Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Anwen Davies ac R.Medwyn
Hughes. Y Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol yn eitem 7 - Prosiect Gofal Cartref - am y rhesymau a nodir isod:- ·
Y
Cadeirydd, Y Cynghorydd Dewi Roberts, oherwydd bod ei wraig yn gweithio yn y
maes gofal cartref yn ardal Dwyfor. ·
Y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams oherwydd bod ei wraig yn derbyn gofal cartref. ·
Y
Cynghorydd Angela Russell oherwydd bod ei thad yn derbyn gofal cartref. ·
Y
Cynghorydd Gareth T.M.Jones oherwydd bod ei fam yn derbyn gofal cartref. Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn
fuddiannau sy’n rhagfarnu, a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem. Yn absenoldeb y Cadeirydd,
cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2019 fel rhai cywir. |
|
Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Craig ag Iago,
Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan Ystyried
adroddiad ar yr uchod Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc, yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Aelod
Cabinet Tai ac Eiddo yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion arbedion yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd, yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Tai
ac Eiddo i ddygymod gyda’u cyfran o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21,
ac ystyried beth fyddai hynny, neu’r opsiynau amgen, yn ei olygu. Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a’r
penaethiaid ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau. Arbedion Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd pryder gan
nifer o aelodau y byddai’r toriad o £30,000 i Cymorth i Ferched yn arwain at
fwy o gostau i’r Cyngor yn y pen draw a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwneud
asesiad llawn o’r ardrawiad posib’ ar y Cyngor. Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd fod y cynlluniau hanesyddol yn uchelgeisiol
iawn. Manylodd ar yr elfen a wireddwyd
eisoes gan nodi bod tasglu wedi’i sefydlu i edrych oedd modd canfod gweddill yr
arbedion yn rhywle arall. Nid oedd
llawer o fanylder ar hynny ar gael eto, ond nododd y gallai ddod ag adroddiad
yn ôl i’r pwyllgor maes o law. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y gellid dod
ag adroddiad y tasglu yn ôl i’r aelodau arsylwi arno, ond gan fod y Cabinet
angen gwneud penderfyniad yn eithaf sydyn ar y cynigion arbedion, roedd amser
yn brin. Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Mynegwyd
pryder yn gyffredinol ynglŷn ag effaith y cynigion arbedion ar drigolion
bregus y sir a phwysleisiwyd pwysigrwydd monitro’r effaith. ·
Mynegodd
nifer o aelodau bryder neilltuol ynglŷn â’r cynnig i dorri dwy swydd
Gweithiwr Cefnogol Iechyd Meddwl (£42,000) ar sail y galw cynyddol am y
gwasanaeth yn sgil y cynnydd mawr mewn problemau iechyd meddwl plant a phobl
ifanc. Awgrymwyd bod angen mwy, nid llai
o weithwyr, ac y byddai’r toriad hwn yn costio mwy i’r Cyngor yn y pen
draw. Nodwyd hefyd bod iechyd meddwl yn
flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd, ac y dylai’r gwasanaeth
gael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd.
Fodd bynnag, roedd y gwaith yn cael ei basio ymlaen i’r cynghorau, heb
adnoddau digonol ar ei gyfer. ·
Mynegwyd
pryder neilltuol gan nifer o aelodau ynglŷn â’r cynnig i leihau’r gyllideb
ar gyfer cefnogi gofalwyr, yn cynnwys rhai cynlluniau ysbaid (£19,000). Pwysleisiwyd y byddai’r straen ar y teuluoedd
a effeithid yn ddychrynllyd ac y byddai’r toriad hwn yn costio mwy i’r Cyngor
yn y pen draw. Ar nodyn cyffredinol, holwyd a oedd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu fel y dylent, e.e. roedd y gost o ofalu am bobl fregus sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn disgyn ar y Cyngor. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fod yna berthynas dda rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor, gan gydnabod hefyd bod yna rai heriau, ond roedd o’r farn bod y sylw’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YMDRIN Â CHWYNION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2018-2019 Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc yn rhoi trosolwg o’r cwynion a’r ceisiadau gwybodaeth a
datganiadau o werthfawrogiad a dderbyniwyd yn ystod 2018/19. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Mynegwyd gwerthfawrogiad y pwyllgor o waith
caled y staff a nodwyd ei bod yn galonogol gweld bod cyn lleied o gwynion
wedi’u cyflwyno a chyn lleied o’r cwynion hynny wedi mynd ymlaen i Gam 2. Nodwyd, er bod yr wybodaeth hanesyddol yn
gynwysedig yn yr adroddiad, y byddai’n fuddiol gweld y ffigurau ar ffurf tabl,
er mwyn gweld yn glir oes patrwm wedi datblygu. Gan gyfeirio at gŵyn GC/3257-15 yn
Atodiad 3 i’r adroddiad, ac yn benodol farn gref yr Ombwdsmon y dylai
hyfforddiant ar awtistiaeth fod ar gael i bawb o fewn yr Adran, ac nid i staff
Derwen yn unig, holwyd a fu unrhyw ddatblygiad pellach ar hynny. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Diogelu ac
Ansawdd:- ·
Yn
ychwanegol i’r cwestiwn o hyfforddiant, bod cwestiwn ynglŷn â gallu’r
gweithwyr cymdeithasol i ymdopi â sefyllfaoedd lle mae yna elfennau hynod o arbenigol
o fewn asesiadau. ·
Bod
gwasanaeth newydd yn ei le erbyn hyn ar lefel Gogledd Cymru a threfniant yn ei
le fel bod timau o fewn gwasanaethau plant yn gallu cael esboniad o’r hyn y
gellir ei gynnig yn ychwanegol i’r hyn oedd yn bodoli yn flaenorol. ·
Bod
plethiad rhwng hyn â phethau megis canllawiau mynediad i wasanaeth Derwen, ac
ydi rhywun sydd ag awtistiaeth ac sydd â gallu ac yn gallu gweithredu’n
annibynnol yn cael ei ystyried yn anabl, ayb. ·
Gan hynny, roedd yna lawer o gymhlethdod yn yr achos
hwn rhwng y cyngor cyfreithiol a roddwyd, yr hyn mae’r ddeddf yn ddweud a’r hyn
mae’r Ombwdsmon wedi dyfarnu ynghylch sut ddylai hynny gael ei ystyried. ·
Yn
dilyn her ddiweddaraf yr Ombwdsmon, y comisiynwyd arbenigwr ym maes awtistiaeth
i roi cymorth pellach i’r Cyngor i sicrhau bod y trefniadau’n gryfach i’r
dyfodol. ·
Gan
fod yna lobi gref ar gyfer y math yma o wasanaethau arbenigedd, bod cryn bwysau
ar y Cyngor i fedru asesu yn unol â’i ddyletswyddau, ond y credid bod y
plethiad newydd gyda gwasanaeth y Gogledd o gymorth i atgyfnerthu hynny. ·
Y rhoddwyd ymateb i’r Ombwdsmon ar hynny a bod yna
drafodaeth bellach rhwng y Cyngor a’r Ombwdsmon ynglŷn ag i ba raddau
mae’r Ombwdsmon yn fodlon gyda’r camau mae’r Cyngor wedi rhoi mewn lle erbyn
hyn. Nododd yr Aelod Cabinet na ddymunai i’r
pwyllgor fynd i ormod o drafodaeth ar y mater hwn gan fod yr achos yn un byw ac
yn cyfeirio at unigolyn. Eglurodd nad
oedd gan y Cyngor lawer o brofiad o ddelio gyda’r Ombwdsmon, gan mai un achos
yn unig a welwyd mewn sawl blwyddyn, ac awgrymodd y gallai’r Prif Weithredwr
ymhelaethu ar lle mae’r Cyngor wedi cyrraedd o ran ymateb a datblygu’r
berthynas gyda’r Ombwdsmon. Nododd y Prif Weithredwr:- · Y bu hwn yn achos anodd dros ben, a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion ac Ymholiadau Oedolion Iechyd a Llesiant 2018-19 PDF 855 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn rhoi trosolwg o’r cwynion, ymholiadau a
datganiadau o werthfawrogiad a dderbyniwyd yn ystod 2018/19. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Llongyfarchwyd yr Adran ar y lleihad yn
nifer y cwynion a mynegwyd gwerthfawrogiad y pwyllgor o waith caled y staff. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. |
|
PROSIECT GOFAL CARTREF PDF 53 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem hon, oherwydd buddiant y Cadeirydd yn y mater
dan sylw. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn rhoi diweddariad cryno o’r gwaith oedd yn
digwydd i sicrhau model newydd ar gyfer darpariaeth gofal cartref yng Ngwynedd. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Nodwyd
bod y model newydd hwn ar gyfer darpariaeth gofal cartref yn gosod Gwynedd ar
flaen y gad. ·
Croesawyd
y pwyslais ar gyfathrebu gyda’r gweithwyr. ·
Croesawyd
y cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i gyflwyno’r achos busnes i’r Pwyllgor Cyllid
a Chynllunio, a mynegwyd gobaith y byddai cyd-gomisiynu’n digwydd, gan y byddai
hynny’n dod â buddion i’r ddau bartner. ·
Nodwyd
ei bod yn galonogol clywed, petai rhai darparwyr yn tynnu allan / ddim yn
cyrraedd y gofynion, bod gan y Cyngor ddarparwyr mewnol o faint sylweddol fyddai’n
gallu cyflogi’r staff. Nodwyd y byddai’r pwyllgor yn derbyn
gwybodaeth bellach wrth i’r gwaith symud yn ei flaen ac y byddai angen trafod
gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd hefyd. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. |