Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd am y cyfarfod yma Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur
Jenkins yn gadeirydd am y cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan, Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd John P Roberts
(Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd David
Cowans (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Huw Trainor (Heddlu Gogledd
Cymru), Osian Richards (Cyngor Gwynedd), Arnold Milburn (Cyngor Tref
Llangefni), Mandy Evans (Cyngor Tref Abergele), Linda Jones (Cwmni Fran Wen),
Rhys Parry (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), David O’Neill (CVSC), Wendy Jones
(CVSC), Martin Morris (Cyngor Gwynedd), Chalister Bash-Taqi (Caterlink), Joanne
Barlow (Caterlink), Joanne Barlow (Kingdom), Gwyn Jones (Ysgol Eirias), Lynn
Bennoch (CAIS), Morfudd Davies (Cyngor Sir Ynys Môn), Gary Jaques-Williams
(Cyngor Sir Ynys Môn), Donna Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Carys Edwards (Cyngor
Sir Ynys Mon), Sue Hill (ABM Catering), Tina Earley (Cyngor Tref Bae Colwyn), Nikki
Lawrence (Gyrfa Cymru), Caren Bryon (Gyrfa Cymru), Jo Cavill (Gyrfa Cymru),
Adele Gatt (Gyrfa Cymru), Kathryn Coughlin (Grŵp Llandrillo Menai),
Phillip Davies (Cyngor Conwy), Sally Williams (Cyngor Conwy), Gareth Owen
(Cyngor Conwy), Huw Ifor Jones (Cyngor Conwy), Isobel Mitchell (Cyngor Conwy),
Francesca Pridding ( Cyngor Tref Tywyn),Delyth Williams (Cartrefi Cymunedol
Gwynedd), Katherine Owen (Cyngor Tref Caernarfon), Cyngor Tref Biwmares a
Medrwn Môn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN 2017-2018 PDF 711 KB I dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn 2017-2018 Cofnod: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2017/18 Er bod 2017/18 wedi bod yn flwyddyn heriol adroddwyd bod y Gronfa wedi
derbyn dychweliadau cadarnhaol ac wedi adeiladu ar y lefel ariannu. Bu cynnydd
o 10.8% mewn aelodau’n cyfrannu i’r cynllun a chynnydd o 4.3% yn y niferoedd
pensiynwyr sydd yn y cynllun. Diolchwyd i’r cyflogwyr oedd wedi cyflwyno data
yn gywir a chyflym ac eglurwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn i’r Uned Bensiynau
ddiweddaru cofnodion cyflogwyr a chynhyrchu buddion blynyddol yn amserol ar
gyfer bodloni’r Rheoleiddiwr Pensiynau. Nodwyd y bydd
cyflwyno data cywir ac amserol yn hanfodol ar gyfer 2019 fel dyddiad prisiad teirblynyddol. Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod wedi holi Actiwari’r
Gronfa ynglŷn â beth fyddai canlyniad prisiad teirblynyddol
2019 yng nghyd-destun penderfyniad Actiwari’r
Llywodraeth i godi cyfradd cyfrannu’r Cynllun Pensiwn Athrawon o 16% i 24% ym
mis Medi 2019. Eglurwyd bod y naid sylweddol yma yn digwydd oherwydd bod
lefelau cyfraddau’r athrawon yn ceisio dal i fyny o lefelau hanesyddol oedd yn
rhy isel ac addasiad i raddfa disgownt SCAPE oedd ond yn cael ei adolygu bob
pum mlynedd. Mynegwyd nad oedd y ffactorau hyn yn mynd i effeithio’r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol. Cyfeiriwyd at ymrwymiadau’r cynllun Pensiwn, gan adrodd bod y Gronfa
wedi bod yn gweithredu’n ddarbodus, a’r ffactor fydd yn dylanwadu fwyaf ar y
prisiad fydd dychweliadau buddsoddi a gwerth yr asedau. Er i’r farchnad stoc fod yn heriol yn 2017/18
adroddwyd bod y Gronfa yn parhau i adeiladu ar berfformiad buddsoddi rhagorol
2016/17 ac yn 2017/18 cafwyd dychweliadau buddsoddi o £56m (3%) gan asedau’r
Gronfa. Roedd hyn yn adlewyrchu marchnadoedd gwannach o’i gymharu â 22% a
ddychwelwyd y flwyddyn flaenorol, ond roedd y cynnydd pellach a welwyd yn ystod
chwarter cyntaf 2018/19 yn ddigon i weld gwerth y Gronfa yn tyfu i fwy na dau
biliwn o bunnoedd. Eglurwyd bod elfen o dwf sylweddol 2016/17 yn adlewyrchu effaith cwymp y
bunt ar werth buddsoddiadau byd eang. Dosbarthwyd graff a gafodd ei baratoi gan
Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa oedd yn gwahanu’r elfennau twf mewn gwerth
ecwiti rhwng gwerth arian lleol a gwerth mewn punnoedd. Ategwyd bod y twf mewn
gwerth asedau yn galonogol gyda Chronfa Gwynedd wedi ariannu 91% ym mhrisiad teriblynyddol 2016 (oedd o fewn y 10 uchaf yng Nghymru a
Lloegr) wrth ddefnyddio rhagdybiaethau actiwaraidd
darbodus. Ar gyfer prisiad 2019, dylai cryfder y Gronfa ganiatáu cymryd agwedd
hyblyg tuag at gyfraddau cyfrannu cyflogwyr effeithiol o 2020. Nodwyd y byddai trefn buddsoddi i’r dyfodol yn newid a chyfeiriwyd at
egwyddorion buddsoddi cyfrifol a datblygu Partneriaeth Pensiwn Cymru. Gyda
strategaeth fuddsoddi’r Gronfa yn canolbwyntio ar asedau twf, disgwylir
dychweliadau mwy deniadol na’r dychweliadau gellid ennill o fuddsoddiadau risg
isel. Yn adeiladu ar hynny adroddwyd bod Pwyllgor Pensiynau Gwynedd a Bwrdd
Pensiwn y Gronfa, ar y cyd, wedi datblygu egwyddorion buddsoddi cyfrifol sydd
yn ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Ategodd Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn bod angen gwybodaeth dryloyw yng nghyd-destun arian sydd yn cael ei fuddsoddi yn erbyn dychweliadau gorau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |