon oedd yn asesu cyflawniad y disgyblion o fewn y cyfnod hwn, gan ei bod
wedi gweithredu fel system effeithiol iawn drwy gyfnod ansicr. -
Nodwyd bod Estyn bellach wedi cychwyn ail-ymweld ag ysgolion
i gynnal arolygiadau, a nodwyd y prif bwyntiau isod: -
Nad
ydi fframweithiau arolygu Estyn wedi cael eu diwygio llawer ers cyn argyfwng
Covid-19. -
Eglurwyd
bod ysgolion dal yn ymdopi gyda phroblemau ychwanegol sy’n deillio o’r pandemig megis presenoldeb, lles, trosiant staff a cholled
sgiliau sylfaenol. -
Er mwyn cefnogi ysgolion ar eu taith wella bydd pob
ysgol yn derbyn cynllun cymorth unigryw fydd yn amlygu y gefnogaeth fwyaf priodol ar eu cyfer. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i
rannu sylwadau a holi cwestiynau: - Cytunwyd bod angen cydnabod yr heriau newydd sy’n deillio o’r pandemig. Cydnabuwyd bod angen i arolygiadau edrych ... view the full COFNODION text for item 8. |
|
CYNHADLEDD RANBARTHOL TYMOR YR HYDREF GwE I Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor am gynhadledd ranbarthol GwE. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r adroddiad ar
gynhadledd ranbarthol GwE. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth i’r Aelodau gan Reolwr Gyfarwyddwr
GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod: -
Cafwyd
ymateb rhagorol i’r gynhadledd, gyda thua 500 o bobl yn mynychu dros y ddau ddiwrnod. Dyma’r gynhadledd gyntaf i GwE
ei gynnal yn dilyn y cyfnodau clo. -
Rhoddwyd
crynodeb o gynnwys y gynhadledd i gynnwys: -
Sgwrs gan Dafydd Iwan i annog miliwn o siaradwyr
Cymraeg. -
Gweithdai ymarferol. -
Sesiynau holi ac ateb. -
Cyflwyniad gan yr Athro Graham Donaldson. -
Ychwanegwyd
bod pwyslais mawr wedi ei roi ar lesiant unigolion, arweinwyr a staff yn
ogystal â’r proses addysgu ôl-Covid drwy gydol y
gynhadledd. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i
rannu sylwadau a holi cwestiynau: -
Mynegwyd
diolchiadau i’r tîm busnes oedd wedi gwneud yr holl drefniadau i gynnal y
gynhadledd ac eiliwyd bod yr adborth sy’n cyrraedd yr Aelodau yn gadarnhaol
iawn. -
Gofynnwyd
os oedd modd rhannu recordiad o araith yr Athro Graham Donaldson
i’w rannu gyda’r Aelodau a phobl eraill nad oedd yn gallu bod yn bresennol,
oherwydd yr adborth cadarnhaol. Mewn ymateb i’r
ymholiad am araith yr Athro Donaldson, nododd Reolwr
Gyfarwyddwr GwE y gall GwE gysylltu ag o i weld os yw hyn yn bosib. PENDERFYNWYD -
Derbyn a nodi’r
adroddiad ar gynhadledd ranbarthol GwE. |