Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod yma COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Peredur Jenkins yn gadeirydd am y cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Y Cynghorydd Robin
Williams (Cyngor Ynys Môn), Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) a Huw
Trainor (Heddlu Gogledd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN 2019/20 PDF 2 MB I dderbyn adroddiad
blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2019/20 COFNODION: a)
Nodyn
gan y Cadeirydd – y Cynghorydd Peredur Jenkins Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa
Bensiwn. Diolchwyd i’r Cynghorydd John Pughe Roberts am ei
wasanaeth ffyddlon yn cadeirio’r Pwyllgor
Pensiynau am y 2 flynedd diwethaf. Nodwyd y byddai’r cyn-gadeirydd yn edrych yn ôl
ar gyfnod datblygol a llewyrchus i’r Gronfa, pryd
roedd yn chwarae rhan ddylanwadol
ar ran Gwynedd fel aelod o Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru. b)
Nodyn
gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn (2019/20)
- Mr Osian Richards Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi
ei gynnwys yn yr adroddiad
ynghyd a phrif swyddogaethau’r Bwrdd fel corff sydd
yn monitro ac adolygu penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau a gwaith yr Uned
Weinyddu. Mynegodd bod perthynas dda rhwng
y Bwrdd a bod y Bwrdd wedi cynorthwyo a chyfrannu at lwyddiant y Gronfa. c) Cyflwyniad y Pennaeth
Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2019/20 Mynegodd bod 2019/20 wedi bod yn flwyddyn
heriol iawn gyda’r Gronfa wedi
llwyddo i gyflawni dychweliadau cadarnhaol, ond bod effaith covid-19 i’w weld ar werth y Gronfa
ar ddiwedd Mawrth 2020. Adroddwyd mai gwerth y Gronfa
31/03/2020 oedd £1,938.3 miliwn o gymharu â gwerth 31/03/2019 o
£2,081.3 miliwn. Er hynny, braf oedd adrodd bod y gwerthoedd, ers
diwedd y flwyddyn ariannol, wedi bownsio
nôl, gyda gwerthoedd ecwiti byd eang yn parhau i gynyddu. Adroddwyd bod gwerth
y Gronfa ar 30/06/20 yn £2,162.1 miliwn ac erbyn 30/09/20 yn £2,217.7 miliwn. Cyhoeddodd cwmni
Pfizer frechlyn a oedd yn 90% effeithiol ar y 9fed o Dachwedd ac mewn
ymateb gwelwyd y marchnadoedd gynnydd o tua 7%. Amlygwyd mai dyma’r wythnos gryfaf ers Ebrill 2020, ond gyda chwymp cymharol ar y Dydd
Gwener canlynol wrth i fuddsoddwyr ystyried y byddai’n cymryd peth amser i’r
brechlyn cael ei ddosbarthu ac i’r economi adfer yn llwyr. Ategwyd bod y Gronfa
o ran perfformiad yn gwneud yn dda iawn a hynny oherwydd penderfyniadau doeth y
Pwyllgor a’r Rheolwyr Buddsoddi sydd yn gweithio ar ein rhan. Yng nghyd-destun Partneriaeth Pensiwn Gwynedd adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 gyda swyddogion yn cwrdd yn aml. Ers y cyfnod clo, adroddwyd bod holl ddigwyddiadau’r bartneriaeth wedi bod yn rhithiol ond y gwaith wedi parhau gyda chronfeydd newydd wedi ei lansio, a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle. Atgoffwyd yr aelodau o’r holl Reolwyr sydd yn cefnogi’r Gronfa ynghyd a’r buddion sydd wedi eu hennill o fod wedi ymuno, sydd yn cynnwys ehangu ein cyfleodd buddsoddi drwy ehangu’r nifer o reolwyr buddsoddi sydd yn ein portffolio, a lleihad mewn ffioedd. Adroddwyd, yn ystod Gorffennaf a Hydref 2020 crëwyd pum cronfa Incwm Sefydlog gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi mewn dau ohonynt: Cronfa Multi Asset Credit (trosglwyddwyd £166 miliwn yng Ngorffennaf 2020) a’r Gronfa Absolute Return Bond (trosglwyddwyd £291 miliwn yn Hydref 2020). Cadarnhawyd mai'r trosglwyddiad nesaf a fydd yn digwydd bydd ... view the full COFNODION text for item 5. |