Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd i’r cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Robin Williams (Cynrychiolydd Cyngor Ynys Môn), Y Cynghorydd John Pughe Roberts (Cyngor Gwynedd), H Eifion Jones (Cadeirydd Bwrdd Pensiwn), Tony Deakin, Ned Michael a'r Cynghorydd Beca Roberts (Aelodau Bwrdd Pensiwn) a Ben Hughes (Archwilio Cymru).

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

4.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022/23 pdf eicon PDF 3 MB

I dderbyn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022/23

Cofnod:

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Swyddogion y Gronfa ynghyd ag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac Aelodau’r Bwrdd Pensiynau i bawb. Cyfeiriwyd yn gryno at brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor oedd yn cynnwys eu rôl fel ‘lled ymddiriedolwyr’ i’r Gronfa, yn penderfynu ar amcanion polisi cyffredinol, strategaeth a gweithrediad y Gronfa yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ategwyd eu bod hefyd yn penderfynu ar y strategaeth ar gyfer buddsoddi arian y Gronfa Bensiwn ac yn monitro ac adolygu trefniadau buddsoddi. Cyfeiriwyd at waith y Pwyllgor yn ystod 2022/23 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor i’w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Wrth gyfeirio at waith y Bwrdd Pensiwn, nodwyd mai corff goruchwylio oedd y Bwrdd ac er nad oedd gan y Bwrdd hawliau gwneud penderfyniadau byddai’n goruchwylio gweithrediad y Gronfa gan sicrhau ei bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a gweinyddol. Ategwyd bod aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys 3 cynrychiolydd o aelodau a 3 chynrychiolydd cyflogwyr. Cyfeiriwyd at waith y Bwrdd yn ystod 2022/23 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion  cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn i’w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Diolchwyd i gyn aelodau’r Bwrdd, Sharon Warnes a Huw Trainor am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.

 

Gweinyddiaeth Pensiynau:

Cyfeiriodd y Rheolwr Pensiynau  at brif ddyletswyddau’r Uned Weinyddol gan gyflwyno ystadegau'r Gronfa ar gyfer 2022/23 a pherfformiad yr Uned.

Wrth adrodd ar y system ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ nodwyd bod yr aelodaeth yn cynyddu yn flynyddol, gyda dros 20,000 bellach wedi cofrestru. Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr adran.

Adroddwyd bod dros 96% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth o safon uchel, a bod 98.04% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn brydlon.

Cyfeiriwyd at y logo newydd a gafodd ei gyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023 ac at y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer 2023/24 oedd yn cynnwys sefydlu System Hunan Wasanaeth newydd, cydymffurfio a gofynion Dashfwrdd Pensiynau a datblygu prosesau weinyddu newydd.

Perfformiad Buddsoddi

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi fanylion am werth y Gronfa gan nodi bod y gwerth, er wedi cynyddu yn raddol (ar wahân i effaith covid yn 2020) wedi parhau yn gyson rhwng 2022 a 2023 ar £2.8 biliwn. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol gyda rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel yn effeithio’r marchnadoedd arian. Wrth amlygu perfformiad y Gronfa yn erbyn y meincnod, nodwyd bod 2022/23 wedi bod yn flwyddyn o ddau hanner, gyda pherfformiad yn is na’r meincnod yn yr hanner cyntaf ac yn uwch na’r meincnod yn yr ail hanner.

Er bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.