Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:- Beth Lawton, Dewi Owen, Mair
Rowlands a Gareth Williams. Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru) a
David Healey (ATL) Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet
Economi) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths
fuddiant personol yn yr eitemau a ganlyn am y rhesymau a nodir isod:- ·
Eitem 6 - Cefnogi Busnesau Gwynedd i Ymateb i Brexit -
oherwydd bod ei fab yn gyd-awdur yr adroddiad.
Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni
adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. ·
Eitem
8 – Amlinelliad o’r Cynllun TRAC yng Ngwynedd – oherwydd bod ei
ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i’r gwasanaeth. ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2019 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2019 fel rhai cywir. |
|
ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI PDF 105 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm) *10.30yb – 11.30yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi yn manylu ar y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma o ran datblygu opsiynau
rheoli ar gyfer yr Hafan a Harbwr Pwllheli. Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr
adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau/ sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Cafwyd atebion i nifer o gwestiynau yn ystod y drafodaeth ac mae
hyn wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o’r sefyllfa ym Mhwllheli. ·
Mae’r aelodau wedi pwysleisio bod sicrhau datrysiad
i’r sefyllfa carthu a chael gwared â’r gwaddod i gadw’r sianel yn glir yn gwbl
greiddiol i’r holl sefyllfa. ·
Mae’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser bellach, ac
mae angen bwrw ymlaen yn awr gyda’r achosion busnes. Mae angen mwy o eglurder ynglŷn â’r
costau buddsoddi posib’, y cyfleoedd posib’, y berthynas gyda Phlas Heli, ayyb,
er mwyn codi safon a denu mwy o gwsmeriaid i’r Hafan. ·
Mae angen parhau i ymgysylltu â chwmnïau
lleol, ayb. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad, a gofyn am ddiweddariad buan ar y Cynllun Rheoli’r Hafan a’r Harbwr
(gan gynnwys yr achosion busnes) i’r pwyllgor craffu hwn. |
|
CEFNOGI BUSNESAU GWYNEDD I YMATEB I BREXIT PDF 70 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm) *11.30yb – 12.15yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi yn amlinellu sut mae’r Cyngor, a sefydliadau eraill, yn cynyddu
ymwybyddiaeth busnesau o oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb
Ewropeaidd (Brexit) ac yn eu cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n deillio. Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr
adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau/ sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Gan
fod sefyllfa Brexit yn newid yn barhaus, a neb yn gwybod beth sy’n mynd i
ddigwydd, mae’n anodd iawn rhoi sylwadau pendant. ·
Fodd
bynnag, mae’n glir o’r adroddiad a’r atebion a roddwyd bod y Cyngor yn rhoi
cefnogaeth i’r sector busnes i wynebu heriau Brexit a bod angen i ni barhau â’r
gefnogaeth yma, gan ganolbwyntio yn arbennig ar y byd amaeth a thwristiaeth a
chefn gwlad, a hefyd y sector bysgota. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. |
|
ARBEDION 2020/21 - ADRAN ADDYSG AC YSGOLION AC ADRAN ECONOMI A CHYMUNED PDF 73 KB Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Gareth Thomas a
Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm) *12.15yp – 1yp *TORIAD AM GINIO – 1yp – 1.45yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg a’r Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion yr
Adran Addysg ac Ysgolion a’r Adran Economi a Chymuned i ddygymod gyda’u cyfran
o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21, ynghyd â chynnig cynlluniau amgen
i gyfarch diffyg cynlluniau arbedion cyfredol ar gyfer yr Adran Addysg. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Addysg, y ddau
Bennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i
gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Cynigion Arbedion yr Adran Economi a
Chymuned Yn ystod y drafodaeth, nodwyd, er y
derbynnid y byddai’r cynigion arbedion yn cael rhywfaint o effaith ar drigolion
Gwynedd, bod yr Adran wedi llwyddo i leihau’r effaith gymaint â phosib’. Cynigion Arbedion yr Adran Addysg ac
Ysgolion Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cryn bryder
gan aelodau ynglŷn â dau gynnig arbed yn benodol, sef ‘Integreiddio –
Cynllun Datblygu Unigol (CDU)/Datganiadau’ (£112,530) a chynyddu’r gymhareb
disgybl / athro yn y fformiwla dyrannu (£463,900). Wedi derbyn rhywfaint o esboniad pellach am
yr hyn y byddai’r naill gynllun a’r llall yn ei olygu i ysgolion y sir, nodwyd
y byddai’r naill yn golygu llai o gymorth i ddisgyblion gydag anghenion dysgu
ychwanegol sydd ddim yn destun CDU / Datganiad a’r llall yn arwain at leihau
nifer athrawon a / neu leihau niferoedd staff ategol, gan effeithio ar safonau
addysgol. Nodwyd ymhellach gan aelodau:- ·
Bod
yr ysgolion wedi gorfod torri nôl i’r asgwrn yn barod. ·
Y
dylai’r Cyngor anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn datgan anfodlonrwydd llwyr
ynglŷn ag annigonolrwydd y grant, sydd wedi arwain at sefyllfa ariannol
lle mae’r Cyngor yn gorfod gwneud arbedion sylweddol. ·
Y
dylid ail-edrych mewn mwy o fanylder ar y cynigion er mwyn gweld beth yn union
sy’n cael ei argymell. ·
Na
all yr ysgolion wneud eu gwaith heb yr arian a bod y newidiadau’n effeithio ar
forâl athrawon a phlant fel ei gilydd. ·
Y
dylid chwilio am arbedion yn rhywle arall. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd y Prif
Weithredwr:- ·
Eleni,
am y tro cyntaf, bod gwariant y pen ar addysg yng Ngwynedd yr uchaf ymhlith
holl awdurdodau gwledig Cymru, a hyd yn oed o wneud y toriadau hyn, byddai
Gwynedd yn dal ar y brig. ·
Y llwyddwyd i warchod y gyllideb ysgolion yn gyfan
gwbl y llynedd. ·
Bod
y Cyngor hwn wedi bod yn llythyru, ac yn cyfarfod gyda’r Llywodraeth yn gyson,
a bod y Llywodraeth yn fyw iawn i’r pryderon. ·
Fel cyngor darbodus, bod rhaid cynllunio ar gyfer y
posibilrwydd o orfod canfod y bwlch posib’ o £2m yng nghyllideb 2020/21. ·
Bod
pob adran o’r Cyngor yn gwegian bellach, a rôl y pwyllgor craffu oedd
penderfynu, os bydd yn ofynnol i’r Adran ddod â chynigion arbedion ymlaen, ai’r
cynigion a restrwyd yn yr adroddiad, neu gynigion eraill, fyddai’n cael lleiaf
o ardrawiad ar blant y sir. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod ystyriaeth ddwys wedi’i rhoi i’r holl opsiynau. Ni allai wneud argymhellion yn unman arall a’r cynlluniau gerbron oedd y rhai fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
AMLINELLIAD O'R CYNLLUN TRAC YNG NGWYNEDD PDF 70 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm) *1.45yp – 2.30yp Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn rhoi amlinelliad o’r Cynllun TRAC, sydd yn darparu cefnogaeth
ychwanegol i gynnal plant bregus o fewn ysgolion neu eu hymgysylltu yn ôl â’u
haddysg. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Dymuna’r pwyllgor longyfarch yr Adran ar eu gwaith ac roedd yr
aelodau yn ymfalchïo o ddeall bod bywydau plant, fyddai fel arall wedi disgyn
drwy’r rhwyd, yn cael eu gweddnewid. ·
Bod yr adroddiad yn amlygu’r hyn sy’n
bosib’ i’w wneud pan mae’r adnoddau ar gael a bod gwers yma i wleidyddion ar
bob lefel. ·
Bod yr adroddiad hefyd yn dangos y gwahaniaeth y gall cynllunio
pwrpasol ei wneud. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
DIWEDDARIAD GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD GWYNEDD A MON PDF 59 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm) *2.30yp – 3.15yp *amcangyfrif o’r
amseroedd Cynhelir sesiwn
anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn rhoi diweddariad o ran datblygiad y strwythur gwasanaeth newydd a'r
newidiadau deddfwriaethol fydd yn dod yn weithredol ym mis Medi 2021. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Codwyd cwestiwn gan aelod ar ran unigolyn
oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod ynglŷn â sefyllfa gyllidol
ysgol benodol. Gan na fyddai’n briodol
trafod hynny mewn fforwm agored, awgrymwyd bod yr awdur yn cynghori’r ysgol dan
sylw i gysylltu â’r adran. Crynhodd
y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Mae cydnabyddiaeth ymysg yr aelodau o’r gwaith manwl sy’n digwydd
o fewn yr Adran. ·
Derbynnir bod yna heriau, ond mae datblygiadau mawr wedi cymryd
lle a chroesawir y ffaith y bydd hynny’n parhau. Hefyd, roedd y pwyllgor yn ymfalchïo o glywed
bod Gwynedd gymaint ar y blaen i awdurdodau eraill yn y maes yma. ·
Dymuna’r pwyllgor longyfarch yr Adran ar eu gwaith ac roedd yr
aelodau yn falch iawn o ddeall bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg i bob
plentyn, waeth beth yw’r anawsterau. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. Ar derfyn y
cyfarfod, nododd y Pennaeth Addysg fod y Rheolwr Cynllun TRAC a’r Uwch Reolwr
Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn gweithio o fewn y ddau faes mwyaf
anodd o fewn y gwasanaeth addysg, gydag adnoddau prin, a diolchodd i’r ddwy
ohonynt a’u timau am eu gwaith yn gweddnewid bywydau’r plant mwyaf bregus ac
anghenus. |