Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Mon, Llangefni LL77 7TW. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. John Pughe Roberts(CG), Cyng. Berwyn Parry Jones (CG), Cyng. Robin
Williams (CSYM) a Cyng. Richard Owain Jones (CSYM) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Tachwedd
2018 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2018 fel y rhai cywir. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL PDF 650 KB Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm ac Uwch Swyddog Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: i)
Canllaw Cynllunio Atodol: Ail-adeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad Cyflwyniad gan Heledd
Jones yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 16 Tachwedd 2018 ac yn gofyn am
gymeradwyaeth i gyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Materion
a godwyd: ·
Angen eglurhad pam fod adeiladau
sydd wedi cael eu hadeiladu cyn 1919 yn cael eu hystyried fel rhai
traddodiadol? ·
Beth a olygir gan y term ‘agos
at’ Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol h.y. wrth ystyried effaith unrhyw
fwriad ar yr AHNE? ·
Angen ychwanegu’r gair “Nac Ydy”
rhwng dau flwch yn y siart llif. ·
O ran dymchwel ac ail-adeiladu,
ydi’r canllaw yn adnabod adeiladau sâl? ·
Pryder
am ail-ddefnyddio adeiladau fferm yng nghefn gwlad. Mae’n haws i ffermydd mawr ddangos fod y
busnes yn hyfyw i gymharu hefo ffermydd bach sy’n golygu gall ffermydd mawr
cael tŷ i aelod o’r teulu sy’n gweithio ar y fferm neu weithiwr ar y fferm
drwy NCT6. Er hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r polisi’n cydnabod bod gweithwyr
eraill yn bwysig i ardaloedd gwledig. Polisïau yn caniatáu trosi adeiladau
allanol i lety wyliau ond dim i dŷ ar gyfer trigolion lleol. ·
Ydy tai fforddiadwy yn
fforddiadwy i drigolion lleol, yn enwedig mewn llefydd fel Abersoch? ·
Mae’r canllaw yn rhwystro yn
hytrach nag hwyluso datblygiadau yng nghefn gwlad. Ymateb: ·
Ar ôl 1919 fe gyflwynwyd dulliau
mwy modern o adeiladu e.e. waliau geudod a seiliau adeiladu. Eglurodd nad oedd y dyddiad yn un rhagnodol
ond caiff ei gynnwys yn y canllaw er mwyn rhoi syniad i bobl beth a ddiffinnir
fel adeilad traddodiadol. ·
Ni
ellir diffinio yn union yr hyn a olygir gan ‘agos at’ yr AHNE. Rhaid ystyried
pob achos yn unigol o safbwynt effaith y bwriad ar osodiad yr AHNE. Mae pob
bwriad yn wahanol o safbwynt yr hyn a gynigir a’r
math o dirwedd o fewn yr AHNE sydd angen ei ystyried. Mae effaith datblygiad unigol ar olygfeydd i
mewn ac allan o’r AHNE yn seiliedig felly ar ddadansoddiad o dystiolaeth am
ardrawiad gweledol y datblygiad . ·
Mae
rhan 13 o’r canllaw yn delio gydag addasrwydd adeiladau ac yn cefnogi polisi
TAI 13 o ran bod angen adroddiad strwythurol ac adroddiad hyfywdra ariannol
sy’n dangos nad yw’r adeilad yn economaidd hyfyw i’w ail-ddefnyddio. Nid yw hyn
yn eithrio ail-adeiladu tai o ansawdd gwael, cyn belled a bod yr adeilad yn
cyd-fynd â’r holl ofynion perthnasol yn y polisi a’r canllaw. · Hefo bwriad i drosi adeiladau yng nghefn gwlad, mae rhaid cydymffurfio hefo polisïau cenedlaethol sy’n rhoi blaenoriaeth i drosi ar gyfer defnydd economaidd. Mae polisi cenedlaethol wedi dechrau newid cyfeiriad ac adnabod y newid yn yr economi wledig e.e. cyfeiriad at fentrau gwledig yn hytrach na ffermio ac amaethyddiaeth yn unig. Tra rhoddir blaenoriaeth i ddefnydd cyflogaeth, os ydyw tystiolaeth yn dangos nad ydyw hynny yn hyfyw yna gellir rhoi caniatâd cynllunio i drosi adeilad ar gyfer tŷ fforddiadwy i berson lleol. Mae rhan 5 o’r canllaw, “Blaenoriaethu defnydd cyflogaeth”, yn amlygu’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |