Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Courtney Leigh Jones  E-bost: courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymdiheuriadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Jina Gwyrfai.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorydd Elin Walker Jones. Nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod.  

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER pdf eicon PDF 239 KB

Sicrwydd o ran gweithrediad y Cynllun Ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1) Nodi’r rhaglen waith

2) Gofyn am adroddiad cynnydd mewn 6 mis ar y rhaglen waith gan gynnwys gwybodaeth am y polisi canu’r gloch a’i weithrediad

3) Gofyn am adroddiad ar y gwaith o sicrhau statws Sir Plentyn Gyfeillgar a dod yn Gyngor Trawma Wybodus

4) Gofyn i’r Cabinet ystyried

  • ychwanegu enw cyswllt benywaidd allanol i’r poster rhannu gwybodaeth am bryderon a sicrhau bod manylion cyswllt ar gael ar wefannau ysgolion a gwefan y Cyngor
  • rhoi sylw i lais y teulu yn ogystal â llais y plentyn yn ffrwd gwaith 1
  • diwygio’r testun o dan y pennawd ‘2.3 – Archwiliad Estyn o Adran Addysg y Cyngor’ ar dudalen 18 y Cynllun Ymateb i gynnwys brawddeg sy’n adlewyrchu y cyd-destun sef serch y ganmoliaeth gan Estyn arestiwyd pennaeth ysgol ychydig fisoedd wedyn
  • sicrhau bod hyfforddiant meithrin perthnasoedd amhriodol ‘grooming’ ar gael i bawb sydd ei angen
  • darparu hyfforddiant diogelu arbenigol allanol i aelodau ac i lywodraethwyr
  • ychwanegu “lles plant a phobl ifanc” at ddisgrifiad ffrwd gwaith 7 - Cefnogi a Sefydlogi Ysgol Friars
  • gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am y heriau a’r risgiau ynghylch rôl llywodraethwyr ysgolion

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, gan ddiolch i aelodau’r pwyllgor am y cyfle i ddod a’r Cynllun Ymateb i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder i graffu, cyn iddo gael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cabinet. Ymddiheurwyd eto i’r holl ddioddefwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddu erchyll Neil Foden, a chydnabuwyd bod y Cyngor wedi eu methu, ac ni chafodd lleisiau plant eu clywed. Pwysleisiwyd ymrwymiad y Cyngor i weithredu a sicrhau bod pethau yn newid. Dywedwyd bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r addewid i ddysgu a newid, er mwyn sicrhau ni fydd methiannau o’r un fath byth yn digwydd eto. Amlygwyd bod y Cynllun Ymateb yn gam ar y daith hir ymlaen i adfer hyder ymhlith y cyhoedd, trigolion a staff, a nodwyd bod tryloywder yn hanfodol i hyn. Nodwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw, ac yn gyhoeddus. Nodwyd bod cofnodion cyfarfod y bwrdd rhaglen hefyd yn gyhoeddus, felly bydd modd i weld a monitro’r cynnydd sydd yn digwydd. Cydnabuwyd nad yw’r mater hwn yn fater hawdd i drafod, a chydnabuwyd bod canfyddiadau’r adroddiad yn erchyll. Diolchwyd am barodrwydd yr aelodau i graffu’r pwnc anodd yma, ac i gyfrannu at wellhad gweithdrefnau diogelu plant er mwyn sicrhau ni fydd hyn yn digwydd byth eto yng Ngwynedd. Diolchwyd am arweiniad arbennig yr athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.

Nodwyd bod cynnydd i weld mewn sawl adran yn y Cynllun, a nodwyd ei fod yn enghraifft o gydweithio trawsadrannol i gyrraedd yr un nod, sef i wella trefniadau diogelu yng Ngwynedd. Mynegwyd bod y Cyngor yn cydnabod bod gwarchod a diogelu plant rhag niwed yn gyfrifoldeb ar bawb, a chroesawyd sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw feirniadaeth gan aelodau er mwyn adeiladu a gwella’r Cynllun ac i sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn gyflawn ac yn drwyadl. Pwysleisiwyd pwysigrwydd mewnbwn aelodau i gryfhau’r Cynllun Ymateb ac i helpu llunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc y sir. 

Manylwyd ar y Cynllun Ymateb gan y Prif Weithredwr. Nodwyd bod y Cynllun Ymateb cyntaf wedi ei gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl, ymhell cyn cyhoeddiad yr adolygiad ymarfer plant. Nodwyd bod llawer wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod yma, gan nodi bod oddeutu 42 i 43 o dasgau gwaith gwahanol wedi eu cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio mynd i’r afael a’r hyn mae’r Cyngor yn ei wynebu. Esboniwyd fod cydnabyddiaeth wedi bod o’r cychwyn y byddai angen ail edrych ar y Cynllun Ymateb yn dilyn cyhoeddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant, er mwyn gweithredu ar yr argymhellion priodol.

Cyfeiriwyd at atodiad 2 sydd yn cynnwys adroddiadau sydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith ymateb i’r adolygiad, crynhoi beth sydd wedi newid ac yn amlygu’r pethau pwysig ar y gweill. Tynnwyd sylw’r aelodau at atodiad 3, sydd yn cynnwys y rhaglen waith byw sydd ar waith gan y Cyngor i fonitro’r cynnydd sydd yn digwydd ymhob adran mewn ymateb i’r argymhellion. Manylwyd ar y rhaglen waith, gan nodi ei fod yn cynnwys bob argymhelliad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.