Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn Cofnod: PENDERFYNWYD ethol
y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd i’r cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Robin Williams (Cynrychiolydd Cyngor Ynys Môn),
Y Cynghorydd John Pughe Roberts (Cyngor Gwynedd), H Eifion Jones (Cadeirydd
Bwrdd Pensiwn), Tony Deakin,
Ned Michael a'r Cynghorydd Beca Roberts (Aelodau
Bwrdd Pensiwn) a Ben Hughes (Archwilio Cymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022/23 PDF 3 MB I dderbyn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022/23 Cofnod: Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Swyddogion y
Gronfa ynghyd ag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac Aelodau’r Bwrdd Pensiynau i
bawb. Cyfeiriwyd yn gryno at brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor oedd yn cynnwys eu
rôl fel ‘lled ymddiriedolwyr’ i’r Gronfa, yn penderfynu ar amcanion polisi
cyffredinol, strategaeth a gweithrediad y Gronfa yn unol â’r ddeddfwriaeth
berthnasol. Ategwyd eu bod hefyd yn penderfynu ar y strategaeth ar gyfer
buddsoddi arian y Gronfa Bensiwn ac yn monitro ac adolygu trefniadau buddsoddi.
Cyfeiriwyd at waith y Pwyllgor yn ystod 2022/23 a nodwyd bod adroddiadau a
chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor i’w gweld ar wefan y Cyngor. Wrth gyfeirio at waith y Bwrdd Pensiwn, nodwyd mai corff goruchwylio oedd y Bwrdd ac er nad oedd gan y Bwrdd
hawliau gwneud penderfyniadau byddai’n goruchwylio
gweithrediad y Gronfa gan sicrhau ei
bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a gweinyddol. Ategwyd bod aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys 3 cynrychiolydd
o aelodau a 3 chynrychiolydd
cyflogwyr. Cyfeiriwyd at waith y Bwrdd yn
ystod 2022/23 a nodwyd bod adroddiadau
a chofnodion cyfarfodydd
y Bwrdd Pensiwn i’w gweld ar
wefan y Cyngor. Diolchwyd i
gyn aelodau’r Bwrdd, Sharon
Warnes a Huw Trainor am eu gwaith
yn ystod y flwyddyn. Gweinyddiaeth
Pensiynau: Cyfeiriodd y Rheolwr Pensiynau at brif ddyletswyddau’r Uned Weinyddol gan
gyflwyno ystadegau'r Gronfa ar gyfer 2022/23 a pherfformiad yr Uned. Wrth adrodd ar y system ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ nodwyd
bod yr aelodaeth yn cynyddu yn flynyddol, gyda dros 20,000 bellach wedi
cofrestru. Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at
aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau
roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a
ddarperir gan staff yr adran. Adroddwyd
bod dros 96% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y
gwasanaeth o safon uchel, a bod 98.04% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n
cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn
cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn
hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn
brydlon. Cyfeiriwyd at y logo newydd a
gafodd ei gyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023 ac at y gwaith sydd
ar y gweill ar gyfer 2023/24 oedd yn cynnwys sefydlu System Hunan Wasanaeth
newydd, cydymffurfio a gofynion Dashfwrdd Pensiynau a datblygu prosesau
weinyddu newydd. Perfformiad Buddsoddi Cyflwynodd
y Rheolwr Buddsoddi fanylion am werth y Gronfa gan nodi bod y gwerth, er wedi
cynyddu yn raddol (ar wahân i effaith covid yn 2020)
wedi parhau yn gyson rhwng 2022 a 2023 ar £2.8 biliwn. Adroddwyd bod y flwyddyn
wedi bod yn un heriol gyda rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel yn effeithio’r
marchnadoedd arian. Wrth amlygu perfformiad y Gronfa yn erbyn y meincnod,
nodwyd bod 2022/23 wedi bod yn flwyddyn o ddau hanner, gyda pherfformiad yn is
na’r meincnod yn yr hanner cyntaf ac yn uwch na’r meincnod yn yr ail hanner. Er bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |