Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER Sicrwydd o ran gweithrediad y Cynllun Ymateb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD 1.
Derbyn a nodi’r adroddiad a’r rhaglen waith
gan ofyn am ddiweddariad mewn 6 mis. 2.
Argymell i’r Cabinet: Ffrwd Gwaith 1: Llais y
Plentyn a Chefnogi Dioddefwyr ·
Dylid sefydlu trefniadau mesuradwy sy’n
dangos yn glir sut mae llais y plentyn a phrofiad dioddefwyr yn dylanwadu’n
uniongyrchol ar benderfyniadau a chanlyniadau; ·
Bod angen sicrhau cefnogaeth hirdymor i
ddioddefwyr heb beri rhagor o drawma; ·
Bod angen rhoi sylw priodol i blant sy’n
wynebu heriau ac osgoi rhagfarn ddiarwybod; ·
Dylid sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn
hawdd i’w ddarllen ac yn hygyrch i blant. Ffrwd Gwaith 2: Rheoli
Honiadau a Phryderon am Oedolion sy’n gweithio gyda Phlant ·
Dylai’r trefniadau ar gyfer rheoli honiadau
a phryderon sicrhau bod unrhyw amheuaeth am addasrwydd oedolion i weithio gyda
phlant ac oedolion bregus yn cael ei hasesu’n gynnar, ei uwch gyfeirio yn
briodol, a’i herio’n annibynnol, beth bynnag yw statws ymarferydd; ·
Bod angen trefniadau diogelu clir ar gyfer
unigolion sy’n codi pryderon; ·
Bod angen edrych ar ddigwyddiadau sydd ddim
yn ymwneud yn uniongyrchol efo plant; ·
Dylid casglu tystiolaeth i ddangos fod newid
yn digwydd ac i alluogi craffu yn y dyfodol; ·
Dylid ystyried ymestyn cyfnod amser yr awdit
o honiadau Rhan 5, Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ymhellach na dwy flynedd; ·
Dylid gwirio bod mecanwaith mewn lle i
sicrhau, os oes angen, y symudir o brosesau adnoddau dynol i weithdrefnau Rhan
5. Ffrwd Gwaith 3:
Hyfforddiant a Pholisïau ·
Dylai polisïau a hyfforddiant fod yn drylwyr
a chael eu hadolygu i gefnogi barn broffesiynol a her; ·
Bod angen tystiolaethu bod hyfforddiant yn
newid ymddygiad a phenderfyniadau yn ymarferol, nid mater o bresenoldeb yn
unig; ·
Dylai cofnodion diogelu cael eu hadolygu a’u
goruchwylio’n rheolaidd gan swyddog penodol er mwyn sicrhau eu bod yn unol â’r
gofynion; ·
Dylai ‘grooming’ gael ei adnabod yn
benodol yn nhrefniadau hyfforddiant a chael sylw amserol. Ffrwd
Gwaith 4: Llywodraethiant Ysgolion ·
Dylai trefniadau llywodraethu ysgolion gael
eu cryfhau i adnabod patrymau risg dros amser, sicrhau llwybrau uwch gyfeirio
clir, a chynnwys elfen o her neu sicrwydd annibynnol; ·
Dylid cynnig cefnogaeth addas i arfogi
llywodraethwyr i herio’n briodol ac adnabod patrymau; ·
Bod angen ystyried yr hyfforddiant a
ddarperir ar gyfer Cadeiryddion a Llywodraethwyr Dynodedig Diogelu. Ffrwd Gwaith 5: Grym
Rhesymol ·
Dylid sicrhau bod staff yn deall pryd mae
defnyddio grym rhesymol yn briodol, a’u bod yn teimlo’n hyderus ac wedi’u
cefnogi i weithredu i ddiogelu plant; ·
Dylid sicrhau bod adolygiadau’n canolbwyntio
ar ddysgu gwersi yn hytrach na beio. Ffrwd Gwaith 6: Cynllunio
Argyfwng ac Ymateb i Argyfwng Diogelu ·
Dylai cynllunio ac ymateb i argyfwng gael ei
drin fel proses fyw sy’n rhan o’r broses ddiogelu a dylid ei brofi yn
rheolaidd; ·
Bod angen eglurder o ran rolau; ·
Dylid sicrhau cyfathrebu effeithiol efo
staff; ·
Bod angen adolygu trefniadau yn barhaus er
mwyn sicrhau bod gwersi a ddysgwyd o Ysgol Friars yn parhau’n weithredol dros
amser. Ffrwd Gwaith 7: Cefnogi a
Sefydlogi Ysgol Friars · Dylai cefnogi a sefydlogi Ysgol Friars gael ei ddefnyddio fel sail i ddysgu ar lefel system gyfan, gan brofi bod sefydlogrwydd wedi arwain ... view the full Penderfyniad text for item 4. |