Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod yma Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd John Pughe Roberts yn gadeirydd am y cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Ymddiheuriadau - Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor
Gwynedd), Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Peredur Jenkins (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd David Cowans
(Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Cynghorydd Aled
Evans (Cyngor Gwynedd),Sharon Warnes (Bwrdd Pensiwn), Mandy Evans (Cyngor Tref
Abergele), Robert Henderson (Holyhead TC), Wendy
Jones (CVSC), Einir Griffiths (Cyngor Gwynedd), Mantell
Gwynedd, Gwyn Jones (Ysgol Eirias),
Tina Earley (Cyngor Tref
Bae Colwyn), Gyrfa Cymru, Jo Cavill (Cymru Gyrfa) a Chyngor Tref Biwmares |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN 2018/19 PDF 2 MB I dderbyn adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2018/19 Cofnod: a)
Nodyn
gan y Cadeirydd – y Cynghorydd John Pughe Roberts Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa
Bensiwn. Mynegodd y Cadeirydd bod 2018/19 wedi bod yn flwyddyn drosiannol gyda
60% o asedau’r gronfa bellach wedi eu trosglwyddo i gronfeydd Partneriaeth
Cymru. Nodwyd y cafwyd dychweliadau buddsoddi o 7.6% am y flwyddyn gan asedau’r
Gronfa o’i gymharu ar’ gyfartaledd o 6.6% a ddychwelwyd gan gronfeydd CPLlL (a chwartil uchaf o 7.2%).
O ganlyniad roedd cyfanswm gwerth y Gronfa yn codi i fwy na 2 biliwn ar 31
Mawrth 2019. Ategwyd bod twf parhaus mewn gwerth asedau yn parhau’n galonogol
a’r gronfa mewn sefyllfa gymharol ffafriol gyda’r Actiwari
wedi cyhoeddi bod y Gronfa bellach wedi’i ariannu 108% yn y Prisiad ar
31/03/2019. Eglurwyd, er bod sefyllfa cyflogwyr unigol yn y
Gronfa yn wahanol, yn gyffredinol mae cryfder y Gronfa wedi caniatáu cymryd
agwedd hyblyg tuag at gyfraddau cyfraniadau cyflogwyr fydd yn effeithiol o
Ebrill 2020. Amlygwyd bod y mwyafrif o’r cyflogwyr wedi derbyn hysbysiad o’u
lefel cyfraniadau pensiwn diwygiedig, fydd yn eu cynorthwyo gyda’r sefyllfa
ariannol yn wyneb y gwasgu parhaus ar wariant cyhoeddus. Diolchwyd i’r holl swyddogion sydd yn gweinyddu’r
Gronfa, gyda sylw arbennig i Nicholas Hopkins (Rheolwr yr Uned Weinyddu) a
Caroline Roberts (Rheolwr Buddsoddi). Ategwyd bod Nick Hopkins a Caroline
Roberts yn ymddeol a dymunwyd ymddeoliad hapus i’r ddau. Cyhoeddwyd bod Meirion
Jones wedi ei benodi fel Rheolwr newydd ar gyfer yr Uned Weinyddu a Delyth
Jones-Thomas wedi ei phenodi fel Rheolwr Buddsoddi. Llongyfarchwyd y ddau ar eu
penodiadau. Diolchwyd i Tony Deakin sydd yn sefyll i
lawr fel aelod o’r Bwrdd Pensiwn ers iddo ymddeol am ei gyfraniad i waith y
Bwrdd a llongyfarchwyd Osian Richards ar gael ei ethol yn gadeirydd newydd y
Bwrdd. b) Nodyn gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn
(2018/19) - Mr Tony
Deakin Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi
ei gynnwys yn yr adroddiad
ynghyd a phrif swyddogaethau’r Bwrdd fel corff sydd
yn monitro ac adolygu penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau a gwaith yr Uned
Weinyddu. Mynegodd, o gymharu â chronfeydd eraill, bod y drefn yn llwyddo yng
Ngwynedd a bod y Bwrdd wedi cynorthwyo a chyfrannu at lwyddiant y Gronfa. Tynnwyd sylw at y cynllun gwaith a sylw penodol
i enghreifftiau o fewnbwn y Bwrdd i fuddsoddi cyfrifol
a threfniadau olyniaeth staffio. Nodwyd yr angen i
annog cyflogwyr i fabwysiadu meddalwedd
technoleg gwybodaeth i-Connect er mwyn
sicrhau data glan a chywir i’r dyfodol.
Tynnwyd sylw at yr angen a pharodrwydd
y Bwrdd i fynychu hyfforddiant er mwyn cadw
i fyny gyda
gwybodaeth a materion cyfredol. Cymerodd y cyfle i longyfarch
Meirion Jones a Delyth Jones-Thomas ar eu penodiadau ac i’w olynydd, Osian Richards, fel Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn 2019/20 c)
Cyflwyniad y Pennaeth Cyllid
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2018/19 Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers 2010, a chynnydd sylweddol o £505m ers y prisiad diwethaf yn 2016. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |