Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I ddebyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Gwynne
Jones (Cyngor Sir Ynys Mon), Gareth Williams (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol GwE),
Dafydd L Edwards (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol) a Haf Williams (Ysgol
Deganwy) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw faterion brys Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL A GYNHALIWYD AR 26 MEDI PDF 87 KB Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 26
Medi 2018, fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD AR BERFFORMIAD Y RHANBARTH 2017-18 PDF 66 KB Adroddiad gan Arwyn Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr Adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud
gan Lywodraeth Cymru i sut yr adroddir ar fesurau perfformiad. O ganlyniad nid
oes unrhyw wybodaeth gymharol ar lefel awdurdod lleol nag ar lefel consortia ar
gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 na Chyfnod Allweddol 3. Cychwynnwyd drwy drafod y Cyfnod Sylfaen a nodwyd er bod perfformiad
wedi gostwng yn rhanbarthol, mynegwyd fod y gostyngiad yn is na’r gostyngiad
cenedlaethol ar draws bob adran. Y prif reswm am hyn yw’r defnydd am y tro cyntaf o
ddeilliannau newydd mewn iaith a mathemateg o’r Fframwaith CS ar gyfer
asesu. Wrth edrych ar Gyfnod Allweddol 2 nodwyd fod
perfformiad yn parhau i fod yn gadarn ym mhob pwnc gyda’r rhanbarth yn parhau i
fod yn gryf ar y lefel disgwyliedig a’r lefelau uwch na’r disgwyl. Nodwyd y
bydd GwE yn parhau i gryfhau gweithio clwstwr ymhellach er mwyn hyrwyddo
cydweithrediad a rhannu arferion da. Nodwyd fod proffil Estyn ar gyfer ysgolion
cynradd yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn gyda chynnydd yn niferoedd o
ysgolion wedi derbyn dyfarniadau uchaf i 13.2%. Ychwanegwyd mai dim ond 3 oedd
yng nghategori statudol Estyn ar hyn o bryd, sydd yn 0.75% o ysgolion cynradd y
rhanbarth. Wrth edrych ar Gyfnod Allweddol 3, nodwyd fod y perfformiad yn
gadarnhaol a bod perfformiad y rhanbarth yn parhau yn uwch na’r ffigwr
cenedlaethol yn y pynciau craidd. Trafodwyd y bwlch rhywedd rhanbarthol, ble
mae merched yn parhau i berfformia’n well na bechgyn. Mynegwyd yn gyffredinol mai siomedig yw perfformiad Cyfnod Allweddol 4,
gan ychwanegu fod Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd yn nodi cyfeiriad ar
gyfer datblygiadau rhanbarthol dros y tair blynedd nesaf. Ychwanegwyd fod GwE
wedi bod yn gweithio i wella perthynas gyda’r ysgolion ac mae gwaith yn cael ei
wneud i’w cefnogi. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud gan GwE i wella
effeithiolrwydd arweinyddiaeth canol o ran arwain yr addysgu, asesu, tracio a'u
gallu i werthuso yn gadarn a gobeithir y bydd hyn yn dwyn ffrwyth yn ystod y
blynyddoedd nesaf. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i well perfformiad
dysgwyr PYD drwy sicrhau fod ysgolion yn
derbyn arweiniad a chymorth clir ynghylch strategaethau effeithiol, dysgu a
thracio. Nodwyd fod GwE yn buddsoddi yn CA3 a fydd yn llifo i mewn i CA4, a
nodwyd fod y berthynas rhwng GwE ac ysgolion uwchradd yn gadarn iawn.
Ychwanegwyd fod camau wedi eu gwneud ond nad yw’r canlyniadau yn amlwg eto.
Trafodwyd disgyblion PyD, gan nodi y bydd effaith o bosib pan fydd y Credyd
Cynhwysol yn cael ei gyflwyno. Trafodwyd canlyniadau TGAU Saesneg, gan bwysleisio ei bod yn anodd symud ymlaen tan y bydd esboniad arwyddocaol i beth ddigwyddodd. Nodwyd anghysondeb mewn ymatebion gan Gymwysterau Cymru, ac y dylai disgyblion sydd wedi cyrraedd y safon dderbyn Gradd C. Mae codi’r nifer o farciau oedd angen i gael gradd C yn yr Haf wedi golygu na all nifer sylweddol o ddysgwyr y rhanbarth fynd ymlaen i’r cyrsiau ôl-16 oeddynt wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Y GYMRAEG MEWN ADDYSG PDF 112 KB Adroddiad i
ddilyn Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y
cynigion a amlinellir isod er mwyn grymuso’r Awdurdodau a’r Rhanbarth i ymateb
i, ac i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o siaradwyr
Cymraeg fel y nodir yn: -
Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg -
Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl – Cynllun
Gweithredu 2017-21 -
Y Gymraeg mewn Addysg – Cynllun Gweithredu 2017-21 -
Un iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng
Nghyfnod Allweddol 3 a 4 TRAFODAETH Nodwyd fod Bwrdd
Strategol Y Gymraeg yn arwain, cydlynu a rheoli maes y Gymraeg yn rhanbarthol
ac yn atebol i Fwrdd Rheoli GwE. Gwnaed argymhelliad y dylid cynnal adolygiad
o’r ddarpariaeth bresennol fel bod y rhanbarth yn ymateb yn llawn i gyfeiriad
polisi Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau cyd-lyned a chynhwysedd priodol i gynnig
gwasanaeth rhanbarthol o ansawdd yn y maes. Holwyd beth yw amserlen yr
adolygiad ac ychwanegwyd ei bod yn
bwysig adnabod beth yw’r arferion da sy’n digwydd ar draws y rhanbarth.
Ychwanegwyd y bydd angen mapio'r system llywodraethu gan y bydd rhai o’r
materion fydd yn codi yn rhai i’r Awdurdodau Lleol a’u Cabinet yn hytrach na’r
Cydbwyllgor. |
|
CYLLIDEB GwE 2018-19 - ADOLYGU CHWARTER 2 PDF 135 KB Adroddiad gan Dafydd L Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi nad oes llawer o newid i gymharu gyda’r adolygiad chwarter cyntaf. Tynnwyd
sylw at danwariant un-tro o ganlyniad i secondiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol o’r
1af o Fehefin. Trafodwyd grantiau'r
Llywodraeth gan nodi fod arian Grant Gwella Addysg wedi ei dorri flwyddyn yn ôl
ond bod y toriad disgwyliadwy eleni heb gymryd lle. Nodwyd fod cyhoeddiad
wythnos ddiwethaf wedi nodi arian ychwanegol i Ysgolion ond bod disgwyl am
amodau gan y llywodraeth cyn ei ddosrannu. Nodwyd fod angen fod bod yn
glir beth yw amodau’r grant yma, a sut y bydd modd ei wario. Gyda chefnogaeth
GwE, efallai bydd modd creu amserlen gyda phenaethiaid er mwyn gwneud y mwyaf o’r
arian grant. |
|
COFRESTR RISG 2018-19 - ADOLYGU CHWARTER 2 PDF 87 KB Adroddiad gan Arwyn Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr Adroddiad. TRAFODAETH Mynegwyd nad oedd llawer o newid i’r gofrestr risg yn dilyn cyfarfod mis
Medi. Ychwanegwyd fod risgiau 1,2,5,7 ac 17 wedi eu diweddaru. Ychwanegwyd fod
y risgiau wedi ei lliniaru. |
|
CYNLLUN BUSNES 2018-19 - MONITRO CHWARTER 2 PDF 67 KB Adroddiad gan Arwyn Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod gwaith yn cael ei wneud ar safonau ac ar CA4. Nodwyd fod
ychwanegu’r golofn ‘Tracio proffil gwariant Ch2’ yn ychwanegiad defnyddiol er
mwyn sicrhau fod gwariant ar gyfer blaenoriaethau ar drac. Nodwyd fod yr
adroddiad yn adlewyrchu safonau a blaenoriaethau’r gwasanaeth. Bydd angen dechrau trafodaethau ar gyfer
ffocws GwE ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. |
|
SESIWN HERIO AC ADOLYGU YR HYDREF - ADBORTH Cyflwynir gan Arwyn Thomas Cofnod: Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i Gareth Thomas a Karen Evans am eu
gwaith. Mynegwyd fod y cyflwyniad wedi dangos sut mae’r Cydbwyllgor yn
cyd-weithio yn rhanbarthol ac yn arddangos aeddfedrwydd y bartneriaeth.
Ychwanegwyd fod y Sesiwn Herio ac Adolygu'r Hydref wedi gosod y bar yn uchel
a'i fod yn amlygu aeddfedrwydd gwleidyddol y Cydbwyllgor. Nodwyd fod sialensiau wedi codi yn ystod blynyddoedd cyntaf GwE ond fod
y rhanbarth wedi dysgu gwersi ac wedi gallu symud ymlaen. |
|
Y DAITH DDIWYGIO - ADY Cyflwyniad gan Margaret Davies Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan Margaret Davies ar ble mae’r daith diwygio
Anghenion Dysgu Ychwanegu. Mynegwyd fod angen sicrhau fod y disgyblion yn cael
y gefnogaeth gywir yn y cyfnod cywir. Ychwanegwyd fod o gwmpas 22,000 o
ddisgyblion ADY yn y rhanbarth ac felly bod angen sicrhau fod y ddarpariaeth
angenrheidiol ar gael. Nodwyd y gwaith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd a'r blaenoriaethau.
Ychwanegwyd y bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yn mynd yn
weithredol yn y 18mis nesaf, ac o ganlyniad bydd angen sicrhau fod ysgolion yn
ymwybodol o’r wybodaeth angenrheidiol ac yn hyderus eu bod yn cwrdd â gofynion y
ddeddf newydd. Mae posibilrwydd y bydd
yn gyfnod heriol i ysgolion. Esboniwyd y bydd angen i staff fod yn ymwybodol o
beth yw’r camau cyfreithiol. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: -
Trafodwyd cyfathrebu - yr awdurdodau lleol fydd â’r
atebolrwydd cyfreithiol. -
Trafodwyd disgyblion sydd yn cael eu haddysgu
adref, a sut y bydd angen sicrhau cefnogaeth iddynt fel rhan o’r ddeddf newydd. -
Holwyd os yw ysgolion a GwE yn barod am y ddeddf
newydd - nodwyd ei fod yn gyfnod o lawer o newid. Trafodwyd y cynhwysedd i wneud popeth.
Mynegwyd fod ymdrech i blethu popeth gyda’i gilydd. -
Trafodwyd y bartneriaeth newydd fydd ei angen gyda
Cholegau a Phrifysgolion. -
Nodwyd bod angen edrych yn ehangach nag addysg yn
unig. Bydd angen trafodaeth bellach ar yr eitem yma i’r dyfodol. |