Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am y cyfarfod hwn Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W Tudor Owen
yn gadeirydd am y cyfarfod. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am y cyfarfod hwn Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn is-gadeirydd am y cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Y Cynghorwyr Glyn Thomas, Gethin
Glyn Williams (Cyngor Gwynedd), Jo Worrall (Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri), Wendy Jones (Cefnogaeth
a Gymunedol a Gwirfoddol
Conwy), Katherine Owen, Clerc Cyngor
Tref Caernarfon, Sharon Warnes
(Cadeirydd Bwrdd Pensiwn), Victoria Hallaron (Cartrefi Cymunedol Gwynedd / Bwrdd Pensiwn), a Chyngor Tref Bae Colwyn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn am 2014/15 Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad
Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2014/15 gan dynnu sylw at daflen wybodaeth am y
Gronfa Bensiwn yn crynhoi cefndir y Gronfa a’r prif ffeithiau. Rhoddwyd sylw penodol i brif faterion yr
adroddiad sef: ·
Perfformiad Buddsoddi Yn 2014/15, llwyddwyd i sicrhau
cynnydd yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1.3bn (31/03/2014) i bron £1.5bn (31/03/2015) – cynnydd
o £187m yn ystod y flwyddyn. Yn dilyn
perfformiad gwell na’r farchnad yn
2013/14, roedd 2014/15 yn flwyddyn gymysg gan y cwmnïau sy’n
buddsoddi ar ran y Gronfa Bensiwn. O ran disgwyliadau buddsoddi (dychweliadau 5.9% y flwyddyn), mae’r dychweliadau hynod galonogol o 12.2% a gafwyd gan y Gronfa am y flwyddyn hon yn adlewyrchu perfformiad gwych gan y farchnad
stoc yn gyffredinol. Yn 2014/15, roedd
y marchnadoedd yn cynhyrchu perfformiad gwell na’r flwyddyn cynt yn
gyffredinol, gydag ecwiti yn perfformio’n dda ac eiddo yn perfformio’n arbennig
o dda, er bod ein cronfa ni wedi dioddef yn gymharol o fethu’r dychweliadau
annisgwyl o uchel ar fondiau eleni.
Cyfeiriwyd
at berfformiad rhagorol cwmni Fidelity sy’n buddsoddi
mewn ecwiti ar ran y gronfa, a pherfformiad da iawn hefyd gan UBS a Threadneedle wrth fuddsoddi mewn eiddo. Cyrhaeddodd
sawl cwmni ei meincnod, tra disgwylir dychweliadau gwell yn y tymor
canol oddi wrth Veritas a Partners,
sydd â marchnadoedd arbenigol. ·
Prisiad actiwaraidd teir-blynyddol 31 Mawrth 2016 - Bydd pris uchel
bondiau, gyda lefel isel o ddychweliadau ar fondiau, yn cael effaith negyddol
ar y gyfradd ddisgowntio, ac yn chwyddo’r amcangyfrif o werth ymrwymiadau
pensiwn. Er gwaethaf cynnydd sylweddol iawn yng ngwerth ein hasedau ar y
farchnad stoc, bydd hynny wedi’i wrthbwyso gan gynnydd sylweddol mewn
ymrwymiadau. Bydd cyflogwyr yn ymwybodol
o’r cynnydd mewn ymrwymiadau, sydd wedi’i gyfrifo yn unol â safonau cyfrifo
ryngwladol (FRS17, IAS19, ayb).
Rhoddwyd “ciplun” o hynny yn ei
gyd-destun. -
Yn y Prisiad Actiwaraidd Teir-blynyddol 2013, roedd lefel ariannu y Cynllun yn 85%,
ac roedd hynny yn well na’r cyfartaledd 79% ar draws y cyfan o'r CPLlL yng Nghymru a Lloegr, lle mae cronfeydd yn defnyddio
amrywiaeth o dybiaethau a methodoleg actiwaraidd. -
Byddai hyn yn gosod Gwynedd yn gyfforddus ar
gyfer y cyfnod diffyg ac adfer ar draws yr holl
CPLlL, ond nid yw canlyniadau
cyhoeddedig y cronfeydd pensiwn ar sail debyg am debyg. Yn dilyn ymlaen o ryddhau canlyniadau’r prisiant, cynhaliwyd adolygiad manwl gan ein actiwari,
Hymans Robertson, ac fe ail-seiliwyd
y canlyniadau yma ar un set o dybiaethau. Pan ddatgelwyd y darlun cymharol gywir, roedd sefyllfa ariannol Gwynedd ymysg y deg uchaf o gronfeydd
Lloegr a Chymru yn gyffredinol. -
Ar sail gyffredin, mae cyfnod adfer
diffyg Cronfa Gwynedd yn wyth mlynedd,
y byrraf o holl gronfeydd Cymru, a'r seithfed byrraf
o’r holl 88 o gronfeydd y CPLlL. Mae cyfnodau adfer diffyg cronfeydd
eraill Cymru yn amrywio o 11 i 44 mlynedd felly, mae gennym strategaeth gyllido risg isel
a chynllun cyllido cymharol sy’n gredadwy. |