Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BY
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2016 - 2017 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl
Williams (Cyngor Sir Ddinbych) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn
2016/17. |
|||||||||||||||||
ETHOL IS GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2016 - 2017 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Michael
Williams (Cyngor Sir Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor am
y flwyddyn 2016/17. |
|||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Kenneth P.Hughes a
Wyn Ellis Jones; Rosalind Williams (Esgobaeth
Llanelwy), Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig), Alison Fisher
(Cynrychiolydd Llywodraethwr), Arwyn
Thomas (Cyngor Gwynedd), R.Ellis Owen (Cyngor
Bwrdeistref Conwy), Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych),
Iwan Evans (Awdurdod Lletyol), Geraint Rees
(Llywodraeth Cymru) a Huw Foster Evans (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE). |
|||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Cofnod: Dim. |
|||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 254 KB (copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
24 Chwefror 2016 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||
(copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adroddiad ar ansawdd
y gwasanaethau gwella ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli at gasgliadau ac argymhellion
arolwg Estyn a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin.
Nododd fod angen mynd i’r afael â dau faes yn benodol, sef:- 1) Y gwaith sy’n mynd rhagddo
i hyrwyddo safonau uwch o fewn ysgolion, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4. 2) materion yn ymwneud â
gwerth am arian a phrosesau busnes ac o gwmpas y cwestiwn o effeithiolrwydd
cyflenwi’r rhaglen a chysondeb ar draws y rhanbarth. Manylodd y
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ar yr argymhellion yn unigol ynghyd â’r gwaith o ddrafftio cynllun gweithredu cychwynnol mewn
ymateb i’r argymhellion hynny. Nododd y
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ymhellach eu bod yn croesawu’r elfennau positif yn yr
adroddiad ac yn derbyn yr atebolrwydd sydd ar y gwasanaeth. Nododd y
Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn hyderu y byddai’r
camau gweithredu yn sicrhau bod y llinellau atebolrwydd yn hollol glir. Diolchodd y
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol i’r Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli
am ei gefnogaeth yn ystod cyfnod yr arolwg. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd:- ·
Bod y feirniadaeth ynglŷn â mesur gwerth am
arian yn thema cyffredin yn adroddiadau arolwg Estyn / SAC ar bob un o’r 4 consortiwm
Cymreig, ac yn agwedd bydd y rhanbarthau yn cydweithio arno i’w gyflawni i’r
dyfodol. ·
Bod y camau a amlinellir ym mharagraffau 3.8 a
3.9 o’r adroddiad yn gadael GwE allan o’r darlun ac yn ymdrin ag awdurdodau
lleol yn uniongyrchol. Atebodd y Cyfarwyddwr
Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn croesawu’r eglurder o 2017
ymlaen, ond yn y pen draw, yr awdurdod lleol sydd â’r
cyfrifoldeb statudol yn y meysydd hyn. ·
Y byddai wedi bod yn fuddiol i’r aelodau gael
gweld drafft o’r cynllun gweithredu cyn y cyfarfod hwn. Atebodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol
(Cefnogaeth a Broceru) ei fod yn derbyn y sylw, ond y
gallai sicrhau’r aelod fod y gwaith yn mynd rhagddo ac ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) y byddai’r drafft yn debygol o fod ar gael cyn
cyfarfod Medi o’r Cyd-bwyllgor. ·
Er bod GwE yn gwbl atebol am wella perfformiad
ar draws y Gogledd, nid yw’n gyfrifol am y rhwydweithiau rhanbarthol (sy’n
gyfrifol am weithredu elfennau penodol o’r Model Cenedlaethol) a phwysleisiwyd
bod angen edrych ar hynny yn ofalus gyda
golwg ar atebolrwydd a gwerth am arian.
Mewn ymateb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd
Rheoli at y gwahanol strwythurau gan nodi y bwriedid cynnal gweithdai ar
ansawdd a’r gwaith o graffu’r rhaglenni gwaith.
Trafodwyd cyllido yn y tymor canolig. Nododd Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd mai’r penderfyniad am 2016/17 oedd i ariannu GwE ar yr un toriad â grant y 6 awdurdod, ond erbyn 2017/18 a thu hwnt bod ansicrwydd bellach ar draws holl adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ychwanegodd y byddai’n gweithio gyda Rheolwr Busnes a Chyllid GwE ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||
Y RHWYDWAITH CYLLID AC ADNODDAU PDF 363 KB (copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad gan Bennaeth Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn diweddaru
aelodau’r Cyd Bwyllgor ar weithgareddau’r Rhwydwaith Cyllid ac Adnoddau. Nodwyd y byddai
dros £27 miliwn (85%) o gyfanswm gwariant gros y Grant Gwella Addysg ar gyfer
2016/17 yn cael ei ddatganoli i ysgolion a phwysleisiwyd pwysigrwydd parhau i
wneud hynny i’r dyfodol. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd sicrhau bod yr arian yn cael ei gyfeirio’n effeithiol er mwyn cael
effaith bositif. Diolchodd
Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd ar ran y swyddogion cyllid sy’n gweithio gyda
Phennaeth Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH, 2016 PDF 59 KB (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad gan Bennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yn cyflwyno:- ·
Adroddiad “alldro” Incwm a Gwariant Refeniw
2015/16; a ·
Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’,
wedi’u hardystio, ond yn amodol ar archwiliad. Cyfeiriodd at
incwm £14,155,701 a gwariant £13,950,651 yn y ddau bapur. Nodwyd bod
angen cywiro’r dyddiad ar waelod tudalen 33 o’r rhaglen gyflawn, o dan
Dystysgrif y Swyddog Cyllidol Cyfrifol, i ddarllen ‘31 Mawrth, 2016’. Eglurodd y
Pennaeth Cyllid fod y lleihad £1.4m mewn ymrwymiadau pensiwn yn symudiad ‘ar
bapur’ yn hytrach nag adnodd y gellir ei ddefnyddio. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth yn
yr atodiadau i’r adroddiad a chadarnhau’r driniaeth o’r tanwariant, sef – ·
Adroddiad
“alldro’” Incwm a Gwariant Refeniw 2015/16 – Atodiad A ·
Datganiad
o’r Cyfrifon 2015/16 ar ei ffurf statudol (yn amodol ar archwiliad) – Atodiad
B. |
|||||||||||||||||
DATGANIAD LLYWODRAETHU PDF 234 KB (copi’n
amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn gwahodd y Cyd Bwyllgor i dderbyn a
chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. PENDERFYNWYD
derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Ardystiodd y Cadeirydd
ac un o’r dirprwyon ar ran Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, y Datganiad Llywodraethu ar
ddiwedd y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
(copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a’r Rheolwr
Gyfarwyddwr yn cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i’r Cyd Bwyllgor. Gwahoddwyd
aelodau’r Cyd Bwyllgor i adolygu cynnwys y gofrestr gan benderfynu a oes unrhyw
risgiau yr hoffent eu dwyn i sylw eu Cabinet ayyb. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd sicrhau dealltwriaeth o’r materion a nodwyd. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r
Gofrestr Risg. |
|||||||||||||||||
CALENDR CYFARFODYDD 2016/17 PDF 301 KB (copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad gan y Rheolwr Busnes a Chyllid yn gofyn i’r Cyd Bwyllgor gytuno ar y
rhaglen o gyfarfodydd am y flwyddyn i ddod. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen isod o
gyfarfodydd am y flwyddyn i ddod:-
|