Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am cyfarfod yma yn unig Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd am y
cyfarfod. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am y cyfarfod yma yn unig Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn is-gadeirydd am y cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd John P Roberts
(Cyngor Gwynedd), Arnold Milburn (Cyngor
Tref Llangefni), Mandy
Evans (Cyngor Tref Abergele), Nia Jones (Cwmni Fran
Wen) a Medrwn
Môn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2016-2017 PDF 1 MB I dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn 2016-2017 Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth
Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2016/17. Rhoddwyd sylw penodol i
brif faterion yr adroddiad: Perfformiad Buddsoddi Adroddwyd cynnydd o £339m yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1,525m
(31/03/2016) i £1,864m (31/03/2017). Nodwyd bod y twf sylweddol yma o 22% yn
adlewyrchu perfformiad cyffredinol gwych y farchnad stoc eleni a bod rheolwyr
buddsoddi'r Gronfa wedi cyrraedd y lefel meincnod yn 2016/17. Cyfeiriwyd yn yr
adroddiad at y datganiad o gyfrifon (sydd yn amodol ar gael eu harchwilio gan
gwmni Deloittes). Cyfeiriwyd hefyd at y datganiadau asedau net oedd yn parhau’n
galonogol, wrth ystyried bod hyn wedi ei adeiladu ar sefyllfa ariannu cymharol
ffafriol y Gronfa yn ystod Prisiad 2016. Tynnwyd sylw at y buddsoddiadau gan
amlygu perfformiad arbennig buddsoddiadau tramor a pherfformiad rhagorol gan Insight (rheolwr buddsoddi). Adroddodd Adran Actiwari’r Llywodraeth yn ddiweddar i Fwrdd Cenedlaethol
Cronfa Pensiwn Llywodraeth Lleol CPLlL (yr “SAB”) ar lefel ariannu pob cronfa
ar 31/03/2016. I ganfod cymhariaeth, defnyddiwyd rhagdybiaethau safonol
‘tebyg-wrth-debyg’ (yn hytrach na rhagdybiaethau strategol cyhoeddus y
cronfeydd ei hunain). Adroddwyd, rhwng Prisiadau 2013 a 2016, bu i lefel
ariannu safonol Cronfa Gwynedd gynyddu 7%, o 102% yn 2013 i 109% yn 2016. Roedd
hyn yn rhoi Gwynedd yn y degfed uchaf o’r 89 cronfa CPLlL yn Lloegr a Chymru,
a’r uchaf yng Nghymru ar 31/03/2016. Tra defnyddiwyd rhagdybiaethau’r Gronfa ei hun ar
gyfer cynlluniau ariannu ac ar gyfer penderfyniadau buddsoddi strategol, nodwyd
bod y cymariaethau hyn yn cadarnhau cadernid
strategaeth ariannu Cronfa Gwynedd, gyda thwf sylweddol mewn asedau
buddsoddi yn 2016/17 yn adeiladu ar hyn. Partneriaeth Pensiynau Cymru Adroddodd y Cadeirydd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud dros y
flwyddyn i ddatblygu Partneriaeth
Pensiynau Cymru i reoli asedau buddsoddi'r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol (CPLlL) yng Nghymru ar sail gydweithredol. Roedd y Bartneriaeth bellach
mewn sefyllfa i sefydlu Cerbyd Buddsoddi Cyfunol erbyn 1 Ebrill 2018.
Pwysleisiwyd na fyddai'r Bartneriaeth yn golygu cyfuno’r wyth gronfa; byddai
pob cronfa yn cadw ei hunaniaeth unigryw gyda’r awdurdodau gweinyddol yn parhau
yn gyfrifol am gydymffurfio a rheoliadau cynllun CPLlL a’r ddeddfwriaeth
pensiwn o safbwynt eu haelodaeth. Bydd
cyfrifon blynyddol a phrisiadau actiwaraidd teirblynyddol yn parhau i gael eu
paratoi ar gyfer pob cronfa bensiwn unigol a bydd pob cronfa yn penderfynu ar
eu strategaeth ariannu eu hunain Ategwyd, bod yr wyth Cyngor wedi cymeradwyo cytundeb rhyng-awdurdod
(Gwanwyn 2017) gyda’r Bartneriaeth
Pensiynau Cymru bellach wedi sefydlu Cydbwyllgor Llywodraethu, sydd yn cynnwys
aelodau etholedig o bob awdurdod gweinyddol, sydd yn cael ei gefnogi gan
Weithgor Swyddogion. Nodwyd mai'r Cynghorydd Stephen Churchman oedd Cadeirydd y
Cydbwyllgor am eleni. Amlygwyd bod yr wyth gronfa bensiwn yng Nghymru wedi
dechrau ar y broses Caffael Ewropeaidd ar gyfer Gweithredwr ar gyfer y Cerbyd
Buddsoddiadau Cyfunol. Bydd yr ymatebion i’r Gwahoddiad i Dendro gan y
Gweithredwyr yn cael eu hasesu a’u sgorio yn Awst/Medi 2017 gyda’r bwriad i’r
Cydbwyllgor argymell apwyntio’r cynigydd gorau o ran cyrraedd gofynion y
fanyleb. Bwrdd Pensiwn Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |