Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:- Dewi Owen, Elfed Roberts a
Mair Rowlands. Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru),
Dilwyn Elis Hughes (UCAC) a David Healey (ATL) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau
o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gan gyfeirio at eitem 7 o gofnodion y
cyfarfod blaenorol – Cynigion Arbedion yr Adran Addysg ac Ysgolion a’r Adran Economi
a Chymuned, nododd aelod na chredai fod brawddeg olaf y cofnod o’r drafodaeth a
phenderfyniad (b), er yn gywir, yn gwneud cyfiawnder â naws y drafodaeth, o
gofio bod y pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad, ond ddim wedi cymeradwyo’r hyn
oedd ynddo. Mewn ymateb i’r sylw, nododd y Cadeirydd ei
fod o’r farn bod y paragraffau uwchben y penderfyniad yn gwneud yn glir nad
oedd y pwyllgor yn derbyn bod y toriadau’n dderbyniol. Roedd barn y pwyllgor wedi’i gyflwyno i’r
Cabinet, oedd bellach wedi penderfynu nad oeddent am weithredu’r arbedion. Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU AIL-FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID PDF 36 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Cynhelir sesiwn
anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor craffu ar gynnydd blwyddyn
gyntaf yr ail-fodelu. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan egluro
bod y blaen adroddiad yn adrodd y naratif, sef hanes y daith, tra bo’r atodiad,
sef y rhan pwysicaf yn ei dŷb ef, yn manylu ar yr hyn oedd wedi digwydd yn
ystod blwyddyn gyntaf yr ail-fodelu, h.y. beth oedd wedi mynd yn dda a beth
oedd ddim wedi mynd cystal. Eglurodd
mai’r prif gasgliad oedd bod y rhaglen waith wedi’i chwblhau, ond bod y
gwasanaeth yn parhau ar daith hir sy’n newid yn gyson. Roedd y daith honno, yn ogystal â chael ei
llywio gan ddeddfwriaeth, yn cael ei llywio gan bobl ifanc Gwynedd hefyd, ac
roedd hynny’n greiddiol i’r holl daith.
Nododd ymhellach mai un o’r problemau mwyaf oedd yr heriau o ran
recriwtio staff, yn arbennig gweithwyr yn y clybiau cymunedol. O ran yr asesiad effaith o’r newid, roedd yr
adroddiad yn amlygu nad oedd effaith negyddol wedi ei adnabod. Roedd llawer o waith yn mynd ymlaen gyda
grwpiau megis yr Urdd a nifer o fudiadau eraill yn y trydydd sector, e.e. Fran
Wen, ac roedd y bartneriaeth gyda’r mudiadau hynny yn datblygu o ddydd i
ddydd. Nododd hefyd bod ymgorffori’r
Gwasanaeth Ieuenctid o fewn yr Adran Plant a Theuluoedd wedi agor llawer o
ddrysau i’r gwasanaeth, oedd bellach yn cydweithio llawer mwy gydag adrannau
eraill o fewn y Cyngor, ynghyd ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â lles bobl
ifanc. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ·
Gan
gyfeirio at baragraff 3.9 o’r adroddiad, tynnwyd sylw gan aelod at y ffaith bod
clwb wedi’i sefydlu ym Mryncrug bellach. ·
Mewn
ymateb i gais gan yr aelod lleol am gymorth y gwasanaeth i ddod o hyd i leoliad
addas ar gyfer Clwb Ieuenctid Penygroes, nodwyd bod y gwasanaeth yn ymwybodol
o’r heriau ac yn barod iawn i gefnogi.
Roedd trafodaethau eisoes wedi’u cynnal gyda’r Adran Addysg, ayb, ac
roedd bwriad i geisio cynnal trafodaethau pellach, e.e. gyda’r Ganolfan Byw’n
Iach. ·
Mewn
ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y broblem recriwtio staff yn y clybiau
cymunedol yn deillio o’r ffaith na allai’r clybiau gynnig digon o oriau i wneud
y swyddi’n rhai llawn-amser, na thebyg i hynny.
Hefyd, roedd yn ymddangos nad oedd natur y gwaith yn denu nifer uchel o
ymgeiswyr am y swyddi. ·
O
ran niferoedd, eglurwyd bod angen dau aelod o staff ymhob clwb, ond yr anelid
am dri ymhob lleoliad, rhag gorfod cau’r clwb am noson oherwydd salwch. Mewn achosion o’r fath, ceisid cael rhywun o
Glwb Ieuenctid Gwynedd i lenwi’r bwlch, ond nid oeddent ar gael bob amser gan
eu bod wedi trefnu gweithgareddau eraill. · O ran y ddarpariaeth ym Mhwllheli, eglurwyd, fel mannau eraill, bod y model newydd yn ymweld â’r dref i gynnal gweithgareddau am gyfnod. Y bobl ifanc eu hunain oedd yn dewis y gweithgareddau. Roedd rhai o’r clybiau cymuned wedi gweld yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |