Lleoliad: Ystafell Cynhadledd, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlag, Dolgellau, LL40 2YB - SDO. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
ETHOL CADEIRYDD Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Alun Williams (Ceredigion) fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd John Wynn Jones (Gwynedd) fel Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A MATERION YN CODI Cofnod: Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir Materion yn codi i)
Asesiadau Ariannol ar gyfer Awdurdodau Partner – Ymhellach
i’r cais gan Dilwyn Williams yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor ar 29
Ionawr 2015 i ddarparu asesiad ariannol ar gyfer pob Awdurdod Partner o’r newid
yn y model ar ôl yr Asiantaeth gan gynnwys trosglwyddo swyddogaethau craidd
perthnasol. Ar ôl i LC dderbyn yr achosion busnes ar 27 Awst 2015 a gyflwynwyd
gan ACGCC ar 31 Ebrill 2015, darparwyd asesiadau ariannol i AP unigol ar 25
Medi 2015 yn dangos trosiant y swyddogaeth weddilliol ddangosol, cyfraniad at
orbenion a gwerth ffioedd. Mae’r asesiad
wedi ystyried y gyllideb waelodlin ddiwygiedig o £37.88M a gadarnhawyd gan LlC
ym mis Medi 2015 yn erbyn yr hyn mae’r cyfanswm targed arbedion cost o £7.75M
yn awr yn cael ei fesur. Dynododd DRC bod yr asesiad wedi
dangos y dylai’r mewnbwn ar gyfer yr unedau gwaith aros fel y bu yn y
blynyddoedd blaenorol ond bydd cyfansoddiad gweithgareddau gwaith yn newid yn
unol â gofynion manyleb newydd Llawlyfr Rheoli Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru
(LlRhCLlC) 2015. |
|
ADRODDIAD CYD BWYLLGOR Cofnod: Rhoddwyd diweddariad gan DRC. Dyrannu Gwaith i Unedau
Darparu Gwasanaeth Awdurdodau Lleol – Adroddodd DRC bod y taliadau terfynol ar gyfer 2014-15, yn
amodol ar gytuno ar hawliadau terfynol, yn dangos bod disgwyl i wariant refeniw
amcanol ar gyfer 2015-16 fod yn debyg i 2014-15, er bod y lefelau ariannu
cyfalaf yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd hyn yn
effeithio ar lwyth gwaith Ymgynghoriaeth AP ac ar gadwyn sector preifat yr
Asiant ar gyfer gweithgareddau ymgynghoriaeth ac adeiladu. Cytundeb Partneriaeth – Er gwaethaf lefelau uchel o
ansicrwydd yngl9n â threfniadau Rheoli
Cefnffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol, adroddodd DRC na
fu unrhyw broblemau o ran cyflwyno gwasanaeth parhaus gan yr Awdurdodau Partner
ac y cafwyd cydweithio a chymorth da hyd yma wrth weithredu mesurau lleihau
cost arfaethedig. Cofrestr Risg –
Dangosodd
cofrestr risg gyfredol ACGCC a gyflwynwyd gan DRC y camau parhaus a weithredwyd
er mwyn rheoli a lliniaru risgiau i’r Asiant, gyda llawer ohonynt wedi’u cyflwyno
ym mis Ebrill i LC. |
|
DIWEDDARIAD AR DDATGANIAD Y GWEINIDOG i) Llythyr Penderfyniad y Gweinidog ii) Adborth o gyfarfod gyda LlC 27/8/15 Cofnod: Rhoddwyd diweddariad gan DRC. i)
Llythyr Penderfyniad y Gweinidog 11/8/15 Derbyniwyd llythyr yngl9n ag
ymateb y Gweinidog i arbedion cost ACGCC a gyflwynwyd i LC ar 31/4/15 ar
11/8/15 ac fe’i hanfonwyd at Awdurdodau Partner ar 18/8/15. Dyma oedd prif
bwyntiau’r ymateb: ·
Derbyn yr arbedion arfaethedig a’r achosion busnes cysylltiedig ·
Parhad model cyflwyno presennol y Sector Cyhoeddus yn amodol ar
wireddu’r arbedion a nodwyd yn yr hyn a gyflwynwyd gan ACGCC. Fodd bynnag, roedd y Gweinidog yn awyddus i gyflwyno technoleg
newydd ac arloesedd i’n proses o gyflwyno gwasanaeth a chawsom ein herio i
gyrraedd targed caeth o £3m o arbedion pellach i’w cyflawni erbyn mis Mawrth
2018. ii)
Adborth o’r Cyfarfod gyda LlC 27/8/15 Darparwyd diweddariad gan DRC a gadarnhaodd
bod y cyfarfod yn galonogol ar y cyfan a bod Sheena Hague (Dirprwy Gyfarwyddwr LlC)
wedi cadarnhau bod y cyflwyniad gwreiddiol wedi cwrdd â gofynion swyddogion
LlC, ac wedi rhagori ar ddisgwyliadau arbedion cost, ond gwrthodwyd y cyflwyniad gan y
Gweinidog – a oedd yn esbonio'r gofyn i gyrraedd targed caeth. Y waelodlin o ran cyflawni’r arbedion pellach yw’r LlRhCLlC 2015
wedi’i gostio’n llawn. Cost amcanol ACGCC ar gyfer y safon ddiwygiedig hon yw
£37.9m o’i gymharu â gwariant hanesyddol gydag Awdurdodau Partner o thua £27m.
Felly, hyd yn oed gydag arbedion cost o £7.75m, roedd yn debygol y byddai
mewnbwn gwaith gydag unedau gwaith Awdurdodau Partner yn cael ei gynnal a’i
gynyddu o bosib i ryw raddau drwy ofynion cynyddol LlRhCLlC 2015 oedd yn
galonogol. Datganodd Nigel Brinn (Powys) bod hyn yn newyddion da o ran yr hyn
a ddisgwyliwyd. Cydnabuwyd hyn gan y Pwyllgor. |
|
NMWTRA SUBMISSION TO WG 31/4/15 i) Model Trosolwg ACGChC ii) Asesu goblygiadau staffio ACGchC iii) Cynllun Rhaglennu a Darparu Cofnod: Ar ôl i LC dderbyn cyflwyniad 31 Ebrill
gan ACGCC, cadarnhaodd DRC bod amcanion cyflwyniad ACGCC i’r Cyd-bwyllgor ar 29
Ionawr wedi’u bodloni oherwydd yr hyn a ganlyn: ·
Byddai’r model fyddai’n cael ei arwain gan y sector cyhoeddus yn
cael ei gadw gan LC; ·
Cedwir y cyfraniad at ddepo'r uned waith a gorbenion costau
sefydlog cynnal a chadw yn ystod y gaeaf; ·
Cedwir y darbodion maint o gynnal rhwydweithiau Cefnffyrdd a
ffyrdd Sirol; ·
Cedwir cyflwyniad gwasanaeth gan yr uned waith a’r ymgynghoriaeth. i) Trosolwg o newid model ACGCC Darparwyd trosolwg gan DRC. Y bwriad
oedd gweithredu’r model newydd rhwng nawr a mis Mawrth 2015. Byddai’r
mwyafrif o’r swyddogaethau craidd a oedd wedi’u
caffael yn hanesyddol drwy swyddogaeth y Weinyddiaeth Dechnegol yn trosglwyddo
i’r Asiant ym mis Ebrill 2016. Byddai rhai swyddogaethau’r
Weinyddiaeth Dechnegol sydd yn weddill yn aros gydag Awdurdodau Partner yn
cynnwys swyddogaethau Cyngor ar Reolaeth Ddatblygu, Monitro Signalau Pell a
Chanolfan Alw. Byddai’r swyddogaethau archwilio arbenigol
a gyflawnir ar hyn o bryd gan unedau ymgynghoriaeth AP hefyd yn cael eu mewnoli
yn ACGCC. ii) Asesu
goblygiadau staffio Adroddodd DRC bod cyfarfodydd manwl yn cael eu cynnal yn unigol
gyda phob AP ym mis Medi gyda’r bwriad o nodi nifer y swyddi gyda TUPE a sut i
reoli’r staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) nad
oeddynt yn disgyn o fewn proses TUPE. Ar gyfer trosglwyddiadau nad
oeddynt yn TUPE, eglurodd DRC bod yr Asiant yn bwriadu gweithio ar ddull o
ddewis grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw ar gyfer pob swyddogaeth fyddai’n cael
ei throsglwyddo. Felly, bwriedid adnabod y staff fyddai’n cael eu heffeithio,
goblygiadau swyddi a llwythi gwaith presennol fyddai’n
pennu’r grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw. Erbyn canol mis
Hydref 2015, bwriedid cytuno ar y grwpiau fyddai’n cael eu hystyried ymlaen
llaw a’r grwpiau TUPE gyda phob AP gyda chyfnod trawsnewid rhwng nawr a diwedd
y flwyddyn ariannol. Byddai staff yn y grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw
yn cael eu gwahodd i wneud cais am swyddi gyda’r Asiant yn ystod mis Tachwedd a
Rhagfyr. Nododd DRC ei fod yn bwysig fod trefniadau trosglwyddo staff yn
cefnogi'r achosion busnes a bod cyfleoedd gwaith yn cael eu cadw cyn belled ag y bo modd. Gallai’r broses hon effeithio ar hyd
at 50 swydd ar draws saith AP. Roedd chwe aelod o staff wedi cael eu hasesu fel
rhai oedd yn gymwys ar gyfer TUPE gyda’r cydbwysedd o bosib yn disgyn i’r grwpiau fyddai’n
cael eu hystyried ymlaen llaw. Roedd yr Asiant mewn
trafodaethau gyda phob AP ar hyn o bryd. Codwyd y mater o alwadau/ymholiadau i’r ganolfan alw a
cheisiadau am wasanaeth gan Gwyn Morris Jones. Adroddodd DRC
y byddai’r Asiant yn defnyddio canolfannau galw pob AP ac yn gwneud cyfraniad
er mwyn bodloni costau AP. iii) Cynllun a Rhaglen Gyflawni Cyflwynwyd y proffil a’r amserlen arbedion arfaethedig gan DRC. Dangosodd y rhaglen y byddai'r newidiadau sefydliadol mwyaf arwyddocaol yn digwydd o fis Ebrill 2016 ymlaen. Nododd DRC hefyd bod y mesurau a weithredwyd hyd yma eisoes wedi cynhyrchu arbedion cost ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CYTUNDEB CYFLAWNI GWASANAETHAU 2016 i) Cynnal a Chadw ar sail deallusrwydd ii) WGMA 2015 gofynion ychwanegol Cofnod: i) Cynnal a chadw’n seiliedig ar
wybodaeth Eglurodd DRC y dull diwygiedig a darluniodd ei weithrediad
drwy ddefnyddio system lanhau Gully. Yn hanesyddol, gweithredwyd y system
lanhau unwaith y flwyddyn ond oherwydd materion gweithredol a brofwyd,
newidiodd ACGCC i gylchoedd dwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd hyn
wedi’i adnabod fel gor-ddarpariaeth ar isadeiledd wedi’i adeiladu’n dda felly
bwriadwyd dychwelyd yn awr at gylch gwaelodlin unwaith y flwyddyn gydag ail
gylch wedi’i dargedu ar adrannau bregus y rhwydwaith gyda’r bwriad o gyflawni’r
system gynnal orau posib. Cyfeiriodd DRC at lythyr a dderbyniwyd gan y Cyng. Bithell yn mynegi ei bryderon ynglŷn â’r newidiadau i’r
gweithgareddau cynnal cylchol yn seiliedig ar wybodaeth, yn enwedig y system
torri gwellt. Rhannodd DRC bryderon y Cyng. Bithell ac
aelodau’r Pwyllgor. Fodd bynnag, eglurodd DRC bod yr
arbedion posib yn arwyddocaol a bod y penderfyniad yn awr yn nwylo LlC a’i fod
bellach yn fater i Bolisi LlC. ii) Gofynion
ychwanegol WGTRMM 2015 Rhoddwyd diweddariad gan DRC a chyfeiriodd at
weithgareddau newydd WGTRMM nad oeddynt yn cael eu
cynnal ar hyn o bryd. Byddai’r gweithgareddau ychwanegol hyn yn gwneud i fyny
am sgôp llai’r gwaith a grëwyd gan y system gynnal yn seiliedig ar wybodaeth. Y bwriad fyddai cyflwyno’r SDA diwygiedig ym mis Tachwedd. Bwriadwyd
i'r Asiant gyfarfod gyda Thîmau Cyflawni pob AP i egluro’r gofynion cyn
gweithredu’r newidiadau yn ystod 2016. |
|
UFA Cofnod: Cytundeb Partneriaeth – Tynnodd Dilwyn Williams sylw’r aelodau at bwysigrwydd
diogelu’r Cytundeb Partneriaeth a’r angen i gynnal yr ymdrechion a wnaed gan
bob parti hyd yma i sicrhau parhad model cyflawni’r sector cyhoeddus, yn
enwedig dros y cyfnod fyddai’n arwain at etholiad 2016 a thu
hwnt. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Cofnod: Cytunodd aelodau y byddai’r Cyd-bwyllgor nesaf yn cyfarfod
ym mis Mai 2016. Byddai dyddiadau’n cael eu cylchredeg er mwyn
cael cytundeb. |