Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod
yma Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn gadeirydd am y
cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Simon Glyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD PDF 2 MB I dderbyn
adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2020/21 Cofnod: Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. a)
Cyflwyniad y Pennaeth
Cyllid Mynegodd bod
2020/21 wedi bod yn flwyddyn heriol gyda’r Gronfa wedi llwyddo i gyflawni
dychweliadau cadarnhaol. Adroddwyd mai gwerth y Gronfa ar 31/03/2021 oedd
£2,515.2 miliwn o gymharu â gwerth
31/03/2020 o £1,938.3 miliwn, gyda’r
gwerthoedd wedi bownsio nôl a’r gronfa yn perfformio’n uwch
na’r meincnod dros y cyfnod. Ategwyd bod perfformiad
cryf y marchnadoedd ecwiti yn 2020/21 yn
galonogol iawn, ac yn argoeli yn dda ar gyfer y prisiad nesaf. Amlygwyd,
allan o 100 o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig, bod
perfformiad 2020/21 Cronfa Bensiwn Gwynedd yn 16eg, gyd chynnydd mewn gwerth yr
asedau o 29.3% yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd o 22.7%. Nodwyd hefyd, wrth
edrych dros y tymor hir, bod perfformiad cymharol y Gronfa wedi gwella yn
gyson, wrth symud o’r 46ain safle dros yr 20 mlynedd ers 2001, i fod yn 20fed
dros y 3 blynedd diwethaf. Wrth drafod
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i
nerth ers ei sefydlu yn 2017. Ers y cyfnod clo, amlygwyd bod holl ddigwyddiadau’r
bartneriaeth wedi bod yn rhithiol, gyda gwaith yn parhau, cronfeydd newydd
wedi’u lansio, a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle. Adroddwyd y bod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd
fuddsoddiadau mewn pump o is-gronfeydd PPC erbyn diwedd Tachwedd 2021, gyda
buddsoddiadau mewn ecwiti byd-eang, incwm sefydlog a marchnadoedd datblygol. Atgoffwyd pawb
o’r buddion sydd wedi eu hennill o fod wedi ymuno a PPC, sydd yn cynnwys ehangu
cyfleodd buddsoddi drwy ddefnyddio amryw o reolwyr buddsoddi portffolio, a
lleihad mewn ffioedd. Ym mis Chwefror 2019, sefydlwyd dwy is gronfa (Global Growth a
Global Opportunities) gyda buddsoddiad
cychwynnol o £303m ymhob cronfa. Erbyn hyn,
gyda’r buddsoddiadau wedi bod yn y cronfeydd
ers dros ddwy flynedd a hanner, gellid dechrau mesur perfformiad
yn ystyrlon. Mynegwyd bod y cronfeydd wedi perfformio yn eithriadol,
gyda Global Growth wedi dychwelyd 3.4%, a Global Opportunities 2.0% yn uwch na’r
meincnod ers y cychwyn. Trosglwyddwyd elfen o fandad ecwiti Fidelity
(£166m) i is-gronfa Multi Asset Credit PPC yng Ngorffennaf 2020, a £291m o fandad Insight
i is-gronfa Absolute Return
Bond PPC yn Hydref 2020. Er yn gynnar i
asesu perfformiad y cronfeydd hyn, nodwyd bod eu perfformiad wedi bod yn uwch
na’r meincnod ers eu sefydlu. Ym mis Hydref
2021, trosglwyddwyd y buddsoddiad
marchnadoedd datblygol i gronfa newydd PPC gyda 6 rheolwr, yn cynnwys Bin Yuan sy’n arbenigo yn Tsiena. Erbyn
Tachwedd 2021, mae 83% o asedau
Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi’u pwlio gyda PPC. Wrth drafod buddsoddi cyfrifol, sy’n faes blaenoriaeth gan y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau, nodwyd bod y Cyngor wedi rhyddhau datganiad yn Chwefror 2021 gyda diweddariad yng Ngorffennaf 2021. Cyfeiriwyd at Gynhadledd COP26 a gynhaliwyd yn ddiweddar, lle cafwyd trafodaethau rhwng gwledydd y byd am sut i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Cyfeiriwyd hefyd at Wythnos Hinsawdd Cymru ar 22-26 Tachwedd. Er mai siomedig oedd diweddglo’r gynhadledd COP26, amlygwyd bod Cronfa Gwynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |